Bwriad yr adroddiad monitro hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o’r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb am ddatblygiadau polisi allweddol sy’n ymwneud â chyfiawnder. Mae'n blaenoriaethu deunydd sy'n benodol i Gymru yn ogystal â datblygiadau sy'n gysylltiedig â Chymru a Lloegr sydd â goblygiadau clir i wasanaethau yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn trafod y cyfnod rhwng 7 Mai 2026 a 13 Hydref 2026. Gan mai hwn yw’r adroddiad cyntaf o’r fath yn y Seithfed Senedd, mae datblygiadau cyn yr etholiad sy’n debygol o barhau’n berthnasol wedi’u cynnwys hefyd.
Mae Ymchwil y Senedd hefyd wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Cyn yr etholiad
Ar 27 Ionawr 2026, ymatebodd Llywodraeth flaenorol Cymru i Bapur Gwyn gan Lywodraeth y DU ar ddiwygio’r heddlu.
Yn yr ymateb hwn, croesawodd Llywodraeth Cymru “agwedd adeiladol” y Swyddfa Gartref wrth “ymwneud â thirwedd unigryw Cymru” yn y papur. Roedd yr ymateb hefyd yn nodi, pan wneir penderfyniadau ynghylch lleihau nifer yr heddluoedd, “na ddylai unrhyw un heddlu rhanbarthol weithredu ar draws y ddwy ochr i'r ffin rhwng y ddwy wlad”.
Ym mis Mawrth 2026, nododd Llywodraeth flaenorol Cymru gytundebau â Llywodraeth y DU, gan gynnwys:
- ei bod wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd â Llywodraeth y DU, gan gynnwys ymrwymiadau i ddatganoli cyfrifoldebau dros ariannu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol ac ehangu rôl oruchwylio Llywodraeth Cymru yn y gwasanaethau hyn;
- ei bod wedi cytuno, ochr yn ochr â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, i lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar wasanaethau prawf erbyn diwedd 2026.
Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru egwyddorion a chanllawiau ynghylch dargyfeirio a datrysiadau y tu allan i'r llys i blant ar 9 Mawrth 2026.
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyngor i helpu i gadw plant dan 18 oed allan o'r system gyfiawnder ac atal troseddu pellach yng Nghymru.
Ar ôl yr etholiad
Ym mis Gorffennaf 2026, cafodd cyfres o ystadegau swyddogol yn ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru ei chyhoeddi, gan gynnwys:
- 23 Gorffennaf — Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, “Crime in England and Wales: year ending March 2026". Yn cynnwys tablau fesul ardal yr heddlu sy'n caniatáu dadansoddiadau o’r pedwar heddlu yng Nghymru, er bod llawer o amcangyfrifon yr arolwg yn parhau ar lefel Cymru a Lloegr.
- 23 Gorffennaf — Y Swyddfa Gartref, “Crime outcomes in England and Wales 2025 to 2026". Ystadegau swyddogol ar ganlyniadau sy’n gysylltiedig â throseddau a gofnodwyd, sy’n berthnasol i berfformiad heddluoedd Cymru.
- 30 Gorffennaf — Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, “Criminal Justice Statistics Quarterly: Mawrth 2026”. Yn cwmpasu erlyniadau, euogfarnau, remandio, dedfrydu a datrysiadau y tu allan i'r llys ledled Cymru a Lloegr.
- 30 Gorffennaf — Y Weinyddiaeth Gyfiawnder / Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, “Ystadegau Diogelwch yn y Ddalfa". Yn adrodd am farwolaethau hyd at fis Mehefin 2026 ac ymosodiadau a hunan-niweidio hyd at fis Mawrth 2026 ar draws carchardai yng Nghymru a Lloegr.
- 6 Awst — Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, “Welsh Justice Data: Annual Release 2026”. Dyma set ddata allweddol sy'n benodol i Gymru, sy'n dadansoddi carcharorion yn ôl awdurdod lleol, carchar, statws dedfryd, trosedd, oedran, ethnigrwydd a chrefydd. Mae erthygl gan Ymchwil y Senedd yn archwilio'r data hyn.
Ym mis Gorffennaf 2026, ysgrifennodd Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, , lythyr at Alex Norris AS, yr Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder newydd, , yn galw ar y ddwy Lywodraeth i weithio mewn partneriaeth ar gyfiawnder.
Galwodd y Dirprwy Brif Weinidog am “ymrwymiad cynnar ganddo i ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fel arddangosiad o ymagwedd ddiwygiedig Llywodraeth y DU at ddatganoli”.
Hefyd, ysgrifennodd y Dirprwy Brif Weinidog at Catherine McKinnell AS, y Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan bwysleisio’r “ymrwymiad i leihau effaith anghymesur y system gyfiawnder ar fenywod yng Nghymru”.
Ym mis Awst 2026, mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad oedd wedi cyfrifo cost datganoli plismona a chyfiawnder troseddol i Gymru.
Nododd fod y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu, ac y byddai costau cychwynnol datganoli yn dibynnu ar raddfa datganoli, yr amserlenni cysylltiedig a’r dull gweithredu.
Ym mis Hydref 2026, dywedodd Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, , y gallai’r Comisiwn Cenedlaethol sefydlog i Gymru sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ystyried y costau sy'n gysylltiedig â datganoli'r system gyfiawnder gyfan.
Yn ei Rhaglen Lywodraethu, ailadroddodd Llywodraeth Cymru y bwriad a ganlyn: “Mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn llwyr i Gymru gyda’r brys y mae hyn yn ei haeddu”.
Ym mis Awst 2026, adroddwyd bod y Prif Weinidog, Andy Burnham AS, wedi dweud ei fod yn barod i gael y drafodaeth ynghylch datganoli rheolaeth dros blismona i Gymru. Adroddwyd ei fod hefyd wedi dweud bod y diwygiadau ehangach i blismona yn golygu ei bod yn amser da i edrych ar y materion hynny.
Ar 17 Medi 2026, ysgrifennodd Catherine McKinnell AS, y Gweinidog dros Garchardai, Prawf a Lleihau Aildroseddu, , at Carrie Harper AS, Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol, i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yn Abertawe.
Dywedodd y Gweinidog nad oedd y Ganolfan wedi cael cyllid o’r Adolygiad Gwariant diwethaf, a bod Llywodraeth y DU yn ystyried sut y gall model y ganolfan breswyl i fenywod gyd-fynd orau â blaenoriaethau cyfredol a phroffil esblygol y bobl sydd yn y carchar.
Ar 23 Medi 2026, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol sesiwn dystiolaeth gyda Sioned Williams AS, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Roedd y sesiwn hon yn ymdrin â meysydd yn cynnwys atal troseddu a Bil hawliau dynol arfaethedig Llywodraeth Cymru.
Ar 24 Medi 2026, cafodd seithfed adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ei gyhoeddi.
Dywedodd y Llywydd, Syr Gary Hickinbotton, ei fod wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda'r Cwnsler Cyffredinol newydd, Elfyn Llwyd, a “gadarnhaodd ymrwymiad y Llywodraeth newydd – a’i ymrwymiad personol ef – i’r Rhaglen Diwygio Tribiwnlysoedd a’r Bil i’w rhoi ar waith”.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ailadrodd ei hymrwymiad i gyflwyno’r Bil tribiwnlysoedd “yn gynnar yn nhymor y Senedd” yn ei Rhaglen Lywodraethu.
Cynhaliodd Dr Robert Jones o Brifysgol Caerdydd sesiwn friffio i Bwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol ar Gomisiwn Thomas ym mis Medi 2026.
Cyflwynodd Dr Jones waith ymchwil a oedd yn archwilio'r cynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yn ogystal â chynllun gweithredu ar gyfer yr argymhellion hyn.
Ym mis Hydref 2026, cyhoeddodd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF:
- Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru: 2025 i 2026. Mae'r Bwrdd yn dwyn ynghyd bartneriaid ym maes cyfiawnder troseddol, gan gynnwys: Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, gwasanaethau'r heddlu yng Nghymru, Llywodraeth Cymru ac eraill.
- Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru: Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026. Mae'r adroddiad yn amlinellu cynnydd a wnaed ar y cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol Cymru, gan dynnu sylw at gamau gweithredu, heriau ac ymrwymiad i newid erbyn 2030.
Cyn yr etholiad
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig adroddiad ar ddyfodol Carchar Ei Fawrhydi Y Parc.
Roedd yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn yn cynnwys y dylai Llywodraeth y DU oedi cynigion i ehangu’r carchar oherwydd graddfa’r methiannau a ddatgelwyd yn 2024.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU: “HMPPS would not activate any additional capacity unless assured that the stability and safety of the prison would not be affected”.
Cafodd Deddf Troseddu a Phlismona 2026 Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2026, er gwaethaf pleidlais y Senedd yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol.
Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, terfysgaeth, trais difrifol, a thrais yn erbyn menywod a merched.
Ar 10 Mawrth 2026, pleidleisiodd y Senedd yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r darpariaethau hyn, gyda 25 o bleidleisiau o blaid a 27 yn erbyn. Mae erthygl gan Ymchwil y Senedd yn darparu rhagor o wybodaeth am gydsyniad deddfwriaethol.
Ar 29 Ebrill 2026, cafodd Deddf Dioddefwyr a Llysoedd 2026 Gydsyniad Brenhinol.
Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch profiad dioddefwyr o'r System Cyfiawnder Troseddol, y Comisiynydd Dioddefwyr, a gweithdrefn droseddol a gweinyddiaeth y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.
Ar 1 Mai 2026, cyhoeddodd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr ymateb i ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar God Dioddefwyr diwygiedig.
Yn yr ymateb hwn, mae'r Comisiynydd yn dod i'r casgliad a ganlyn: "without systemic reform, robust accountability, and genuine cultural change, the revised Code risks remaining aspirational rather than transformative".
Ar ôl yr etholiad
Ym mis Mai 2026, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol y DU gynllun diwygio'r system cyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â chynllun gweithredu cysylltiedig.
Mae'r cynllun yn nodi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhannu ymrwymiad i sefydlu rôl gliriach a mwy i Lywodraeth Cymru wrth weithredu’r system cyfiawnder ieuenctid.
Ar 2 Gorffennaf 2026, cafodd y Fonesig Vera Baird DBE KC ei phenodi fel Cadeirydd Dros Dro'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol am gyfnod o 12 mis o 9 Rhagfyr 2026.
Mae'r Comisiwn yn ymchwilio i achosion o gamweinyddiadau cyfiawnder yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bu’r Fonesig Baird yn gwasanaethu fel Ymgynghorydd Arbenigol Annibynnol ar ddatganoli cyfiawnder i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol.
Ym mis Mehefin 2026, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ail adroddiad fel rhan o’i ymchwiliad, ‘Jagged Justice: Prisons, Probation and Rehabilitation in Wales’.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion, gan gynnwys: “the UK Government should include in its response to this report a checklist of measures and steps that need to be taken—with accompanying timelines—in order for a final decision to be reached as to whether to devolve [probation and youth justice]”.
Nododd yr ymateb i’r adroddiad gan Lywodraeth y DU mai ei nod yw i Lywodraeth Cymru gael rôl estynedig, a rôl sydd wedi’i diffinio’n glir, mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid ar ddechrau 2027.
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig hefyd yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol plismona yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae’r Pwyllgor wedi clywed gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru.
Ar 30 Mehefin 2026, cyhoeddodd y Comisiynydd Dioddefwyr ei adroddiad blynyddol ar gyfer y cyfnod o 2024 i 2025.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ymdrechion i gryfhau hawliau dioddefwyr, yn ogystal ag ymateb i drais yn erbyn menywod a merched, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ôl-groniad achosion yn Llys y Goron.
Ym mis Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad annibynnol o'r system garchardai.
Mae cylch gorchwyl yr adolygiad hwn wedi’u nodi yma. Disgwylir i’r adolygiad adrodd yn ôl ym mis Rhagfyr 2026. Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder alwad am dystiolaeth dros yr haf fel rhan o’r adolygiad.
Ar 7 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Arolygiaeth Carchardai EF ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2025-26.
Mae'r adroddiad yn nodi: “widespread ingress of illicit drugs remains a grave threat to stability in prisons”.
Mae Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin wedi parhau â’i ymchwiliad i fynediad at gyfiawnder.
Ar 17 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar gymorth cyfreithiol, gan nodi: “access to justice in England and Wales has been severely eroded by the declining availability of legal aid”.
Ar 20 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Arolygiaeth Prawf EF ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2026.
Mae'r adroddiad yn nodi: “inspections have chronicled an organisation grappling with serious systemic challenges, an increasingly large and complex caseload, and continuous change”.
Hefyd, cyhoeddodd yr Arolygiaeth Arolygiad Dynamig o Waith Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru ym mis Awst 2026, a ddaeth i’r casgliad fod Cymru’n “ranbarth ag uchelgais glir, arweinyddiaeth gref, a gweledigaeth gydlynol ar gyfer gwelliant”.
Ar 8 Medi 2026, cyhoeddodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF ei asesiad blynyddol o blismona yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2025-26.
Mae’r Prif Arolygydd yn datgan bod diwygio plismona sydd ar ddod yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau diwygiadau parhaol a gwneud gwelliannau mawr eu hangen i’r gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd.
Mae Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin wedi parhau â’i ymchwiliad i blant ac oedolion ifanc yn yr ystad ddiogel.
Ar 8 Medi 2026, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Laura Cooper, Cyfarwyddwr y Ganolfan Gyfreithiol Cyfiawnder Ieuenctid, a Steph Roberts-Bibby, Prif Weithredwr Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.
Ar 8 Medi 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Martin Jones wedi cael ei ailbenodi’n Brif Arolygydd Prawf EF.
Bydd yr ailbenodiad am ail dymor o 3 blynedd yn ymestyn o 1 Mawrth 2027 hyd at 30 Ebrill 2030.
Ar 10 Medi 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau i’r newidiadau i drefniadau rhyddhau o’r carchar.
Dim syniad os di hwn yn haws, ond dyma gynnig: Bydd y pwynt rhyddhau ar gyfer y rhan fwyaf o garcharorion sydd â’r ddedfryd carchar mwyaf cyffredin yn newid. Bydd yn symud o 40% neu hanner, i draean y ddedfryd ar gyfer rhai carcharorion, ac i eraill, bydd yn newid o ddwy ran o dair eu dedfryd, i hanner.
Caiff y newidiadau hyn eu cyflwyno drwy Ddeddf Dedfrydu 2026.
Ar 28 Medi 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllaw i’r newidiadau i drefniadau rhyddhau o’r carchar.
Ar 10 Medi, cafodd Adroddiad Blynyddol Prif Grwner Cymru a Lloegr ar gyfer 2025 ei gyhoeddi.
Mae'r adroddiad yn trafod gwaith i hyrwyddo cysondeb yn awdurdodaeth y crwner ledled Cymru a Lloegr, ac ailgyfansoddi cadres cenedlaethol y Prif Grwner.
Ar 21 Medi 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ystafelloedd llys penodol i glywed am achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn cael eu cyflwyno ym mhob Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad cynharach gan Lywodraeth y DU y bydd gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr dimau pwrpasol i ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw erbyn diwedd 2027, gan helpu i sicrhau bod mwy o achosion troseddol yn cael eu herlyn.