Cadw Cymru’n gynnes â gwala y gaeaf hwn

Cyhoeddwyd 08/12/2023   |   Amser darllen munudau

Ar 8 Rhagfyr, bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog – sef un o bwyllgorau’r Senedd – yn craffu ar waith y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, ar gadw Cymru’n gynnes â gwala y gaeaf hwn. Mae’r papur briffio hwn yn nodi rhai o’r materion allweddol y mae’n bosibl y byddan nhw’n cael eu trafod yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

At hynny, bydd y Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, mewn perthynas â’r Cytundeb Cydweithredu. Gallwch archwilio'r materion allweddol yn y papur briffio rydym wedi'i gynhyrchu ar gyfer y sesiwn honno.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru