Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 29/09/2026

Cyhoeddwyd 29/09/2026   |   Amser darllen munud

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae Christiana Emsley AS yn gofyn am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio'n llawn ac yn brydlon â'u rhwymedigaethau cyfreithiol o ran rhyddid gwybodaeth a mynediad at ddata personol.

Gwybodaeth: Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wybodaeth ddefnyddiol am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a phwy sy'n gorfod cydymffurfio â hi.


Cwestiwn: Mae Jayne Bryant AS yn gofyn am ddiweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i adolygu'r fformiwla ariannu llywodraeth leol.

Gwybodaeth: Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol.


Cwestiwn: Mae Marc Jones AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau cerddoriaeth annibynnol a llawr gwlad i ffynnu.

Gwybodaeth: I gael gwybodaeth gefndir am yr heriau sy'n wynebu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, gweler ein herthygl o 2021 'Cerddoriaeth fyw: o argyfwng i bandemig'.


Cwestiwn: Mae Elyn Stephens AS yn gofyn i'r Prif Weinidog amlinellu sut y bydd trigolion Afan Ogwr Rhondda yn elwa o'r strategaeth ynni genedlaethol.

Gwybodaeth: Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer Strategaeth Ynni Genedlaethol newydd ac amlinellodd y manteision a fwriadwyd i gymunedau.


Cwestiwn: Mae Carmelo Colasanto AS yn gofyn am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r defnydd o agregau o ansawdd uchel, wedi'u hailgylchu a'u golchi, mewn prosiectau adeiladu ledled Cymru.

Gwybodaeth: Edrychodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar y defnydd o ddeunyddiau diwydiannol ac adeiladu fel rhan o'i Asesiad Seilwaith Cymru 2026.


Cwestiwn: Mae Carrie Harper AS yn gofyn am ddiweddariad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pellach i Gymru.

Gwybodaeth: Buom yn ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn ein herthygl Datganoli – beth nesaf?, sy’n rhan o’n cyfres Beth nesaf? Materion allweddol ar gyfer y Seithfed Senedd.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau i geisio datganoli pellach ym Mhennod 6 o'i Rhaglen Lywodraethu ddiweddar.


Cwestiwn: Mae James Evans AS yn gofyn am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd ym Mrycheiniog Tawe Nedd.

Gwybodaeth: Mae Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2026-2029 Llywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad a chanllawiau i helpu sefydliadau iechyd i gynllunio.


Cwestiwn: Mae Niamh Salkeld AS yn gofyn am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd plentyn mewn bywyd yn cael eu pennu gan le maen nhw'n tyfu i fyny.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl O'r crud i'r bedd: torri cylch anghydraddoldeb a thlodi, yn archwilio sut mae tlodi ac anghydraddoldeb strwythurol yn siapio addysg, iechyd a chanlyniadau bywyd diweddarach plant.


Cwestiwn: Mae Art Wright AS yn gofyn i'r Prif Weinidog wneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi ymgyrch y Gwarchodlu Cymreig i geisio'r gwir am ddigwyddiad RFA Syr Galahad ar 8 Fehefin 1982.


Cwestiwn: Mae Janet Finch-Saunders AS yn gofyn am flaenoriaethau cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru.

Gwybodaeth: Gweler ein Hadroddiad monitro — Materion Cyfansoddiadol: Medi 2026 ar gyfer datblygiadau polisi allweddol diweddar sy'n ymwneud â materion cyfansoddiadol.


Cwestiwn: Mae Tom Montgomery AS yn gofyn am effaith y polisi Cenedl Noddfa ar faint o dai sydd ar gael yng ngogledd Cymru.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl a'n papur briffio diweddar, Mudo a phwysau tai yng Nghymru, yn trafod y berthynas rhwng mudo a'r galw am dai, gan gynnwys digartrefedd ymhlith ceiswyr lloches a ffoaduriaid, fel rhan o achosion strwythurol ehangach argyfwng tai Cymru.


Cwestiwn: Mae Claire Archibald AS yn gofyn i'r Prif Weinidog am ddiweddariad ar y strategaeth ganser genedlaethol.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Ganser Genedlaethol ar gyfer Cymru gyda'r nod o wella canlyniadau canser. Mae galwad agored am dystiolaeth i lywio'r strategaeth yn rhedeg tan 31 Hydref 2026.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru