Golygfa uwchben gweithfeydd dur Port Talbot gyda mwg yn cael ei ryddhau

Golygfa uwchben gweithfeydd dur Port Talbot gyda mwg yn cael ei ryddhau

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): tudalen adnoddau

Cyhoeddwyd 02/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2023   |   Amser darllen munudau

Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) i’r Senedd ar 20 Mawrth 2023.

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei ddiweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.

Gallwch ddilyn hynt y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar dudalen we’r Pwyllgor ar y Bil. O'r dudalen hon gallwch weld copi o'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Cyhoeddiadau Ymchwil y Senedd
  • Crynodeb Cyfnod 2 Ymchwil y Senedd – Yn rhoi trosolwg o’r trafodion Cyfnod 2, gan amlinellu’r gwelliannau a gyflwynwyd ac a gawsant eu derbyn (16 Tachwedd 2023)
  • Crynodeb o’r Darpariaethau gan Ymchwil y Senedd. Yn rhoi trosolwg byr o bob adran o’r Bil (29 Mawrth 2023).
  • Geirfa Ddwyieithog Ymchwil y Senedd. Dyma restr o dermau newydd a thermau technegol yn y Bil. Bwriedir iddi gefnogi gwaith craffu dwyieithog (28 Mehefin 2023).
  • Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Glanhau aer Cymru? Yn rhoi trosolwg byr o'r hyn y bwriedir i'r Bil ei wneud ac yn crynhoi tystiolaeth a glywyd gan y Pwyllgor yn ystod ei waith craffu Cyfnod 1 (15 Mehefin 2023).

Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru