Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Cyhoeddwyd 22/12/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2024   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft 2024-25 ar 19 Rhagfyr 2023.

Cliciwch i archwilio dyraniadau allweddol y gyllideb.

Mae’r ffeithluniau isod yn crynhoi’r dyraniadau allweddol gan adrannau’r llywodraeth a sut maent wedi newid o Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24 (wedi'i hailddatgan).

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £20, 860m (i fyny £776m neu 3.9 y cant). DEL Cyfalaf: £2,793m (gostyngiad o £92m neu 3.2 y cant). Cyfanswm DEL: £23,653m (i fyny £684m neu 3.0 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,777m (i fyny £2,777m neu +34.8 y cant). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £26,429m (i fyny £1,401m neu 5.6 y cant).

DEL yw’r rhan o’r gyllideb y gall Llywodraeth Cymru ddewis sut i’w gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

AME yw’r rhan o’r gyllideb na all Llywodraeth Cymru ei gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £11,690m, cynnydd o £929m (8.6%). Cyllid a Llywodraeth Leol £5,092m, gostyngiad o £33m (-0.6%). Newid Hinsawdd £2,848m, gostyngiad o £84m (-2.9%). Y Gymraeg ac Addysg £2,586m, gostyngiad o £56m (-2.1%). Yr Economi £541m, gostyngiad o £4m (-0.8%). Materion Gwledig £420m, gostyngiad o £29m (-6.4%). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu £333m, gostyngiad o £27m (-7.4%). Cyfiawnder Cymdeithasol £142m, gostyngiad o £12m (-7.6%).

* Heb gynnwys tua £1.1 biliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £514 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 i gael yr union ffigurau.

Ceir eglurhad o derminoleg y gyllideb yng ngeirfa’r gyllideb.


Erthygl gan Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru