Heddlu

Heddlu

A oes llwybr wedi agor i ddatganoli plismona i Gymru?

Cyhoeddwyd 08/09/2026   |   Amser darllen munud

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld plismona’n cael ei ddatganoli, gan drosglwyddo cyfrifoldeb deddfwriaethol a gweithredol i'r Senedd a Gweinidogion Cymru. Nid yw diwygiadau plismona Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2026, yn cynnig hyn. Yn hytrach, gallent arwain at drefniadau gweinyddol penodol i Gymru ar gyfer llywodraethu heddluoedd, tra bod plismona yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl.

Yn ystod ei ymweliad swyddogol cyntaf â Chymru fel Prif Weinidog y DU ar 27 Awst, dywedodd Andy Burnham AS ei fod yn agored i drafod datganoli plismona gyda Llywodraeth Cymru. Mae ei sylwadau yn awgrymu y gallai newid cyfansoddiadol ehangach fod yn destun trafodaeth, ond nid yw'n rhan o'r diwygiadau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.

Y man cychwyn cyfansoddiadol

Mae plismona yn fater a gedwir yn ôl i Senedd y DU, tra bod iechyd, addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol yn feysydd datganoledig. Mae'r gwasanaethau hyn yn effeithio ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddau a'r galw ar yr heddlu. Mae cyllid yr heddlu yng Nghymru hefyd yn adlewyrchu'r dirwedd gyffredin hon. Mae'n cyfuno cymorth gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru â refeniw a gaiff ei godi’n lleol drwy breseptau'r dreth gyngor. Felly mae heddluoedd yn gweithredu o fewn system Cymru a Lloegr tra’n cydweithio'n agos â gwasanaethau datganoledig yng Nghymru - rhyngwyneb sy’n cael ei ddisgrifio fel 'ymyl garw' y system gyfiawnder.

Beth mae'r Papur Gwyn yn ei gynnig i Gymru?

Mae diwygio plismona a datganoli plismona yn faterion sy’n gysylltiedig, ond ar wahân i’w gilydd. Roedd Papur Gwyn Llywodraeth y DU a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2026, From local to national: a new model for policing, yn cynnig newidiadau strwythurol a gweinyddol mawr ledled Cymru a Lloegr. Maent yn cynnwys diddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2028, adolygu niferoedd a ffiniau heddluoedd, creu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol ar gyfer troseddau difrifol a chymhleth, a chryfhau safonau a goruchwyliaeth genedlaethol.

.Nid yw'r Papur Gwyn yn cynnig trosglwyddo cyfrifoldeb deddfwriaethol neu weithredol dros blismona i Gymru. Byddai datganoli llawn yn golygu bod angen newid setliad datganoli Cymru. Mae'r hyn sy’n cael ei gynnig yn fwy cul. Gan fod y Papur Gwyn yn cynnig symud llywodraethiant ar gyfer plismona lleol i faes lywodraeth leol - sef maes sydd wedi'i ddatganoli - rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddod i gytundeb ar drefniadau newydd i Gymru. Gallai'r rhain roi mwy o reolaeth weinyddol a goruchwyliaeth ddemocrataidd i Gymru, tra bod cyfraith, pwerau a chyfrifoldeb terfynol dros blismona yn parhau i fod yn faterion a gedwir yn ôl.

Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y rhain. Mae comisiynau olynol, gan gynnwys Comisiwn Silk, Comisiwn Thomas, Comisiwn Brown a'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi ystyried yr achos ehangach dros ddatganoli. Fodd bynnag, mae'r Papur Gwyn yn canolbwyntio ar sut caiff plismona ei lywodraethu, nid ar ei ddatganoli'n llwyr.

Y dewisiadau uniongyrchol i Gymru

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru yn cefnogi’n fras yr amcanion sydd yn y Papur Gwyn, ond maent yn dweud fod ei oblygiadau i lywodraethiant a chyllid Cymru yn aneglur o hyd. Dywedon nhw wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y dylai'r gwaith diwygio hwn gynnwys ystyried datganoli, yn hytrach na dim ond creu trefniadau newydd ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae eu model arfaethedig ar gyfer Cymru yn cyfuno bwrdd partneriaeth cenedlaethol â phedwar bwrdd rhanbarthol sy'n cyd-fynd ag ardaloedd presennol yr heddlu.

Mae tystiolaeth arall yn ffafrio cyfranogiad cymunedol cryfach. Mae Prifysgol Wrecsam yn galw am atebolrwydd sydd wedi'i wreiddio'n lleol, tra bod Prifysgol Nottingham Trent yn rhybuddio y gallai byrddau sy'n cael eu dominyddu gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol wanhau gwaith craffu annibynnol.

Bydd tri mater uniongyrchol yn llunio'r trefniadau ar gyfer Cymru:

Pwy fydd yn dwyn yr heddlu i gyfrif?

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn 2028. Mewn rhannau o Loegr, mae meiri etholedig eisoes yn goruchwylio plismona. Nid oes gan Gymru feiri rhanbarthol cyfatebol, felly bydd angen trefniadau gwahanol. Mae Llywodraeth y DU yn dweud y caiff strwythur llywodraeth leol ddatganoledig Cymru ei ystyried. Mae eisoes gan yr Alban a Gogledd Iwerddon setliadau plismona ar wahân.

Sut fydd y diwygiadau’n cael eu hariannu?

Nid yw goblygiadau cyllido’r Papur Gwyn i Gymru yn glir eto. Caiff heddluoedd eu hariannu drwy grantiau'r llywodraeth a phreseptau’r dreth gyngor, tra bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar wahân i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (PCSOs) a gwasanaethau cysylltiedig.

Ar gyfer 2026-27, bydd y pedwar llu heddlu yn cael oddeutu £512.34 miliwn fel cymorth craidd. Fodd bynnag, mae newidiadau'r Papur Gwyn i lywodraethiant, strwythurau heddluoedd a galluoedd cenedlaethol yn codi cwestiynau ynghylch costau yn y dyfodol a sut y byddai cyllid yn cael ei ddosbarthu.

Mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi cwestiynu sut y byddai cyllid yn cael ei ddyrannu, gan gynnwys lle mae arian yn dod i Gymru drwy fformiwla Barnett. Mae hyn ar wahân i gost datganoli plismona, sydd, yn ôl adolygiad yn 2024, yn anhysbys ac yn debygol o fod yn sylweddol.

Faint o luoedd heddlu ddylai fod yng Nghymru?

Nid oes consensws ynghylch strwythur yr heddluoedd. Roedd tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn cefnogi opsiynau yn amrywio o gadw pedwar llu heddlu i greu un gwasanaeth Cymru gyfan, gyda dadleuon yn cydbwyso hunaniaeth leol yn erbyn arbedion maint a chapasiti arbenigol.

O reolaeth weinyddol i ddatganoli

Mae’r dystiolaeth a’r cynigion polisi yn cyfeirio at dri llwybr posibl ar gyfer plismona yn y dyfodol yng Nghymru:

  • Llywodraethiant gweinyddol penodol i Gymru o fewn y setliad a gedwir yn ôl: gallai goruchwyliaeth ranbarthol a mecanwaith partneriaeth Cymru gyfan gymryd lle y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Dyma'r llwybr a agorwyd yn fwyaf uniongyrchol gan y Papur Gwyn. Gallai roi mwy o ddylanwad i Gymru heb drosglwyddo pwerau plismona.
  • Datganoli graddol neu rannol: gellid trosglwyddo swyddogaethau dethol, tra bod plismona cenedlaethol ac arbenigol yn parhau i fod ar lefel y DU. Byddai hyn yn gofyn am gytundeb gwleidyddol a deddfwriaeth bellach; nid yw’r Papur Gwyn yn ei gynnig ond mae'n cyd-fynd â'r dull a awgrymwyd gan waith Llywodraeth flaenorol Cymru yn 2024 ynghylch paratoi ar gyfer datganoli.
  • Datganoli deddfwriaethol a gweithredol llawn: byddai cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i'r Senedd a Llywodraeth Cymru, gyda chytundebau ynghylch cydwasanaethau a gweithrediadau trawsffiniol. Dyma yw amcan datganedig Llywodraeth Cymru, ond nid yw'r Papur Gwyn yn ei gynnig ar hyn o bryd.

Felly mae'r Papur Gwyn yn creu cyfle uniongyrchol i ddylunio system benodol i Gymru ar gyfer llywodraethiant yr heddlu, yn enwedig ar ôl diddymu’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn cynnwys cymorth i gydweithio'n agosach â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ynghyd â phryderon ynghylch risgiau gweithredol ac ariannol.

Gallai'r Papur Gwyn roi rôl gryfach i sefydliadau Cymru o ran llywodraethiant plismona, ond byddai cyfrifoldeb deddfwriaethol a gweithredol yn parhau yn San Steffan. Byddai datganoli rhannol neu lawn yn gofyn am ddeddfwriaeth ar wahân i'r DU a chytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

A fyddai datganoli yn gwella plismona?

Nid oedd tystion a roddodd dystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn dadlau y byddai datganoli yn awtomatig yn lleihau troseddu, yn cynyddu hyder y cyhoedd nac yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Pwysleisiodd eu tystiolaeth fod y canlyniadau hyn hefyd yn dibynnu ar atal, buddsoddi a gwaith partneriaeth effeithiol. Mae hyn yn atgyfnerthu'r gwahaniaeth rhwng newid pwy sy'n gyfrifol am blismona a gwella canlyniadau plismona.

Mae'r Papur Gwyn yn creu angen brys am lywodraethiant penodol i Gymru ar ôl diddymu’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Fodd bynnag, mae datganoli yn parhau i fod yn ddewis gwleidyddol a deddfwriaethol ar wahân. Gallai’r diwygiadau agor drws i fwy o reolaeth i Gymru, ond nid ydynt eu hunain yn darparu'r model plismona datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru