Sut all academyddion gymryd rhan yng ngwaith y Senedd?

Cyhoeddwyd 15/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae gan Aelodau o’r Senedd (ASau) a staff y Senedd ddiddordeb mewn gwaith ymchwil sy’n berthnasol i faterion cyfoes sydd ar yr agenda seneddol bresennol, yn ogystal â materion sy’n effeithio ar eu hetholwyr.

Mae’r Senedd yn ymgysylltu ag ymchwilwyr profiadol yn eu meysydd, ac mae’n croesawu cyfraniadau gan bobl ar bob lefel yn eu gyrfaoedd a phobl o wahanol ddisgyblaethau, sefydliadau a chefndiroedd.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cymryd rhan yng ngwaith y Senedd:

Sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Senedd

Mae’r Senedd yn sefydliad deinamig sy’n newid yn gyflym, lle caiff ystod o faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru eu trafod ar yr un pryd.

Drwy sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n cael ei drafod, byddwch yn gwybod pryd sydd orau i chi ymgysylltu â’r Senedd, a bydd eich cyfraniad yn gallu cael yr effaith fwyaf posibl.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn y Senedd drwy:

Gwybod pwy i gysylltu â nhw

Mae nifer o ffyrdd y gallwch ymgysylltu â’r Senedd, gan gynnwys ymgysylltu ag Ymchwil y Senedd, Aelodau o’r Senedd, pwyllgorau’r Senedd a grwpiau trawsbleidiol.

Aelodau o’r Senedd.

Gallwch chwilio am broffil pob Aelod, sy’n dangos pa bwyllgorau a grwpiau trawsbleidiol y mae Aelod penodol yn perthyn iddynt, yn ogystal â’i ddiddordebau personol. Gallwch drefnu cwrdd ag Aelodau naill ai yn swyddfa’r etholaeth/rhanbarth neu yn y Senedd, a gallwch fynd i ddigwyddiadau y maent yn eu trefnu.

Pwyllgorau’r Senedd

Mae’r pwyllgorau yn cynnwys Aelodau o wahanol bleidiau gwleidyddol.

Mae pob pwyllgor wedi’i sefydlu i ymchwilio i faes polisi eang, fel iechyd neu addysg, a bydd yn craffu ar ddeddfau arfaethedig ac yn cynnal ymchwiliadau yn y maes penodol hwnnw.

Gallwch gymryd rhan yng ngwaith pwyllgor drwy:

Grwpiau trawsbleidiol

Caiff grwpiau trawsbleidiol eu ffurfio pan fydd nifer o Aelodau yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar bwnc penodol.

Mae grwpiau trawsbleidiol yn llai ffurfiol na phwyllgorau ac nid ydynt yn rhan o fusnes ffurfiol y Senedd.

Maent yn gyfle defnyddiol i Aelodau drafod pynciau sy’n berthnasol i waith y Senedd, a gellir gwahodd arbenigwyr yn y pynciau dan sylw i ymuno â’r trafodaethau.

Mae yna restr o’r grwpiau trawsbleidiol cofrestredig sy’n cynnwys gwybodaeth am yr aelodaeth a’r manylion cyswllt perthnasol. Gallwch naill ai gysylltu â grŵp yn uniongyrchol neu siarad ag aelod unigol o’r grŵp hwnnw.

Ymchwil y Senedd

Gwasanaeth ymchwil a gwybodaeth sydd wedi’i leoli yn y Senedd yw Ymchwil y Senedd.

Rydym yn darparu gwaith ymchwil, dadansoddiadau ac ystadegau diduedd, yn ogystal â gwasanaeth llyfrgell, i gynorthwyo Aelodau o’r Senedd a’u staff yn eu holl rolau seneddol.

Bob blwyddyn, mae Ymchwil y Senedd yn galw am geisiadau ar gyfer cynllun cymrodoriaeth academaidd. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i uwch academydd (ôl-ddoethuriaeth) dreulio amser yn gweithio ar brosiect penodol gyda’n hymchwilwyr. Cadwch lygad allan am ddyddiadau allweddol a chofiwch fwrw golwg dros waith y cymrodorion blaenorol.

Mae gennym Gofrestr o Arbenigwyr ym maes COVID i gynorthwyo gwaith craffu ynghylch y pandemig.

Hefyd, gallwch ddod ar leoliad doethuriaeth Ymchwil ac Arloesi yn y DU gydag Ymchwil y Senedd.

Gallwch gysylltu â’n hymchwilwyr yn uniongyrchol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’ch gwaith ymchwil, ac mae’n bosibl y gofynnir ichi ysgrifennu erthygl wadd.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r canllaw gan yr Ymgyrch dros y Gwyddorau Cymdeithasol, sef Pathways to Impact, yn cynnwys ambell awgrym defnyddiol ynghylch ymgysylltu â’r Senedd a Llywodraeth Cymru.