cyfrifiadur yn dangos map

cyfrifiadur yn dangos map

Proffiliau rhyngweithiol o’r etholaethau a’r rhanbarthau

Cyhoeddwyd 28/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar y dudalen hon mae mapiau rhyngweithiol o etholaethau’r Senedd sy'n dangos data ar gyfer nifer o themâu: demograffeg, economi, addysg, iechyd, a thai.

Cliciwch y penawdau i’w hehangu. O dan bob pennawd mae map yn dangos data’r set ddata gyntaf yn ôl thema. Er enghraifft, mae'r map ar gyfer demograffeg yn dangos cyfanswm y boblogaeth. Wrth hofran dros bob etholaeth Senedd, fe welwch nifer y bobl ar y rhestr etholiadol, canran y bobl 0-15 oed, 16-64 oed a 65+ oed, a chanran y boblogaeth 3+ oed sy'n medru Cymraeg.

Mae tabl o dan bob map yn dangos yr un data ar gyfer rhanbarthau'r Senedd a Chymru gyfan.

Gellir llwytho'r set ddata gyfan o wefan Llywodraeth Cymru: Data ar gyfer ardaloedd etholaethol Senedd Cymru: 2021.

Demograffeg

Poblogaeth fesul etholaeth y Senedd

 

Proffiliau’r rhanbarthau

Rhanbarth Cyfanswm y boblogaeth Rhestr etholiadol 0-15 oed 16-64 oed 65+ oed Siaradwyr Cymraeg
Gogledd Cymru 637828 483739 18% 59% 23% 27%
Canolbarth a Gorllewin Cymru 581450 446524 17% 58% 26% 36%
Gorllewin De Cymru 553400 413569 17% 62% 20% 12%
Canol De Cymru 725711 523096 18% 64% 17% 11%
Dwyrain De Cymru 654490 491142 19% 61% 20% 10%
Cymru 3152879 2358070 18% 61% 21% 19%

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Amcangyfrifon canol blwyddyn 2019 yw’r poblogaethau, yn cynnwys y dadansoddiadau ar sail oedran. Mae'r gofrestr etholiadol fel yr oedd ar 2 Mawrth 2020. Mae siaradwyr Cymraeg yn cyfeirio at ganran y boblogaeth 3+ oed sy'n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011.

Yr economi

Cyfradd cyflogaeth fesul etholaeth y Senedd

 

Proffiliau’r rhanbarthau

Rhanbarth Cyfradd cyflogaeth Enillion wythnosol gros canolrif Canran y rhai sy'n hawlio budd-dal diweithdra
Gogledd Cymru 75.1% £559.39 5.8%
Canolbarth a Gorllewin Cymru 73.4% £515.44 4.9%
Gorllewin De Cymru 70.5% £527.80 5.4%
Canol De Cymru 73.3% £536.99 6.0%
Dwyrain De Cymru 73.1% £548.48 6.0%
Cymru 73.2% £537.81 5.7%

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Mae cyfraddau cyflogaeth yn cyfeirio at gyfnod o dair blynedd, o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018 i'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020. Mae hyn yn caniatáu i amcangyfrifon gael eu llunio o sampl fwy, sy’n gwneud y data'n fwy cadarn.

Mae amcangyfrifon o enillion wythnosol gros canolrifol yn defnyddio data o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ac yn cynnwys swyddi cyflogeion yn 2020. Nid yw'n cynnwys pobl hunangyflogedig na chyflogeion nas talwyd yn ystod y cyfnod cyfeirio. Mae amcangyfrifon o enillion wythnosol yn ymwneud â chyflogeion ar gyfraddau cyflog oedolion nad oedd absenoldeb yn effeithio ar eu henillion am gyfnod tâl yr arolwg. Maent yn seiliedig ar weithle yn hytrach nag ar breswylfa. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer 2020 yn cynnwys cyflogeion sydd wedi bod ar ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CCSC).

Data dros dro yw data canran y rhai sy'n hawlio budd-dal diweithdra. Mae'n cynnwys y rhai sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol sy'n ddi-waith yn ogystal â’r rhai sy’n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio.

Addysg

Canran yr oedolion o oedran gweithio (18 i 64) heb gymwysterau fesul etholaeth y Senedd

 

Proffiliau’r rhanbarthau

Rhanbarth Dim cymwysterau Cymwysterau NQF lefel 4+ Disgyblion ysgol gynradd sydd â hawl i brydau ysgol am ddim Disgyblion ysgol uwchradd sydd â hawl i brydau ysgol am ddim Disgyblion ysgol gynradd ag AAA Disgyblion ysgol uwchradd ag AAA
Gogledd Cymru 7.5% 36.4% 19.8% 16.8% 18.4% 19.7%
Canolbarth a Gorllewin Cymru 7.4% 38.9% 16.2% 14.3% 22.9% 25.5%
Gorllewin De Cymru 9.5% 36.0% 23.5% 19.3% 20.5% 21.9%
Canol De Cymru 8.0% 44.3% 22.4% 19.8% 16.8% 19.0%
Dwyrain De Cymru 9.3% 34.4% 21.6% 19.5% 17.8% 21.6%
Cymru 8.3% 38.3% 20.8% 18.1% 19.0% 21.3%

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Cyfartaledd dwy flynedd ar gyfer 2018 a 2019 yw’r data cymwysterau. Oherwydd nifer isel yr ymatebion i'r arolwg, mae'r ffigurau ar gyfer y rhai heb gymwysterau yn Sir Drefaldwyn, Gŵyr, Canol Caerdydd a Gogledd Caerdydd o ansawdd isel.

NQF yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, a lefel 4 yw lefel addysg uwch neu gymwysterau cyfatebol.

AAA yw Anghenion Addysgol Arbennig. Mae data ar gyfer AAA a phrydau ysgol am ddim yn cyfeirio at 2020 ac mae'n seiliedig ar y disgyblion sy'n mynd i ysgolion yn yr ardal, yn hytrach na'r disgyblion sy'n byw yn yr ardal. Bydd rhai gwahaniaethau rhwng y ddau, yn enwedig yn yr etholaethau llai.

Iechyd

Canran yr oedolion â salwch hirsefydlog fesul etholaeth y Senedd

 

Proffiliau’r rhanbarthau

Rhanbarth Oedolion â salwch hirsefydlog Disgwyliad oes dynion adeg eu geni Disgwyliad oes merched adeg eu geni
Gogledd Cymru 45% 78.98 o flynyddoedd 82.20 o flynyddoedd
Canolbarth a Gorllewin Cymru 48% 79.17 o flynyddoedd 83.15 o flynyddoedd
Gorllewin De Cymru 50% 77.55 o flynyddoedd 81.76 o flynyddoedd
Canol De Cymru 42% 78.36 o flynyddoedd 82.40 o flynyddoedd
Dwyrain De Cymru 46% 78.21 o flynyddoedd 81.94 o flynyddoedd
Cymru 46% 78.52 o flynyddoedd 82.32 o flynyddoedd

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Mae'r ffigurau ar gyfer salwch hirsefydlog yn seiliedig ar ddwy flynedd o ddata gyda’i gilydd (2017-18 a 2018-19). Er hynny, mae maint y samplau ar gyfer rhai ardaloedd eto’n gymharol fach a dylid trin y canlyniadau â gofal. Gan mwyaf, mae'r canlyniadau'n debygol o fod o fewn +/- 4 o bwyntiau canran i'r ffigurau a ddangosir. Nid yw'r canlyniadau wedi'u safoni i ystyried y gwahanol broffiliau oedran ym mhob ardal. Mae'n debygol bod rhai o'r gwahaniaethau rhwng ardaloedd i’w priodoli i wahanol broffiliau oedran. Mae data'n cynnwys etholaethau San Steffan yn hytrach na rhai’r Senedd, er eu bod yn union yr un fath, ac eithrio Pontypridd ac Ogwr lle mae tair Ardal Gynnyrch wedi’u dyrannu'n wahanol.

Tai

Prisiau eiddo canolrifol fesul etholaeth y Senedd

 

Proffiliau’r rhanbarthau

Rhanbarth Pob eiddo Tai sengl Tai pâr Tai teras Fflatiau / fflatiau deulawr
Gogledd Cymru £160000 £222748 £148500 £120000 £113500
Canolbarth a Gorllewin Cymru £165000 £230000 £139000 £120000 £101000
Gorllewin De Cymru £145000 £235000 £142748 £109000 £112750
Canol De Cymru £182000 £320995 £200000 £148000 £139995
Dwyrain De Cymru £155000 £277500 £164250 £119950 £98000
Cymru £162500 £249950 £155000 £121500 £125500

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Mae Data Pris a Dalwyd y Gofrestrfa Tir yn cynnwys dim heblaw’r cofnodion ar gyfer eiddo preswyl sengl a werthwyd am werth llawn y farchnad. Er mwyn osgoi gogwyddo data prisiau tai yn systematig, nid yw'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys cofnodion o werthiannau nad oeddent am werth llawn y farchnad. Nid yw'r rhain yn y data gan y Gofrestrfa Tir; byddai eu cynnwys yn lleihau ystyrlondeb ffigur prisiau tŷ cyfartalog. Rhestrir yr hepgoriadau eraill o'r data prisiau tai hyn ar Wefan Llywodraeth y DU.