Mae Llywodraeth y DU wedi disgrifio Deddf Tybaco a Fêps 2026 fel yr ymyrraeth fwyaf mewn iechyd cyhoeddus mewn cenhedlaeth. Fe'i cyflwynir fel cam nodedig tuag at sicrhau y DU ddi-fwg ac ymateb i bryderon cynyddol ynghylch fepio gan bobl ifanc.
Mae ysmygu’n parhau i fod y prif achos o farwolaeth, anabledd ac afiechyd ataliadwy yn y DU, gan fod yn gyfrifol am oddeutu 80,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno polisi “cenhedlaeth ddi-fwg” drwy godi’r oedran gwerthu cyfreithiol dros amser, sy’n golygu na fydd tybaco byth yn cael ei werthu’n gyfreithlon i blant a aned ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Ochr yn ochr â hyn, mae'r Ddeddf yn cynnwys pwerau sydd â’r bwriad o leihau apêl ac argaeledd cynhyrchion fepio i blant a phobl ifanc.
Pam bod y defnydd o fêps ymhlith pobl ifanc yn peri pryder cynyddol?
Mae’r defnydd o fêps ymhlith plant a phobl ifanc yn peri pryder cynyddol o ran iechyd cyhoeddus ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod defnyddio fêps yn sylweddol llai niweidiol nag ysmygu i oedolion sy'n rhoi’r gorau i ysmygu yn llwyr, ond "nid yw fepio’n ddi-risg” ac ni ddylai plant a phobl ifanc ddefnyddio fêps.
Mae tystiolaeth ddiweddar o Gymru a ledled y DU yn awgrymu nad yw’r defnydd o fêps gan bobl ifanc wedi’u gyfyngu i arbrofi â dyfeisiau o’r fath. Yn gynyddol, mae defnydd pobl ifanc o fêps yn cynnwys defnydd rheolaidd, yn ogystal â dibyniaeth ar nicotin a mynediad rhwydd at fêps. Mae pobl ifanc yn adrodd bod fêps ar gael yn eang trwy siopau, ffrindiau a ffynonellau ar-lein.
Ffeithiau allweddol ynghylch y defnydd o fêps gan blant a phobl ifanc

(Ffynhonnell: Wedi'i baratoi gan Ymchwil y Senedd gan ddefnyddio’r dadansoddiad o dystiolaeth yn deillio o’r alwad am dystiolaeth ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc gan Lywodraeth y DU)
Mae papur briffio gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn tynnu sylw at y cydbwysedd y mae gwneuthurwyr polisi yn ceisio'i daro, sef cefnogi ysmygwyr sy'n oedolion i roi'r gorau iddi drwy ddefnyddio fêps, tra'n atal plant a phobl ifanc rhag dechrau fepio yn y lle cyntaf.
Pa mor gyffredin yw fepio ymhlith pobl ifanc?
Mae data o arolygon yn dangos bod y defnydd o fêps gan bobl ifanc yn parhau ar lefel gymharol uchel. Mae Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd (ASH) yn adrodd bod 20% o blant 11–17 mlwydd oed ym Mhrydain Fawr wedi rhoi cynnig ar fepio a bod 7% yn fepio ar hyn o bryd, sy'n cyfateb i tua 400,000 o blant. Mae tua 3% yn fepio bob dydd.
Yng Nghymru, mae'r darlun yn arbennig o drawiadol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (gan dynnu ar ddata o'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion) yn adrodd bod bron i un o bob chwech o ddysgwyr blwyddyn 11 bellach yn fepio'n rheolaidd. Hefyd, mae ysgolion wedi mynegi pryderon ynghylch dibyniaeth ar nicotin, aflonyddwch yn yr ystafell ddosbarth a chynnydd mewn gwaharddiadau sy'n gysylltiedig â fepio.
Mae gwaith ymchwil yn helpu i egluro pam mae'r mater hwn yn anodd ei ddatrys. Nododd adolygiad cyflym a gynhaliwyd yn 2024 gan y Rhwydwaith Gwyddor Ymddygiad ac Iechyd Cyhoeddus dri sbardun allweddol:
- dylanwad cymdeithasol ac ymddygiad cyfoedion;
- argaeledd eang; a
- dyluniad apelgar.
Canfu'r adolygiad dystiolaeth gyfyngedig ynghylch pa ymyriadau sy'n gweithio orau, gan awgrymu ei bod yn debygol y bydd yn rhaid defnyddio cyfuniad o fesurau o ran addysg a pholisi.
Mae gwaith ymchwil newydd hefyd yn tynnu sylw at risgiau ehangach. Canfu adolygiad ymbarél a gynhaliwyd yn 2025 gysylltiadau rhwng fepio gan bobl ifanc a thebygolrwydd uwch o ysmygu nes ymlaen mewn bywyd, yn ogystal â chysylltiadau â symptomau anadlol, defnyddio sylweddau a rhai canlyniadau andwyol o ran iechyd meddwl.
Gyda'i gilydd, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y defnydd o fêps ymhlith pobl ifanc wedi’i lywio gan gyfuniad o ffactorau ymddygiadol, cymdeithasol a rheoleiddiol.
Sut mae gwledydd eraill yn ymateb?
Yn rhyngwladol, mae llywodraethau'n symud tuag at reolaethau llymach ar apêl ac argaeledd cynhyrchion fepio. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi galw am gamau gweithredu ar flasau a dyluniad cynhyrchion fepio, gan bwysleisio’r ffordd y mae'r cynhyrchion hyn yn aml wedi’u dylunio i ddenu pobl ifanc trwy ddefnyddio lliwiau llachar, nodweddion newydd a blasau apelgar.
Mae gwledydd fel Seland Newydd a Canada wedi cymryd camau i gyfyngu ar y ffordd y caiff cynhyrchion fepio eu gwerthu a'u marchnata. Mae Seland Newydd wedi mabwysiadu un o'r dulliau gweithredu mwyaf strwythuredig. Dim ond fêps sydd â blas tybaco, menthol neu fintys y gall archfarchnadoedd eu gwerthu, tra bod ystod ehangach o flasau wedi'i chyfyngu i siopau fêps arbenigol sydd wedi'u hanelu at oedolion. Mae mesurau ychwanegol yn cynnwys cyfyngiadau ar enwi blasau (gan ddileu termau sy'n apelio at bobl ifanc fel “losin” a “cola”), gwaharddiadau ar liwio cynhyrchion, cyfyngiad ar welededd cynnyrch mewn siopau, rheolau llymach ar leoliadau manwerthu a chyfyngiadau ar hyrwyddo cynhyrchion fel prisiau gostyngedig neu gynigion arbennig.
Beth allai Cymru ei wneud nesaf?
Mae Deddf Tybaco a Fêps 2026 yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu yng Nghymru drwy roi pwerau i Weinidogion Cymru, yn enwedig mewn perthynas â manwerthu, gorfodi, arddangos a mannau di-fêps. Bydd graddfa’r newid mewn termau ymarferol yn dibynnu ar sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pwerau hyn.
Apêl cynnyrch
Un ffocws yw gwelededd cynhyrchion fepio a’r ffordd y caiff y cynhyrchion hyn eu harddangos. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau dros y ffordd y caiff cynhyrchion fepio eu harddangos mewn siopau. Ar lefel y DU, mae yna bwerau hefyd i reoleiddio pecynnu, brandio a blasau. Gyda'i gilydd, gallai’r pwerau hyn helpu i leihau'r defnydd o liwiau llachar, disgrifiadau blas melys a deunyddiau arddangos trawiadol sy'n gwneud cynhyrchion fepio yn debyg i losin neu eitemau ffordd-o-fyw eraill.
Trwyddedu a gorfodi yng nghyd-destun manwerthu
Mae trwyddedu a gorfodi mewn lleoliadau manwerthu yn arf allweddol arall. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Cymru, gan ganiatáu i amodau gael eu rhoi ar fanwerthwyr a chosbau am dorri rheolau. Yn ymarferol, gallai hyn gryfhau goruchwyliaeth, cefnogi gwiriadau cydymffurfiaeth mwy cyson a chreu canlyniadau cliriach am aildroseddu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol oherwydd bod gwerthu cynhyrchion fepio i bobl ifanc o dan 18 mlwydd oed eisoes yn anghyfreithlon - yr her yw sicrhau bod y rheolau hynny'n cael eu gorfodi'n effeithiol.
Mannau di-fêps
Mae'r Ddeddf hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi mannau di-fêps ac ymestyn rheolau di-fwg, yn amodol ar gynnal ymgynghoriadau a chasglu tystiolaeth. Nid yw hyn yn rhoi pŵer cyffredinol i wahardd fepio ym mhobman. Fodd bynnag, gallai gefnogi dull mwy rhagofalus mewn lleoliadau sy'n gysylltiedig yn agos â phlant a phobl ifanc, fel tir ysgol neu rai leoliadau hamdden.
Lleihau mynediad ac amlygiad?
Nid oes gan Weinidogion Cymru bwerau dros bob agwedd ar bolisi fepio. Llywodraeth y DU sy'n parhau’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch dylunio cynnyrch, blasau, pecynnu a hysbysebu.
Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn rhoi amrywiaeth o bwerau ymarferol i Weinidogion Cymru i’w galluogi i gyfyngu ar fynediad ac amlygiad mewn lleoliadau bob dydd. Mae'r rhain yn cynnwys rheolaeth gryfach ar yr amgylchedd manwerthu, mesurau i orfodi deddfau oedran gwerthu yn well, a mesurau i leihau gwelededd cynnyrch mewn siopau. Gallai'r pwerau hyn helpu i ymdrin â rhai o'r prif ysgogwyr a nodwyd yn y dystiolaeth, yn enwedig i ba raddau y mae’r defnydd o fêps wedi’i normaleiddio ymhlith pobl ifanc a pha mor rhwydd yw hi i bobl ifanc gael mynediad at gynhyrchion fepio.
Gan edrych at y dyfodol, bydd effaith y Ddeddf yng Nghymru yn dibynnu ar i ba raddau y bydd y pwerau hyn yn cael eu harfer yn weithredol. Os yw fepio gan bobl ifanc yn parhau ar lefel uchel, efallai y bydd disgwyliad cynyddol y bydd yr ymyriadau sydd ar gael, fel cyfyngiadau ar arddangos, trwyddedu a gorfodi yng nghyd-destun manwerthu, a chyflwyno mannau di-fêps, yn cael eu defnyddio mewn ffordd fwy systematig a thargedig. Mae hyn yn codi cwestiwn polisi ehangach ynghylch i ba raddau y gellir defnyddio’r pwerau presennol yn y Ddeddf i ddylanwadu ar ymddygiad, ac a allai fod angen mesurau ychwanegol arnom dros amser.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru