argymhellion ar gyfer gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Er i'r adroddiad groesawu rhai o'r mentrau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru megis y rhaglen Plant Iach Cymru, y gwaith parhaus sy'n mynd rhagddo i leihau ysmygu ynghyd â'r cynnydd mewn cyllid ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, mae'n rhybuddio Llywodraeth y DU a'r sefydliadau datganoledig fel a ganlyn: tra bydd nifer o blant a phobl ifanc yn byw bywydau iach, hapus, mae nifer sylweddol, cynyddol mewn perygl o beidio bod yn iach ac yn hapus (fel y nodir ar dudalen 4).
Noda adroddiad Cymru bod angen rhagor o waith i fynd i'r afael â'r heriau penodol yng Nghymru, â niferoedd plant a phobl ifanc sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl a lles yn peri gofid, a phryder pellach ynghylch nifer y plant sydd dros eu pwysau neu'n ordew ynghyd â thlodi plant. Mae' adroddiad yn cynnwys neges gref ynghylch anghydraddoldebau o ran iechyd plant, ac mae'n dangos effaith y cysylltiadau parhaus rhwng anghydraddoldebau sosio-economaidd ac iechyd gwael, yn fwyaf nodedig o ran marwolaeth plant.
Yn y pen draw, mae'r Coleg yn credu y gallai Llywodraeth y DU, a'r sefydliadau datganoledig, wneud llawer mwy i wella iechyd a lles plant.
Ddydd Mercher, 1 Chwefror 2017, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn trafod yr adroddiad a goblygiadau ei ganfyddiadau i Gymru.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.