Mae gwahanol fathau o gymorth ariannol y gallai myfyrwyr fod yn gymwys i'w cael ar gyrsiau Addysg Bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru. Mae addysg bellach yn aml ar gyfer y rhai 16-18 oed, er y gall oedolion astudio hefyd; fel arfer caiff ei gyflwyno trwy golegau lleol a chweched dosbarth ysgolion.
Canllaw cyffredinol i'r hyn sydd ar gael yw'r erthygl hon ac nid yw'n cwmpasu sefyllfa pawb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan bob chweched dosbarth neu goleg unigol, a chan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Ffioedd dysgu
Nid yw myfyrwyr 16-18 oed fel arfer yn gorfod talu ffioedd dysgu. Efallai y codir ffi dysgu ar y rhai sy'n 19 oed neu'n hŷn, felly dylai myfyrwyr wirio gyda'r sefydliad maen nhw'n ei ystyried, neu'n astudio ynddo ar hyn o bryd.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mae’r LCA ar gyfer dysgwyr amser llawn (o leiaf 12 awr yr wythnos) o aelwydydd incwm isel, sydd mewn addysg bellach, ac sydd rhwng 16 a 18 oed ac yn byw yng Nghymru.
Mae yna amrywiaeth o feini prawf cymhwysedd ar gyfer y LCA, a bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gofyn am dystiolaeth yn ystod y cais i wirio yn eu herbyn. Mae'r meini prawf yn cynnwys y cwrs sy'n cael ei astudio a'r ysgol neu'r coleg sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Mae meini prawf cenedligrwydd a phreswylio hefyd; i fod yn gymwys mae angen i ddysgwyr fyw yng Nghymru, ond nid oes angen iddynt astudio yng Nghymru.
Mae incwm aelwyd ac amgylchiadau teuluol person yn ffactorau allweddol wrth benderfynu ar gymhwysedd ar gyfer y LCA. Mae dau wahanol drothwy incwm aelwyd sy'n dibynnu ar amgylchiadau teuluol y dysgwr; sef nifer y plant dibynnol (gan gynnwys y dysgwr). Mae trothwy incwm is ar gyfer aelwydydd gydag un plentyn dibynnol (£24,570 o fis Medi 2026) a throthwy incwm uwch ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol (£27,273 o fis Medi 2026).
Os yw'n gymwys, gall dysgwr gael taliad wythnosol o £40, gyda thaliadau'n cael eu gwneud bob pythefnos. Mae yna gytundeb LCA rhwng y dysgwr a'i ysgol neu goleg sy'n cynnwys meini prawf presenoldeb er mwyn i'r taliadau gael eu gwneud.
Am ragor o wybodaeth, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cyhoeddi Llyfr Bach LCA sy'n cael ei ddiweddaru ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach yn grant i ddysgwyr 19 oed neu hŷn ar ddechrau'r flwyddyn academaidd (1 Medi) y byddent yn dechrau astudio ynddi. Mae hwn ar gael ar gyfer astudiaethau amser llawn a rhan-amser.
Mae yna amrywiaeth o feini prawf cymhwysedd ar gyfer Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach, a bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gofyn am dystiolaeth yn ystod y cais i wirio yn eu herbyn. Mae meini prawf o ran cenedligrwydd a phreswylio; i fod yn gymwys mae angen i ddysgwyr fyw yng Nghymru, ond nid oes angen iddynt astudio yng Nghymru.
Rhaid i'r cwrs fod yn lefel 3 neu is, fel TGAU, Safon Uwch neu Safon UG, BTEC neu NVQ. Rhaid i'r coleg neu'r man astudio hefyd fod yn rhan o gynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach. Os yw dysgwr wedi cael cyllid Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach o'r blaen ar gyfer cwrs o'r un lefel neu'n uwch na'r hyn y maent yn gwneud cais amdano, ni fyddant yn gymwys i'w gael eto.
Fel gyda’r LCA, un maen prawf cymhwysedd allweddol yw incwm aelwyd person. Mae faint o gyllid y gallai dysgwr ei gael yn dibynnu ar nifer o drothwyon incwm ac a ydynt yn astudio'n rhan-amser neu'n amser llawn. Mae gan Cyllid Myfyrwyr Cymru gyfrifiannell addysg bellach i ddysgwyr gyfrifo faint y gallent ei gael.
Os yw'n gymwys, bydd dysgwr yn cael taliadau dair gwaith y flwyddyn. Mae yna gytundeb Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach rhwng y dysgwr a'i goleg sy'n cynnwys meini prawf presenoldeb er mwyn i'r taliadau gael eu gwneud.
Am ragor o wybodaeth, mae Cyllid Myfyrwyr yn cyhoeddi Canllaw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach sy'n cael ei ddiweddaru ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn
Arian wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru yw’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn fel y gall colegau yng Nghymru helpu dysgwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol, neu sy’n debygol o adael eu haddysg. Mae rhai colegau’n galw’r arian hwn yn Gronfeydd Cymorth i Fyfyrwyr neu’n Gronfeydd Caledi Myfyrwyr.
Mae’r arian yn cael ei roi i golegau felly nhw sydd i’w weinyddu yn ôl eu disgresiwn. Mae pob coleg yn gyfrifol am ddosbarthu'r cyllid i sicrhau y gellir teilwra'r cymorth i anghenion eu dysgwyr. Cyhoeddodd Medr (corff hyd braich Llywodraeth Cymru) ganllawiau ar y Gronfa Ariannol Wrth Gefn.
Cymorth ariannol ar gyfer teithio
Er nad oes rhaid i awdurdodau lleol gynnig cludiant am ddim ar ôl oedran ysgol gorfodol (16), mae ganddynt ddisgresiwn i ddarparu cludiant i ddysgwyr addysg bellach. Bydd hyn yn amrywio yn ôl awdurdod lleol a rhanbarth. Gall dysgwyr gael cludiant am ddim neu gludiant â chymhorthdal yn ystod eu cwrs, os ydyn nhw:
- dros 16 oed, yn astudio yn eu hysgol leol ac yn teithio dros bellter penodol i gyrraedd yno;
- yn 16 i 19 oed ac yn astudio'n amser llawn mewn coleg addysg bellach; neu
- yn 19 oed neu'n hŷn, neu'n astudio'n rhan-amser.
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer cludiant am ddim neu â chymhorthdal, dylai dysgwr gysylltu â'i goleg neu awdurdod lleol.
Os yw dysgwr yn 16-21 oed ac yn byw yng Nghymru, gall wneud cais am FyNgherdynTeithio sy'n rhoi 30% oddi ar docynnau bws wythnosol, misol neu flynyddol. Ar hyn o bryd, gall pobl ifanc 16-21 oed sydd â FyNgherdynTeithio brynu tocynnau sengl £1, neu deithiau dyddiol diderfyn am £3, fel rhan o gynllun peilot sy'n rhedeg tan fis Awst 2026.
Cyllid ar gyfer meysydd addysg eraill
Mae amryw o opsiynau ar gael i bobl ifanc pan fyddant yn gorffen yr ysgol neu'r coleg, gan gynnwys parhau i astudio, gwneud prentisiaeth, neu fynd i'r gweithle. Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yn nodi rhai opsiynau ac yn cynnwys rhagor o wybodaeth i bobl ifanc.
O ran prentisiaethau, maent yn cyfuno gweithio ochr yn ochr ag astudio i ennill cymhwyster. Medr sy’n talu cost lawn y rhaglen hyfforddi ar gyfer y prentis, ac mae'r prentis yn cael cyflog gan ei gyflogwr. Rhaid i'r brentisiaeth fod gydag un o'r darparwyr hyfforddiant cymeradwy.
Mae Ymchwil y Senedd hefyd wedi cyhoeddi canllawiau cyllido ar gyfer astudiaethau prifysgol (addysg uwch), gan gynnwys ar gyfer lefel israddedig ac ôl-raddedig.
Erthygl gan Lucy Yarham, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru