Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) wedi cyhoeddi data cyfiawnder sy'n benodol i Gymru am yr ail dro. Mae'r data'n cwmpasu pobl mewn carchar yng Nghymru a Lloegr a oedd yn byw, neu wedi'u cofnodi fel rhai a oedd yn byw yng Nghymru cyn cael eu cadw yn y ddalfa.
Nid yw carchardai a dedfrydu yn faterion sydd wedi’u datganoli. Maent yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, drwy’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Mae Cymru a Lloegr yn gweithredu fel un ystâd garchardai, ac o ganlyniad gellir cadw pobl o Gymru mewn carchardai yng Nghymru neu Loegr, yn dibynnu ar ffactorau fel categori diogelwch, math o ddedfryd, capasiti ac i ba raddau y mae lleoedd ar gael.
|
Mae'r data'n cwmpasu pedwar pwynt ciplun rhwng 30 Medi 2025 a 30 Mehefin 2026. Mae Clinks (sef elusen cyfiawnder troseddol), academyddion, a’r Senedd a phwyllgorau Seneddol y DU wedi galw ers tro am ddata cyfiawnder ar gyfer Cymru ar wahân, er mwyn gwella dealltwriaeth o sut mae'r system gyfiawnder yn effeithio ar bobl o Gymru.
Pa droseddau y mae pobl o Gymru’n fwyaf tebygol o fod yn y carchar amdanynt?
Mae data yn dangos, rhwng Medi 2025 a Mehefin 2026, arhosodd cyfanswm y carcharorion â chyfeiriad a oedd yn tarddu o Gymru yn gymharol sefydlog, gan ostwng ychydig o 4,901 ym mis Medi 2025 i 4,887 ym mis Mehefin 2026, ar ôl cyrraedd uchafbwynt yn 5,045 ym mis Mawrth 2026.
Ar 30 Mehefin 2026, y grŵp troseddau mwyaf ymhlith carcharorion â chyfeiriad a oedd yn tarddu o Gymru oedd trais yn erbyn y person, gyda 1,478 o garcharorion. Roedd hyn tua 30% o gyfanswm poblogaeth y carchardai a oedd yn tarddu o Gymru. Troseddau rhywiol oedd yr ail grŵp mwyaf, gyda 978 o garcharorion, a thua 20% o'r cyfanswm. Roedd troseddau cyffuriau hefyd yn gategori pwysig, gyda 768 o garcharorion, ac yna troseddau lladrad, gyda 498 o garcharorion.
Mae’r proffil troseddau yn fras yn debyg i’r boblogaeth carchardai sy’n tarddu o Loegr, ond gyda chyfran is wedi'i chofnodi ar gyfer trais, lladradau a meddu ar arfau, a chyfran uwch ar gyfer troseddau cyffuriau a dwyn. Mae hyn yn awgrymu y gallai fod angen i lunwyr polisi yng Nghymru roi sylw arbennig i gamddefnyddio sylweddau, i droseddu sy'n gysylltiedig â chyffuriau a throseddau meddiangar, ochr yn ochr â thrais a throseddau rhywiol.
A yw cyfradd garcharu uwch yn gyfystyr â bod Cymru yn fwy peryglus?
Gan ddefnyddio'r amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf i Gymru sydd â phoblogaeth o tua 3.18 miliwn o bobl, mae 4,887 o garcharorion â chyfeiriad sy’n tarddu yng Nghymru ym mis Mehefin 2026 yn cyfateb i tua 154 o garcharorion fesul 100,000 o bobl, neu tua 0.15% o boblogaeth Cymru. Amcangyfrif yn unig yw hwn, ond mae'n helpu i ddangos graddfa'r carcharu sy'n gysylltiedig â Chymru.
Mewn cymhariaeth, cyfanswm poblogaeth y carchardai yng Nghymru a Lloegr oedd 85,858 ar 30 Mehefin 2026. Heb gynnwys y 4,887 o garcharorion â chyfeiriad sy’n tarddu o Gymru, amcangyfrifir bod poblogaeth carchardai sy’n tarddu o Loegr yn 80,971, sy'n cyfateb i tua 138 o garcharorion fesul 100,000 o’r boblogaeth yn Lloegr.
Dywed adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin eleni ar garchardai, profiannaeth ac adsefydlu yng Nghymru bod y gyfradd garcharu yng Nghymru wedi “dangos yn gyson” ei bod yn uwch nag yn Lloegr. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad ar y cyd i'r rhesymau dros hyn.
Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod gan Gymru gyfradd garcharu amcangyfrifedig uwch na Lloegr, ond nid yw cyfraddau carcharu yr un peth â chyfraddau troseddu nac yn fesur uniongyrchol o risg i'r cyhoedd. Dylanwadir ar niferoedd mewn carchardai gan nifer y rhai sy’n aros eu prawf yn y ddalfa, gan ddedfrydu, gan alw’n ôl, gan angen cymdeithasol, a chan argaeledd a defnydd o ddewisiadau eraill mewn cymunedau. Ystadegau troseddu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n parhau i fod y brif ffynhonnell swyddogol ar gyfer gweld tueddiadau o ran troseddu.
Faint o leoedd carchar sydd yng Nghymru, a pha mor llawn ydyn nhw gyda charcharorion sy’n tarddu o Gymru?
Mae carcharorion sy’n tarddu o Gymru wedi'u crynhoi mewn nifer fach o garchardai, yn enwedig carchardai yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2026, roedd y niferoedd mwyaf yn cael eu dal yng Ngharchar EF/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, yng Ngharchar EF Berwyn, a Charchar EF Caerdydd. Carchar Ei Fawrhydi/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc oedd y lleoliad mwyaf o bell ffordd, gyda 1,536 o garcharorion o gyfeiriad sy’n tarddu o Gymru.
Mae llawer o garchardai yn Lloegr hefyd yn dal pobl â chyfeiriadau sy’n tarddu o Gymru. Gall pellter o gartref effeithio ar gyswllt teuluol, ar ymweliadau, ar y ddarpariaeth o ran y Gymraeg, ar gynllunio adsefydlu ac ar gysylltiadau â gwasanaethau tai, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Fel arfer, adroddir ar gapasiti carchardai gan ddefnyddio capasiti gweithredol — sef nifer y bobl y gall carchar eu dal, a chynnal diogelwch a rheolaeth ar yr un pryd. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi ffigurau poblogaeth a chapasiti carchardai yn fisol.
Mae ffynonellau cyhoeddedig yn rhoi enghreifftiau diweddar o gapasiti gweithredol mewn carchardai unigol. Adroddodd Bwrdd Monitro Annibynnol CEF Berwyn gapasiti gweithredu o tua 2,000, tra y nododd adroddiad Seneddol yn 2026 fod gan Garchar EF/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc gapasiti gweithredol o 1,849 ym mis Chwefror 2026.
Gan ddefnyddio y data a rannwyd ar gyfer Mehefin 2026 roedd carchardai Cymru yn dal o leiaf 1,622 o garcharorion â chyfeiriad sy’n tarddu o Loegr a thua 3,496 o garcharorion â chyfeiriad sy’n tarddu o Gymru. Carchar EF Berwyn yw'r prif eithriad: roedd yn dal 1,173 o garcharorion a oedd yn tarddu o Loegr o'i gymharu â 736 o garcharorion a oedd yn tarddu o Gymru.
|
Carchardai yng Nghymru |
Cyfeiriad sy’n tarddu o Loegr, 30 Mehefin 2026 |
Cyfeiriad sy’n tarddu o Gymru, 30 Mehefin 2026 |
|
Berwyn |
1,173 |
736 |
|
Caerdydd |
55 |
531 |
|
Parc |
240 |
1,536 |
|
Prescoed |
76 |
133 |
|
Abertawe |
19 |
346 |
|
Brynbuga |
59 |
214 |
(Ffynhonnell: Data Cyfiawnder Cymru: Cyhoeddiad Blynyddol 2026 - GOV.UK)
Noder: Cyfeirir at Garchar Parc a Charchar Prescoed fel sefydliadau Carchar Ei Fawrhydi / Sefydliadau Troseddwyr Ifanc gan rai ffynonellau. Mae'r ffigurau ar lefel sefydliad ac yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sefydliad troseddwyr ifanc pan fo'n berthnasol.
Dylid darllen y data ‘tarddu o Gymru’ ochr yn ochr â thystiolaeth ehangach am amodau mewn carchardai yng Nghymru hefyd. Amlygodd tystiolaeth ddiweddar i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin bryderon ynghylch marwolaethau, hunan-niweidio, ymosodiadau a’r graddau y mae cyffuriau ar gael, yn enwedig yng Ngharchar EF/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc. Mae’r dystiolaeth yn darparu cyd-destun pwysig o ran pam mae lleoliad, diogelwch, gofal iechyd, cymorth camddefnyddio sylweddau ac adsefydlu yn bwysig.
Pwy yn y boblogaeth carchardai sy’n tarddu o Gymru?
Mae mwyafrif llethol y boblogaeth carchardai sy’n tarddu o Gymru yn wrywod. Ym mis Mehefin 2026, roedd 4,887 o garcharorion â chyfeiriad sy’n tarddu o Gymru, ac o'r rhain roedd 222 o fenywod yn cael eu cadw mewn carchardai i fenywod. Nid oes carchar i fenywod yng Nghymru, felly caiff menywod sy’n tarddu o Gymru eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Carchar EF Eastwood Park oedd y prif leoliad i fenywod â chyfeiriad sy’n tarddu o Gymru.
Fesul oedran, mae'r boblogaeth bennaf wedi'i chanoli ar oedolion rhwng 30 a 49 mlwydd oed. Ym mis Mehefin 2026, roedd 1,682 o garcharorion rhwng 30 a 39 mlwydd oed a 1,123 o garcharorion rhwng 40 a 49 mlwydd oed. Roedd 940 o garcharorion yn 50 mlwydd oed neu'n hŷn.
Yn ôl ethnigrwydd, cofnodwyd y boblogaeth yn bennaf fel pobl wyn. Ym mis Mehefin 2026, cofnodwyd bod 4,350 allan o 4,887 o garcharorion â chyfeiriad a oedd yn tarddu o Gymru wedi'u cofnodi fel Gwyn, sef tua 89% o'r cyfanswm. Roedd grwpiau ethnig eraill yn llawer llai, a chofnodwyd ethnigrwydd ar gyfer y rhan fwyaf o garcharorion.
Yn ôl crefydd a chred, y categori unigol mwyaf oedd pobl nad oes ganddynt ffydd na chred, gyda 1,204 o’r carcharorion hyn ym mis Mehefin 2026. Roedd carcharorion Agnostig, Atheist a Dyneiddwyr hefyd yn grŵp mawr, tra mai carcharorion Mwslimaidd oedd y grŵp ffydd anghristnogol mwyaf.
Beth yw goblygiadau’r polisi?
Mae'r data yn tynnu sylw at sawl mater polisi ar gyfer Cymru. Yn gyntaf, mae angen i bolisi carchardai ac adsefydlu ddilyn trywydd pobl o Gymru ble bynnag y cânt eu carcharu. Mae hyn yn arbennig o bwysig i fenywod sy'n cael eu dal y tu allan i Gymru, ond mae hefyd yn berthnasol i ddynion sy'n cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr. Efallai y bydd angen i wasanaethau tai, gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gwasanaeth addysg a phrofiannaeth yng Nghymru gysylltu â charchardai ledled ystâd garchardai Cymru a Lloegr.
Yn ail, mae’r data o ran dedfryd a’r data ar alw’n ôl yn cyfeirio at gynllunio tymor hwy. Y grŵp dedfrydau mwyaf yw pobl sy'n cael dedfryd o bedair blynedd neu ragor ac mae galw'n ôl i'r ddalfa yn parhau’n arwyddocaol. Felly mae angen i ymatebion polisi ystyried adsefydlu, cyswllt teuluol, iechyd meddwl, addysg, cynllunio rhyddhau, a gofyn a yw tai, triniaeth a goruchwyliaeth gymunedol yn gweithio'n effeithiol ar ôl rhyddhau o garchar.
Yn drydydd, mae data demograffig yn tynnu sylw at yr angen am wasanaethau cynhwysol a gwasanaethau sy'n briodol i oedran. Mae angen cymorth gyda chyflogaeth, tai, perthnasoedd teuluol ac ailintegreiddio ar y boblogaeth carchardai o oedran gweithio yn bennaf. Hefyd ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio mewn carchardai mae angen cynllunio o ran iechyd, anabledd, symudedd a gofal cymdeithasol.
I lunwyr polisi yng Nghymru, yr her allweddol yw sicrhau bod pobl sy'n gysylltiedig â Chymru yn cael cefnogaeth briodol cyn mynd i'r ddalfa, yn ystod y cyfnod dan glo a phan fyddant yn dychwelyd i gymunedau yng Nghymru. Nid yw'r data newydd yn egluro pam mae pobl o Gymru yn y carchar, ond mae'n rhoi darlun cliriach i lunwyr polisi o bwy sydd yn y carchar, ble maen nhw'n cael eu cadw a pha droseddau maen nhw'n cael eu carcharu amdanynt. Gall hyn helpu i lywio gwaith cynllunio ar draws cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau nad ydynt wedi’u datganoli. Mae newidiadau diweddar i ddyddiadau rhyddhau awtomatig yng Nghymru a Lloegr wedi arwain at fod cefnogaeth gymunedol, gwasanaethau prawf a chynllunio adsefydlu hyd yn oed yn fwy pwysig.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru