Cwestiynau'r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi'r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod mae canllaw cyflym i'r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi'i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i'w gweld yma.
- Art Wright AS yn gofyn am berfformiad unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghasnewydd ac Islwyn.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data am amser a dreuliwyd yn adrannau brys y GIG.
- David Mills AS yn gofyn am gamau i fynd i'r afael â llygredd dŵr.
- Mae ein llinell amser yn tynnu sylw at ddatblygiadau allweddol diweddar o ran perfformiad amgylcheddol ac ariannol Dŵr Cymru. Rydym hefyd wedi trafod dyfodol sector dŵr Cymru.
- Paul Rock AS yn gofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur ac yn adrodd ar ei hymatebion i'r argyfwng natur a hinsawdd ar draws portffolios y llywodraeth.
- Fel rhan o gasgliad o erthyglau ar faterion allweddol ar gyfer y Seithfed Senedd, rydym wedi trafod beth nesaf o ran natur a gweithredu ar yr hinsawdd.
- Stephen Senior AS yn gofyn am gynnig TGAU ffiseg, cemeg a bioleg ar wahân.
- Rhoddodd Cymwysterau Cymru ddiweddariad am arholiadau TGAU gwyddoniaeth y llynedd.
- Leticia Gonzalez AS yn gofyn am safonau addysg mewn ysgolion.
- Rydym yn rheolaidd yn cyhoeddi erthyglau am addysg, gan gynnwys ein herthygl 'materion allweddol' ddiweddar am ymgysylltiad disgyblion ag addysg.
- Claire Archibald AS yn gofyn am faterion parhaus ym maes gofal cymdeithasol.
- Fel rhan o'n casgliad o erthyglau ar faterion allweddol ar gyfer y Senedd hon, rydym wedi bwrw golwg ar y pwysau y mae’r system gofal cymdeithasol oedolion yn eu hwynebu.
- Benjamin Hodge McKenna AS yn gofyn am gamau i gefnogi'r sector lletygarwch er mwyn diogelu busnesau a swyddi.
- Gaz Thomas AS yn gofyn am ddileu rhwystrau i sicrhau bod hawliau pobl anabl wedi'u hymgorffori'n llawn yn y gyfraith a bywyd cyhoeddus.
- Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035 y llynedd.
- Shav Taj AS yn gofyn am waith teg i weithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru.
- James Evans AS yn gofyn am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth.
- Mae ein herthygl yn trafod y frwydr o ran blaenoriaethau ar gyfer tir gwledig, gan gynnwys ar gyfer amaethyddiaeth, cadwraeth a choedwigaeth.
- Tom Montgomery AS yn gofyn am y pwysau ar gyllid llywodraeth leol.
- Mae ein herthygl yn trafod cynaliadwyedd llywodraeth leol.
- Steve Bayliss AS yn gofyn am sicrhau nad yw plant a theuluoedd incwm isel dan anfantais oherwydd y cynlluniau i gyflwyno gwasanaethau bysiau heb arian parod ledled Cymru.
Os na chaiff y cwestiwn ei ofyn yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog, bydd yr Aelod yn cael ateb ysgrifenedig yr un diwrnod.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru