Menyw gyda phlentyn bach a phram yn eistedd ar fainc. Yn y pellter mae ffatri’n allyrru mygdarthau.

Menyw gyda phlentyn bach a phram yn eistedd ar fainc. Yn y pellter mae ffatri’n allyrru mygdarthau.

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Gwelliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 16/11/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) wedi cyrraedd Cyfnod 3 y broses ddeddfwriaethol.

Gorffennodd Cyfnod 2 o’r gwaith craffu ar y Bil (cyfnod diwygio pwyllgor) yng nghyfarfod Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 11 Hydref 2023.

Trafododd y Pwyllgor 87 o welliannau. Derbyniwyd dau ar hugain ohonynt – roedd 17 ohonynt yn welliannau gan y llywodraeth. Rydym wedi llunio crynodeb o’r trafodion Cyfnod 2, gan ddisgrifio’r gwelliannau a’u tynged.

Mae’r Bil diwygiedig bellach yng Nghyfnod 3 (cyfnod diwygio yn y Cyfarfod Llawn) ac mae rhagor o welliannau yn cael eu cyflwyno gan Aelodau o’r Senedd. Disgwylir i welliannau dethol gael eu trafod a phleidleisio arnynt yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Tachwedd. Gallwch wylio’r trafodion ar gyfer y ddadl yn fyw ar Senedd TV.

Mae rhagor o fanylion am ddarpariaethau’r Bil a’r gwaith craffu arno yn ystod Cyfnod 1 ar gael ar ein tudalen adnoddau ar gyfer y Bil.


Erthygl gan Francesca Howorth a Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru