dosbarth

dosbarth

Materion addysgu

Cyhoeddwyd 30/11/2023   |   Amser darllen munudau

Am flynyddoedd lawer, nid oedd nifer y bobl a oedd yn hyfforddi i fod yn athrawon yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru. Mae rhai wedi awgrymu bod gennym argyfwng recriwtio a chadw. Mae’r erthygl hon yn trafod y materion hyn.

Recriwtio i addysgu

Er mwyn bod yn athro mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, rhaid ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) a chwblhau cyfnod ymsefydlu. Enillir SAC drwy ddilyn rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).

Mae Llywodraeth Cymru yn gosod ffigur derbyn cenedlaethol ar gyfer recriwtio myfyrwyr i raglenni AGA cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Mae hyn yn ystyried amcangyfrif y galw am athrawon newydd. Yn seiliedig ar y ffigur cenedlaethol hwn, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn dyrannu targedau derbyn i bob Partneriaeth AGA – ar hyn o bryd mae saith yng Nghymru. Mae dyraniadau ar wahân ar gyfer llwybrau addysgu cynradd ac uwchradd, llwybrau israddedig a TAR (ôl-raddedig), ac, ar gyfer addysgu uwchradd, mae dyraniadau penodol ar gyfer arbenigedd mewn pynciau unigol.

Yn 2020/21, am y tro cyntaf ers chwe blynedd, roedd nifer yr athrawon dan hyfforddiant newydd a oedd yn hyfforddi i fod yn athrawon ysgol gynradd yn uwch na chyfanswm y dyraniad. Roedd yn uwch na’r dyraniad eto yn 2021/22. Fodd bynnag, yn 2021/22, roedd nifer yr athrawon dan hyfforddiant newydd a oedd yn hyfforddi i fod yn athrawon ysgol uwchradd ymhell islaw'r dyraniad, fel sydd wedi digwydd bob blwyddyn ers 2016/17.

 

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru: Addysg gychwynnol i athrawon: Medi 2021 – Awst 2022

Awgrymodd y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg fod y cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer cyrsiau AGA yng Nghymru yn deillio o ansicrwydd yn y farchnad lafur ehangach. Roedd addysgu wedi parhau drwy gydol y pandemig, tra bo recriwtio wedi gostwng mewn diwydiannau eraill. Awgrymodd hefyd fod llai o athrawon wedi gadael yn 2020, oherwydd yr ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig. Canfu ei ddadansoddiad:

…while the Welsh school system was facing a growing challenge of ensuring there are sufficient numbers of teachers before the pandemic, this has been eased somewhat in the short term.

Meysydd prinder

Nododd y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg fod tystiolaeth o hyd fod yna heriau o ran recriwtio a chadw mewn rhai meysydd, gan gynnwys athrawon sy’n dysgu pynciau lle mae prinder (megis Cymraeg, mathemateg, gwyddoniaeth ac ieithoedd tramor modern), ac mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o anfantais.

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o flaenoriaethau recriwtio ar gyfer addysgu. Mae'r rhain yn cynnwys denu pobl o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; y rhai sydd ag arbenigeddau pwnc penodol ar gyfer addysgu mewn ysgolion uwchradd; ac athrawon ysgol uwchradd dan hyfforddiant sy’n hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae grantiau cymhelliant i athrawon dan hyfforddiant ar gael i’r rhai sy’n hyfforddi yn y meysydd hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bartneriaethau AGA weithio tuag at dderbyn 30% o fyfyrwyr sy'n paratoi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth am y gweithlu cyfrwng Cymraeg i'w gweld yn ein herthygl ym mis Mai 2022 a chynllun deng mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn disgwyl i bartneriaethau AGA weithio tuag at dderbyn 5% o fyfyrwyr o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi’u tangynrychioli yn y gweithlu. Roedd cynllun recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymhellion hyfforddi a dyraniadau derbyn penodol.

Cadw athrawon

Mae undebau’r athrawon wedi mynegi pryder ynghylch recriwtio a chadw, gydag un yn disgrifio’r sefyllfa fel 'argyfwng'. Yn ôl canfyddiadau cychwynnol yr ymatebion i arolwg Cwestiynau Mawr yr NASUWT 2023. roedd bron i dri chwarter yr athrawon yng Nghymru wedi ystyried gadael y proffesiwn addysgu o ddifrif dros y 12 mis blaenorol.

Canfu arolwg y gweithlu 2021 a gynhaliwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod 16% o athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf. Canfu’r adroddiad ar y gweithlu gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg fod cyfraddau uwch yn gadael o blith athrawon llai profiadol nag o blith eu cydweithwyr mwy profiadol. Dywedwyd hefyd fod gwahaniaethau parhaus o ran cyfraddau gadael rhwng ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig ac ysgolion mewn ardaloedd mwy cefnog.

Llwyth gwaith athrawon

Mae llwyth gwaith athrawon yn parhau i beri pryder, ac mae’n effeithio ar gyfraddau cadw athrawon. Canfu Arolwg Cenedlaethol o’r Gweithlu 2021 gan Gyngor y Gweithlu Addysg fod athrawon ysgol yn gweithio 56 awr yr wythnos ar gyfartaledd a bod 70% o athrawon ysgol yn anghytuno'n gryf eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith.

Roedd mynd i'r afael â llwyth gwaith staff a lleihau biwrocratiaeth yn gam gweithredu allweddol yng nghynllun gweithredu addysg Llywodraeth Cymru yn 2017, Cenhadaeth ein Cenedl ac mae'n ymrwymiad yn y strategaeth bresennol Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb (Mawrth 2023). Roedd gwaith parhaus i leihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth hefyd yn rhan o gytundeb cyflog 2022/23 gydag undebau’r athrawon. Ym mis Gorffennaf 2023, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bydd materion llwyth gwaith “yn flaenllaw” o ran datblygu polisïau Llywodraeth Cymru, a bod gofynion adrodd ysgolion yn cael eu hadolygu.

Cyhoeddwyd datganiad pellach ar 9 Tachwedd 2023, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ystod o fesurau gan gynnwys yr asesiad o'r effaith ar lwyth gwaith a gyhoeddir ddiwedd mis Tachwedd.

Dysgu Proffesiynol

Nododd Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd fod dysgu proffesiynol yn ffactor pwysig o ran helpu i gadw athrawon. Lansiwyd y Dull Cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn 2018. Y nod oedd cefnogi'r diwygiadau sylweddol ym myd addysg yng Nghymru a mynd i'r afael â'r amrywiadau o ran mynediad a hawl, ansawdd ac effaith dysgu proffesiynol ledled y wlad.

Mae gan bob athro a chynorthwyydd addysgu, ynghyd ag arweinwyr neu gynghorwyr y system addysg sy’n cefnogi ysgolion neu leoliadau, Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Mae'r Hawl yn adeiladu ar elfennau allweddol o'r Dull Cenedlaethol, ac yn eu datblygu. Ei nod yw amlinellu sut y bydd datblygiad parhaus ymarferwyr yn cynorthwyo ysgolion a'u dysgwyr i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, gan gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ymgorffori tegwch, llesiant a'r Gymraeg yng nghymuned yr ysgol gyfan.

Ar 14 Medi 2023, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Panel Cymeradwyo Cenedlaethol newydd yn cael ei sefydlu, a fydd yn gyfrifol am bennu meini prawf cymeradwyo a sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol a gyflwynir i'w gymeradwyo. Bydd y Panel yn cynnwys ystod o randdeiliaid megis Cyngor y Gweithlu Addysg yn ogystal ag arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion.

Athrawon cyflenwi

Fe ysgrifennom ni ym mis Rhagfyr 2022 am gyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai llwyfan archebu technolegol newydd ar gael o fis Medi 2023. Nod Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru yw darparu cyfleoedd gwaith uniongyrchol gan ysgolion i athrawon cyflenwi a’u gwneud yn gymwys o bosibl hefyd ar gyfer y Cynllun Pensiwn Athrawon. Mae’n cael ei roi ar waith fesul cam ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd, ochr yn ochr â'r llwyfan archebu, y gofynnwyd i gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru, sy’n gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar gyflogau ac amodau athrawon, ystyried a allai cyflogau, telerau ac amodau gwahanol fod yn berthnasol i amrywiol rolau a chyfrifoldebau athrawon ac athrawon cyflenwi yn y system.

“The quality of an education system cannot exceed the quality of its teachers”

Mae Gweinidogion Addysg olynol wedi pwysleisio'r wireb nad yw system addysg ond cystal â'i hathrawon. Felly, mae sicrhau bod y strwythurau a'r sylfeini yn iawn ar gyfer y gweithlu addysg yn debygol o fod yn hollbwysig er mwyn gwireddu cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru o sicrhau “safonau a dyheadau uchel i bawb”.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru