Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2022-23

Cyhoeddwyd 07/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r Gyllideb ar gyfer 2022-23 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau a'i hasiantaethau cysylltiedig, er enghraifft byrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Cyhoeddwyd y gyllideb derfynol ar gyfer 2022-23 ar 01 Mawrth 2022.

Gwybodaeth am y diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r teclyn hwn i archwilio Cyllideb Derfynol 2022-23. Mae'n caniatáu i chi weld dyraniadau o'r gyllideb ar wahanol lefelau, o'r portffolio hyd at y  llinell wariant yn y gyllideb (sef y lefel fwyaf manwl).

Er cymhariaeth â 2021-22, gweler y diagram rhyngweithiol ar gyfer archwilio’r Gyllideb Ddrafft.

Y gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yw'r refeniw yn ogystal â dyraniadau cyfalaf. Mae maint pob nod yn cyfateb i'r gyfran o'r gyllideb. Mae gwahanol liwiau'n cynrychioli gwahanol bortffolios.

O dan 'gweld opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canran o'r flwyddyn ariannol flaenorol. Yn yr opsiynau hyn, mae meintiau'r cylchoedd yn amrywio yn ôl maint y newid mewn termau arian parod. Caiff y nodau eu lliwio'n goch i ddynodi gostyngiad ac yn las i ddangos cynnydd, gyda lliw tywyllach yn dynodi newid canrannol mwy o faint.

Mae rheolyddion ar gyfer gosod y tabl a'i ddangos ar sgrin lawn ar gael yn y tab 'gweld opsiynau'.

Lawrlwytho’r data