“Cam cyntaf y ddeddfwriaeth”: blaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 28/07/2026   |   Amser darllen munudau

Ar 14 Gorffennaf 2026, fe wnaeth y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS, amlinellu “cam cyntaf y ddeddfwriaeth” y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno gerbron y Senedd. Mae hyn yn cwmpasu meysydd megis yr hawl i brynu asedau cymunedol, amddiffyniadau rhentu a rheoleiddio dŵr.

Mae’r erthygl hon yn ystyried y cynigion deddfwriaethol hyn yn fanylach, ac ymateb y gwrthbleidiau.

Cynigion Llywodraeth Cymru

Hawl i brynu cymunedol

Ymrwymodd y Prif Weinidog i ddatblygu cynllun hawl i brynu cymunedol, a darparu’r “sail ddeddfwriaethol i alluogi grwpiau cymunedol cymwys i enwebu a chofrestru asedau cymunedol gwerthfawr i gael y cynnig cyntaf pan fydd y perchnogion yn penderfynu gwerthu”.

Sefydlodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gomisiwn Asedau Cymunedol, a argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru “gyflwyno deddfwriaeth Hawl y Gymuned i Brynu yng Nghymru a fydd yn berthnasol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector”.

Cyflwynwyd cynigion yn ymwneud â hawl i brynu cymunedol yn Lloegr yn ddiweddar.

Hawliau tai

Ymrwymodd y Prif Weinidog hefyd i gryfhau hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n anelu at gryfhau'r fframwaith gorfodi a rôl reoleiddio Rhentu Doeth Cymru.

Bwriad y newidiadau hyn yw “gosod y sylfaen” ar gyfer newidiadau pellach i wella fforddiadwyedd tai, gwneud rhentu yn decach, a chyfyngu ar droi allan heb fai, a fydd yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynigion i ddeddfu ar yr “hawl i gartref digonol”.

Mae Ymchwil y Senedd wedi mynd ati’n flaenorol i ystyried y gwahaniaethau rhwng deddfwriaeth tenantiaeth yng Nghymru a Lloegr

Yr amgylchedd

Ymrwymodd y Prif Weinidog i gynigion sy'n "cefnogi'r cynllun gweithredu hinsawdd a natur sy'n datblygu", drwy wneud deddfwriaeth amgylcheddol bresennol "yn gliriach, yn fwy ymarferol a byddwn ni'n sicrhau ei bod yn gallu cefnogi'n well yr hyn sy'n cael ei gyflawni” mewn nifer o feysydd. Bydd y Cynllun Hinsawdd a Natur newydd yn ceisio cyflawni sero net erbyn 2040 ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050.

Yn ddiweddar, bu Ymchwil y Senedd yn trafod beth nesaf o ran natur a gweithredu ar yr hinsawdd.

Prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad

Ymrwymodd y Prif Weinidog i ddatblygu “dyletswydd statudol ar brawfesur gwledig”, er mwyn “sicrhau bod anghenion gwledig yn cael eu hystyried yn gyson pan fydd polisïau'n cael eu datblygu a'u cyflawni”.

Lansiwyd ymgynghoriad ar hyn a'r cynigion amgylcheddol uchod ar 22 Gorffennaf 2026. Nid chafwyd penderfyniad hyd yn hyn ynghylch a fydd y cynigion ar brawfesur gwledig a chynaliadwyedd amgylcheddol yn cael eu datblygu drwy'r un Bili neu drwy Filiau ar wahân.

Dŵr

O ran diwygio'r sector dŵr, dywedodd y Prif Weinidog y caiff deddfwriaeth ei chyflwyno i roi mwy o reolaeth i Gymru, a bod gwaith gweithredu eisoes yn mynd rhagddo. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn “gweithio efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau'r grymoedd sydd eu hangen arnom ni i adeiladu system Gymreig”, gan gynnwys rheoleiddiwr economaidd newydd.

Mae erthyglau Ymchwil y Senedd yn ystyried dyfodol sector dŵr Cymru a phapur gwyrdd Llywodraeth flaenorol Cymru ynghylch ei ddiwygio.

Trethiant

Dywedodd y Prif Weinidog y caiff Bil cynnal treth ei gyflwyno, i helpu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i barhau i weinyddu a rhannu data sy'n ymwneud â'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi rhwng ACC ac awdurdodau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am drethi datganoledig yng Nghymru ar gael yma.

Asiantaeth ddatblygu

Siaradodd y Prif Weinidog am asiantaeth ddatblygu arfaethedig newydd. Dywedodd y bydd yr asiantaeth “yn arwain cenhadaeth [Llywodraeth Cymru] i haneru bwlch cynhyrchiant Cymru â gweddill y DU yn y degawd nesaf”. Penodwyd Cadeirydd i arwain panel ymgynghorol i lywio dyluniad yr asiantaeth, a dywedodd y Prif Weinidog na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad terfynol ar ffurf yr asiantaeth hyd nes iddi ystyried cyngor y panel. Os oes angen, bydd yn cyflwyno deddfwriaeth.

Diwygio tribiwnlysoedd

Ymrwymodd y Prif Weinidog i gyflwyno Bil tribiwnlysoedd “yn fuan yn nhymor y Senedd hon” gyda’r bwriad o “greu system newydd Gymreig sydd yn gyfoes, yn gyson ac yn annibynnol”. Ychwanegodd y bydd system y tribiwnlysoedd yn cynnig fforwm “y gellid ei ddefnyddio ar gyfer adfer anghydfod mewn meysydd polisi datganoledig eraill”, a dywedodd y bydd gan y system gapasiti i “ddelio â gofynion unrhyw ddatganoli pellach ym maes cyfiawnder”.

Yn ddiweddar, bu Ymchwil y Senedd yn trafod cynigion a gyflwynwyd yn nhymor y Senedd ddiwethaf i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru.

Beth arall a ddywedwyd?

Fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn “cyflwyno deddfwriaeth lle mai dyna'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r canlyniadau ar lawr gwlad yr ydyn ni eisiau eu gweld”, gan gynnwys ynghylch tlodi plant a’r Gymraeg.

Amlinellodd hefyd fwriad Llywodraeth Cymru i “greu corff o gyfraith Cymru sy'n glir, yn gydlynol ac yn hygyrch”, ac yn benodol, yr angen i “gydgrynhoi a chodio deddfwriaeth Cymru”. Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhaglen newydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru erbyn mis Tachwedd 2026, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Trafododd y Prif Weinidog y defnydd o Filiau'r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig, a galwodd ar Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i roi Confensiwn Sewel ar sail statudol fwy cadarn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn o'r Egwyddorion ar Ddeddfwriaeth y DU mewn Meysydd Datganoledig ar ei newydd wedd, cyn y datganiad.

Sut mae Aelodau’r gwrthbleidiau wedi ymateb?

Dywedodd Dan Thomas AS, arweinydd grŵp Reform UK, nad yw’r datganiad yn “adlewyrchu'n deg flaenoriaethau pobl Cymru”, a dywedodd ei fod yn “gyfle sydd wedi'i golli i fynd â stori Cymru i lefel arall”. Galwodd am gynigion eraill, megis ailwampio'r system gynllunio i fynd i'r afael â'r prinder tai, ac i awdurdodau lleol gael mwy o bwerau i wrthod tai mewn amlfeddiannaeth.

Fe wnaeth Ken Skates AS, arweinydd grŵp Llafur Cymru, groesawu “llawer o agweddau” ar y datganiad, gan gynnwys y gyfraith hawl i brynu cymunedol, gan ofyn ar yr un pryd am fanylion pellach. Galwodd hefyd am ddeddfwriaeth ar gyfer corff negodi staff ysgolion ac am ddiwygio tacsis a cherbydau hurio preifat. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru wedi llunio papur gwyn ar y mater olaf hwn.

Fe wnaeth Darren Millar AS, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig feirniadu’r rhaglen, gan ddadlau nad oes gan Lywodraeth Cymru “gynllun datblygedig iawn”. Dywedodd, o ran diwygio tribiwnlysoedd a “potsian gyda system dreth Cymru”, mai “go brin mai'r rhain oedd y pethau yr oedd pobl ar stepen y drws yn ystod etholiadau diweddar y Senedd yn poeni amdanyn nhw”. Nododd ystod o gynigion eraill, gan gynnwys rhai yn ymwneud ag atebolrwydd y GIG, gwaharddiadau ar ffonau symudol mewn ysgolion, ac anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth.

Ymlaen i'r hydref

Mae'n debyg y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyflwyno’i Biliau arfaethedig gerbron y Senedd ar ôl Toriad yr Haf.

Yn ystod y ddadl, nododd yr Aelodau yr anhawster y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu o ran pasio cynigion, gan nad oes ganddi fwyafrif yn y Senedd. Cydnabu’r Prif Weinidog hyn, gan ddatgan bod Llywodraeth Cymru yn “benderfynol o ddatblygu deddfwriaeth ar sail adeiladu consensws a thrwy gydweithredu”.

Bydd gan yr Aelodau rolau pwysig o ran craffu ar y cynigion hyn ac o ran eu diwygio o bosibl.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru