addurnol

addurnol

Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23

Cyhoeddwyd 22/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae'n amlinellu faint o arian sydd wedi'i ddyrannu i'r Llywodraeth a'i hadrannau a'i hasiantaethau cysylltiedig fel byrddau iechyd neu awdurdodau lleol. Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 ar 20 Rhagfyr 2021.

Gwybodaeth am y diagram hwn

Gallwch ddefnyddio'r diagram hwn i archwilio cyllideb ddrafft 2022-23. Mae'n caniatáu i chi weld dyraniadau o'r gyllideb ddrafft ar wahanol lefelau, o'r portffolio i'r llinell wariant yn y gyllideb (sef y lefel fwyaf manwl).

Y gwerthoedd a ddangosir yn y diagram a'r tabl yw'r refeniw yn ogystal â dyraniadau cyfalaf. Mae maint pob nod yn cyfateb i'r gyfran o'r gyllideb. Mae gwahanol liwiau'n cynrychioli gwahanol bortffolios.

O dan 'gweld opsiynau', gallwch ddewis dangos y newid canran o'r flwyddyn ariannol flaenorol naill ai mewn termau arian parod neu mewn termau real. Yn yr opsiwn hwn, mae meintiau'r cylchoedd yn amrywio yn ôl y newid mewn termau arian parod neu mewn termau real. Caiff y nodau eu lliwio'n goch i ddynodi gostyngiad ac yn las i ddangos cynnydd, gyda lliw tywyllach yn dynodi newid canrannol mwy.

Mae rheolyddion ar gyfer gosod y tabl a'i ddangos ar sgrin lawn ar gael yn y tab 'gweld opsiynau'.

Lawrlwytho’r data