Grŵp o blant bach yn rhedeg ar laswellt.

Grŵp o blant bach yn rhedeg ar laswellt.

Cenhedlaeth o blant yn cael ei gadael i lawr?

Cyhoeddwyd 16/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2026   |   Amser darllen munud

Mae'r DU ar y trywydd i fagu un o'r cenedlaethau lleiaf iach o blant ers degawdau. (Y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant)

Yn ôl adroddiad Cyflwr Iechyd Plant 2026 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH), y DU sydd bellach â rhai o'r canlyniadau gwaethaf yn Ewrop o ran iechyd plant. Mae'r adroddiad yn asesu iechyd plentyn ar draws 12 dangosydd ac yn dod i'r casgliad bod canlyniadau ledled y DU naill ai'n gwaethygu neu wedi aros yn eu hunfan.

Mae adroddiad 2026, a gyhoeddir bron ddegawd ar ôl adroddiad cyntaf Cyflwr Iechyd Plant RCPCH yn 2017, yn tynnu sylw at bwysau sy'n amrywio o farwolaethau babanod ac iechyd meddwl i ordewdra, imiwneiddio ac asthma. Gan ddefnyddio data sydd wedi’u cyhoeddi a safbwyntiau pediatregwyr a phlant, daw’r adroddiad i'r casgliad fod anghydraddoldebau cynyddol, bylchau data a diffyg buddsoddi difrifol yn peryglu iechyd cenhedlaeth gyfan.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ar yr adroddiad cyntaf hwnnw: Adroddiad ar Gyflwr Iechyd Plant 2017. Wrth gyhoeddi adroddiad 2026, dywedodd Dr Helen Stewart, Swyddog Gwella Iechyd RCPCH, y dylai record y DU ar iechyd plant fod yn fater o gywilydd gwladol. Dywedodd hi fod yr adroddiad yn dangos bod plant y DU yn cael eu gadael i lawr yn druenus, ond yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol a chefndiroedd tlotach.

Cyflwr iechyd plant – 12 dangosydd

Mae adroddiad RCPCH yn defnyddio dadansoddiad o ddata sydd ar gael yn genedlaethol yn cwmpasu 12 dangosydd iechyd plant. Cyhoeddwyd dadansoddiad penodol i Gymru ar 10 Medi.

 

(Ffynhonnell: Cyflwr Iechyd Plant | RCPCH)

Cyflwr iechyd plant yng Nghymru

Dyma’r canfyddiadau allweddol sy’n benodol i Gymru yn yr adroddiad:

Cyflwr iechyd plant yng Nghymru

Beth mae RCPCH eisiau i lywodraethau ei wneud?

Mae adroddiad RCPCH yn dadlau bod gostyngiad mewn iechyd plant yn cael ei yrru gan dair elfen gysylltiedig a chylchol sy’n peri pwysau: bylchau mewn data iechyd plant, anghydraddoldebau yn ehangu a diffyg buddsoddiad yn y gweithlu iechyd plant. Y tri phrif argymhelliad yw y dylai llywodraethau ledled y DU wneud y canlynol:

  • cryfhau ansawdd data iechyd plant a’r trefniadau ar gyfer eu casglu a’u rhannu, gan gynnwys datblygu un mesur cyffredinol o iechyd a llesiant plant i olrhain cynnydd ac anghydraddoldebau;
  • ymrwymo i dargedau cenedlaethol clir ac ystyrlon ar draws y 12 dangosydd i wella iechyd plant a lleihau anghydraddoldebau; a
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn gwariant rhwng gwasanaethau iechyd plant ac oedolion, gan gynnwys drwy Safon Buddsoddi mewn Iechyd Plant, ochr yn ochr ag ariannu gwaith i gynllunio’r gweithlu iechyd plant hirdymor.

Neges ehangach yr adroddiad yw, heb fuddsoddiad parhaus mewn atal problemau, cymorth cynnar a gwasanaethau cydgysylltiedig, mae’n debygol y bydd plant yn wynebu iechyd gwaeth, anghydraddoldebau dyfnach a phwysau mwy yn ddiweddarach mewn bywyd.

Amlinellodd Briff Cronfa'r Brenin ym mis Ebrill 2025 ddeg cam gweithredu i Lywodraeth y DU ar gyfer gwella iechyd plant, gan ganolbwyntio ar roi blaenoriaeth uwch i blant o ran cyllid, cynllunio ac atebolrwydd. Mae rhai o'r camau gweithredu y galwodd amdanynt yn cynnwys cyfran fwy a thecach o gyllid y gwasanaeth iechyd i blant; gwybodaeth well ar-lein am iechyd a maeth ac ymgyrch genedlaethol ar fwyta'n iach; strategaeth newydd i gyrraedd targedau brechu plant; a dull llywodraeth gyfan sy'n gwrando ar blant a phobl ifanc ac yn gwneud atal problemau yn ganolog i bolisi.

Beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Cyn yr etholiad, dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei bod yn gweithio gyda'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Plant i gyd-gynhyrchu Datganiad Ansawdd Integredig ar gyfer Iechyd Plant. Roedd disgwyl gweld y datganiad ym mis Mawrth 2026, ond ni chafodd ei gyhoeddi. Yn y cyfamser, mae’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Plant wedi bod yn gweithio i gefnogi gwelliannau ym maes iechyd plant, ac mae sawl llinyn arall o waith yn berthnasol i'r materion y tynnodd RCPCH sylw atynt (megis pwysau ar amseroedd aros pediatrig a gwasanaethau iechyd plant cymunedol). Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthyglau ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a fepio ymhlith pobl ifanc.

Canlyniadau cymysg, ymateb ansicr

Mae adroddiad RCPCH yn cyflwyno iechyd plant fel mater iechyd y cyhoedd a mater hawliau plant. Mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i gefnogi pob plentyn i gyflawni'r safon iechyd uchaf bosibl.

Yng Nghymru, ceir ffynonellau data cenedlaethol defnyddiol a mentrau polisi ar draws sawl maes, ond hefyd bylchau mewn data cymharol, canlyniadau sydd wedi arafu neu sy’n gwaethygu, ac anghydraddoldebau parhaus rhwng plant mewn gwahanol amgylchiadau.

Ymrwymodd maniffesto Plaid Cymru i 'gynllun iechyd cyhoeddus i blant'. Ers hynny, mae RCPCH Cymru wedi cyfeirio at hyn fel cynllun iechyd i blant, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ymyrraeth feiddgar sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a hynny ar frys, i wella canlyniadau i fabanod, plant a phobl ifanc. Nid yw'n glir eto a fydd y cynllun yn canolbwyntio'n bennaf ar iechyd y boblogaeth, atal problemau ac anghydraddoldebau, neu a fydd hefyd yn cwmpasu gwasanaethau'r GIG, amseroedd aros a'r gweithlu pediatrig.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru