Adeilad Senedd

Adeilad Senedd

Craffu ar y Cytundeb Cydweithio: dwy flynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 08/12/2023   |   Amser darllen munud

Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal sesiwn ar 8 Rhagfyr 2023 gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ac Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, ynghylch y cynnydd o ran cyflawni’r Cytundeb Cydweithio. Rydym wedi llunio papur briffio sy’n nodi rhai o’r materion y gallai'r Pwyllgor eu trafod.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau blaenorol yn trafod y Cytundeb Cydweithio ar 9 Rhagfyr 2022 a 24 Mawrth 2023 gyda’r Prif Weinidog ac Adam Price AS, cyn-Arweinydd Plaid Cymru.

Cyhoeddwyd y Cytundeb Cydweithio ym mis Rhagfyr 2021 gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae’n cynnwys 46 o ymrwymiadau. Nid yw’r papur briffio hwn yn trafod pob un o’r rhain ond mae’n canolbwyntio ar faterion allweddol sy’n seiliedig ar feysydd craffu blaenorol a busnes y Senedd.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad blynyddol ar y cynnydd o ran y Cytundeb Cydweithio. Fodd bynnag, nid oedd yr adroddiad ar gael cyn paratoi'r papur briffio ar gyfer y Pwyllgor a dylid darllen y ddwy ddogfen ochr yn ochr â'i gilydd.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn cynnal sesiwn yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr 2023, gyda’r Prif Weinidog ynghylch “Cadw'n gynnes a chael bwyta y gaeaf hwn”.

Gellir gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn fyw, neu ar alw, ar SeneddTV. Bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau wedyn.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru