Cwestiynau'r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi'r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod mae canllaw cyflym i'r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi'i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.
Gallwch wylio'r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1.30pm ar Senedd.tv.
Cwestiwn: Mae Lynne Neagle AS yn gofyn ynghylch blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer addysg yn Sir Fynwy Torfaen.
Gwybodaeth: Gweler y casgliad o’n cyhoeddiadau ar addysg. Rydym hefyd wedi rhoi sylw i heriau yn y sector addysg fel rhan o gyfres o erthyglau sy’n edrych ar faterion allweddol ar gyfer y Senedd newydd,
Cwestiwn: Mae Louise Emery AS yn gofyn am ddatganiad ar y ddarpariaeth o wasanaethau meddygon teulu yng Nghlwyd.
Gwybodaeth: Cynhaliodd Pwyllgor yn y Chweched Senedd ymchwiliad i ddyfodol meddygaeth deulu yng Nghymru. Mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau presennol a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau.
Cwestiwn: Mae Sarah Cooper-Lesadd AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr adolygiad sydd ar ddod o drefniadau etholiadol y Senedd yn cryfhau hyder y cyhoedd yn nemocratiaeth Cymru.
Gwybodaeth: Mae modd i Bwyllgor yn y Senedd adolygu trefniadau etholiadol y Senedd ac i ba raddau y mae elfennau o ddemocratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru (gweler Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024). Rydym yn trafod hyn yn gryno mewn erthygl ar drefniadau neilltuo seddau yn y system etholiadol newydd.
Cwestiwn: Mae John Davies AS yn gofyn ynghylch cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol yng Ngŵyr Abertawe.
Gwybodaeth: Gellir dod o hyd i ganllawiau a chymorth i fusnesau yng Nghymru ar wefan Busnes Cymru.
Cwestiwn: Mae Joe Martin AS yn gofyn ynghylch asesiad y Llywodraeth o'r risgiau posibl y cynllun Cenedl Noddfa i ddiogelwch y cyhoedd.
Gwybodaeth: Gweler Diweddariad 2024 o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol am wybodaeth am y cynllun Cenedl Noddfa, gan gynnwys tystiolaeth gyfredol ac effaith y polisi.
Cwestiwn: Mae Mike Hedges AS yn gofyn ynghylch y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gwasanaeth iechyd.
Gwybodaeth: Edrychwyd ar hyn yn ein cyfres o Faterion Allweddol ar gyfer y Seithfed Senedd, lle ymchwiliwyd i a all GIG Cymru fynd yn ddigidol
Cwestiwn: Mae Sera Evans AS yn gofyn ynghylch camau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo dull trawslywodraethol o wella canlyniadau i bobl niwroamrywiol.
Gwybodaeth: Caiff camau gweithredu i gefnogi unigolion niwroamrywiol a'u teuluoedd eu cyflawni drwy'r Rhaglen Gwella Niwroamrywiaeth (NDIP). Nododd Llywodraeth flaenorol Cymru flaenoriaethau’r Rhaglen ar gyfer 2026-27 ym mis Mawrth eleni.
Cwestiwn: Mae Helen Jenner AS yn gofyn am sicrwydd i gymunedau gwledig y bydd sylw gwirioneddol yn cael ei roi i bryderon lleol pan fydd prosiectau ynni gwynt mawr yn cael eu hystyried.
Gwybodaeth: I gymunedau sydd am gymryd rhan mewn penderfyniadau cynllunio, mae Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnig cymorth, ac mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar sut y gall cymunedau gymryd rhan mewn prosiectau seilwaith sylweddol (SIP).
Cwestiwn: Mae Rebeca Phillips AS yn gofyn sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod datblygiad economaidd yn cefnogi ardaloedd gwledig a threfol.
Gwybodaeth: Mae ein casgliad o gyhoeddiadau ar Fusnes, yr Economi a Chyllid yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygiad economaidd. Rydym hefyd wedi edrych ar heriau hen a newydd i adnewyddu economaidd yn ein cyfres o erthyglau ar faterion allweddol ar gyfer y Senedd newydd.
Cwestiwn: Mae Cristiana Emsley AS yn gofyn ynghylch camau gweithredu i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a meithrin ymdeimlad cyffredin o berthyn ledled Cymru.
Gwybodaeth: Cynhaliodd Pwyllgor yn y Chweched Senedd ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol ac ystyriodd adroddiad gan grŵp arbenigol ar y pwnc. Gallwch ddarllen adroddiad y Pwyllgor yma.
Cwestiwn: Mae Art Wright AS yn gofyn am asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau polisi Cenedl Noddfa ar fewnfudo anghyfreithlon i Gymru.
Gwybodaeth: Gweler Diweddariad 2024 o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol am wybodaeth am y cynllun Cenedl Noddfa, gan gynnwys tystiolaeth gyfredol ac effaith y polisi.
Cwestiwn: Mae Catherine Cullen AS yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am lefelau halogiad metel trwm sy'n gysylltiedig â thomenni glo yn afonydd Cymru.
Gwybodaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n mynd i’r afael â llygredd o fwyngloddiau metel, ochr yn ochr â'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. Gweler y rhaglen mwyngloddiau metel am ragor o wybodaeth.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru