Nod Cymraeg 2050, strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, a dyblu ei defnydd dyddiol o 10% i 20%. Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y system addysg yn 'hanfodol' i gyflawni’r agenda hon.
Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) i broses ddeddfwriaethol y Senedd. Mae'r Bil yn cynnig newidiadau i'r ffordd y caiff darpariaeth addysg Gymraeg statudol ei chynllunio a'i darparu. Ei nod yw sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol. Rydym wedi cyhoeddi Crynodeb o'r Bil sy’n darparu rhagor o fanylion am yr hyn y mae'r Bil yn ei gynnig, ei gefndir a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei gyflawni.
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar y Bil ac yn ddiweddar adroddwyd ar ei egwyddorion cyffredinol, gan wneud 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r erthygl hon yn archwilio rhai o'r prif faterion a godwyd yn ystod gwaith craffu ar y Bil, cyn dadl y Senedd ddydd Mawrth (14 Ionawr).
Cefnogaeth gyffredinol i egwyddorion y Bil.
Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â dau Aelod o'r Pwyllgor Diwylliant a'r Gymraeg. a oedd yn bresennol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1, yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Argymhellodd fod y Senedd yn cytuno i'r rhain, ac yn pleidleisio i alluogi'r Bil i symud ymlaen i'r cyfnod nesaf. Fodd bynnag, tynnodd y Pwyllgor sylw at faterion yn ymwneud ag eglurder o fewn y Bil a phryderon ynghylch rhai agweddau o ran ei weithredu.
Yn greiddiol i'r pryderon hynny mae'r pwysau sydd ar awdurdodau lleol, ysgolion a'r gweithlu addysgu ar hyn o bryd, a bod yn rhaid i uchelgais o'r fath a nodir mewn deddfwriaeth gael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru "yn ariannol a thrwy ddulliau eraill". Roedd undebau'r Prifathrawon, NAHT ac ASCL yn cefnogi nodau'r Bil ond ni allent ei gefnogi yn yr hinsawdd bresennol. Ar y llaw arall, roedd Cymdeithas yr Iaith o'r farn bod y Bil "ymhell o fod yn ddigon cryf ar hyn o bryd i sicrhau'r newid radical sydd ei angen" ac roedd yn siomedig nad oedd argymhellion y Pwyllgor yn adlewyrchu ei phryderon yn llawnach.
Gweithlu dwyieithog
Mae'r sector addysg yn wynebu cyfnod o newid sylweddol, gyda'r Cwricwlwm i Gymru a system ADY diwygiedig (Anghenion Dysgu Ychwanegol) newydd yn cael eu rhoi ar waith.
Mae hefyd nifer fawr o heriau eraill. Mae'r sector yn parhau i fynd i’r afael ag effaith y pandemig, mae trafferthion o ran recriwtio a chadw athrawon, ac mae cyllidebau ysgolion o dan bwysau. Mae blaenoriaethau eraill hefyd i’w hystyried, megis gwella presenoldeb a chodi safonau. Pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen cydnabod yr effaith a gaiff y lefel hon o newid, a bod yn rhaid bod yn ymwybodol o'r pwysau y mae’n ei roi ar bawb. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni nodau'r Bil, mae’r Pwyllgor yn dweud bod datblygu gweithlu dwyieithog yn allweddol.
Er bod gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gweithlu Cymraeg mewn Addysg ar hyn o bryd, galwodd rhai rhanddeiliaid am gynllun statudol a thargedau i'w gynnwys yn y Bil. Nododd y Pwyllgor faterion mwy cyffredinol yn ymwneud â’r gweithlu addysg a daeth i'r casgliad bod angen dull mwy cadarn o gynllunio'r gweithlu. Argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn nodi’r dulliau deddfwriaethol mwyaf priodol i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio cynllun gweithlu addysg statudol sy’n cynnwys targedau, ac amserlen, ar gyfer recriwtio a chadw.
Mae angen rhagor o eglurder o ran categorïau iaith ysgolion a'r diffiniad o 'addysg cyfrwng Cymraeg'
Wrth galon y Bil mae cynigion ar gyfer diweddaru'r categorïau iaith presennol (anstatudol) ar gyfer ysgolion. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gael 'Cynllun Cyflawni Addysg Gymraeg', a darparu rhywfaint o addysg Gymraeg yn ôl gofynion eu categori. Bydd y swm yn cael ei nodi mewn rheoliadau yn y dyfodol, er bod y Bil yn nodi na ddylai hyn, yn achos ysgolion 'Prif Iaith - Saesneg, rhannol Gymraeg', fod yn is na 10% o amser y cwricwlwm.
Mae rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, yn pryderu bod faint o addysg Gymraeg sydd i'w darparu gan ysgolion 'Prif iaith - Cymraeg’ yn rhy amwys. Awgrymwyd ei fod mewn perygl o danseilio neu ddibrisio addysg cyfrwng Cymraeg os nad yw wedi'i osod ar lefel sy'n sicrhau bod y mwyafrif helaeth o'r ddarpariaeth yn yr ysgolion hynny yn Gymraeg. Er enghraifft, nid yw'r is-gategori presennol o ysgolion Cyfrwng Cymraeg Penodedig, lle caiff disgyblion eu haddysgu 90% o'r amser yn Gymraeg, wedi'i gynnwys yn y Bil. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y byddai hyn yn cael ei "ddal" ... drwy'r broses reoleiddio.
Mae'r Bil yn defnyddio'r term 'addysg Gymraeg' i olygu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc. I rai, gan gynnwys Dyfodol i'r Iaith, Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae hyn yn cyfuno ac yn drysu dau gysyniad gwahanol. Dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedalethol y gallai'r "diffyg gwahaniaethu" yma arwain at "ddiffyg ffocws ar warchod a chynyddu ‘addysg cyfrwng Cymraeg'". Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen i'r Bil fod yn gliriach ynghylch y gwahaniaeth hwn.
Yr Athrofa a thirwedd chymhleth ôl-16
Er bod y Bil yn canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu darpariaeth addysg Gymraeg yn y sector ysgolion statudol, mae'n ceisio dylanwadu ar daith Gymraeg dysgwr o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg oedolion.
Mae’r Bil yn cynnig sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi pobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg a hwyluso eu cynnydd. O'r herwydd, y bwriad yw i'r sector ôl-16 chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi dilyniant dysgwyr o'r sector statudol i'w cefnogi nhw i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch, a phrentisiaethau, trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fodd bynnag, tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw at bryderon, yn enwedig gan Medr (Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), y bydd yr Athrofa yn ymuno â thirwedd gymhleth o sefydliadau yn y sector ôl-16. Dywedodd Medr y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r Memorandwm Esboniadol yn rhoi rhagor o eglurder ynghylch priod rolau'r ddau sefydliad. Cytunodd y Pwyllgor, a gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch rôl yr Athrofa "yng nghyd-destun y sector addysg drydyddol ehangach”.
Cysylltu gwaith cynllunio ar lefel ysgol, leol a chenedlaethol
Mae ansicrwydd ynghylch rôl y sector addysg drydyddol (ôl-16) wrth gyflawni'r 'Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg'. Bydd y Fframwaith yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei strategaeth iaith Gymraeg ac yn ceisio cyflwyno "llinell atebolrwydd clir" ar lefel genedlaethol, leol ac ysgol ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg. Rhaid iddo gynnwys addysgu a dysgu'r Gymraeg ar bob oedran ond nid oedd y sector trydyddol yn siŵr am y rôl y bydd gwahanol sefydliadau'n ei chwarae, ac argymhellodd y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru’n ei egluro.
Mae'r Bil yn cadw "Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg', y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu cael ar waith. Fodd bynnag, mae'n bwrw ymlaen â "newid meddylfryd" ar y cynlluniau hyn, a nodir gan Lywodraeth Cymru ym Mhapur Gwyn 2023. O dan y Bil, bydd Llywodraeth Cymru nawr yn pennu nodau strategol awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio'r Gymraeg mewn addysg, a'u swyddogaeth fydd cynllunio a gweithredu. Dywedodd cynrychiolwyr llywodraeth leol wrth y Pwyllgor eu bod yn fodlon ar hyn.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyfanswm o 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried, gyda'r nod o gryfhau'r Bil. Cafodd y Bil ei drafod hefyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyllid.
Ddydd Mawrth 14 Ionawr, bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Os bydd y Senedd yn penderfynu cefnogi'r Bil, bydd Aelodau o'r Senedd yn cael cyfleoedd i geisio diwygio'r Bil cyn i bleidlais derfynol gael ei chynnal ymhen ychydig fisoedd.
Gallwch ddilyn y ddadl yn fyw ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.
Erthygl gan Osian Bowyer a Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru