Ddraig Senedd Cymru

Ddraig Senedd Cymru

Y wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru

Cyhoeddwyd 28/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2024   |   Amser darllen munudau

Gall fod yn anodd dilyn yr hyn sy'n digwydd a'r datblygiadau polisi diweddaraf yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion.

Yn y canllaw hwn, ein nod yw dod â gwahanol ddatblygiadau Llywodraeth Cymru a’r Senedd ynghyd mewn un man defnyddiol.

Rhaglen ail-gydbwyso gofal a chymorth Llywodraeth Cymru

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ddiweddar (Mai – Awst 2023) ar nifer o gynigion yn ymwneud â’i Rhaglen ail-gydbwyso gofal a chymorth, ac mae rhai ohonynt yn ymwneud â newidiadau i Godau Ymarfer a Rheoliadau sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd y cynigion yn cynnwys:

  • Creu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth, gosod safonau newydd ar gyfer comisiynu gwasanaethau (mewn Cod Ymarfer newydd)
  • Creu Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth. Cynigir y bydd gan y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth dair swyddogaeth graidd: goruchwylio a chydymffurfio â'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth; datblygu a gweithredu'r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol; a chefnogi gwaith y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol.
  • Cryfhau trefniadau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol” drwy ddiwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 a diwygio Canllawiau Statudol ar drefniadau partneriaeth i gefnogi integreiddio gwasanaethau ymhellach.

Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd sesiynau tystiolaeth gydag academyddion ym mis Mai 2023 ar ôl i werthusiad annibynnol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gael ei gyhoeddi.

Gweler ein herthyglau am wybodaeth gefndirol ynghylch y gwerthusiad o’r Ddeddf.

Yn dilyn y sesiynau ysgrifennodd y Pwyllgorau lythyr ar y cyd at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol (Gorffennaf 2023) yn mynegi eu barn bod ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru yn gyfle gwych i fynd i’r afael â materion a godwyd yn y sesiynau gwerthuso a thystiolaeth. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod y pwyntiau’n cael eu hystyried ac y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ymateb mwy cyflawn ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.

Datblygiadau o ran y gweithlu gofal cymdeithasol

Mae ein herthygl Gofal Cymdeithasol: gweithlu mewn argyfwng? yn nodi’r heriau enfawr sy’n wynebu gofal cymdeithasol oedolion.

Dechreuwyd gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Ebrill 2022. Ym mis Ionawr 2023, nododd y Dirprwy Weinidog nad yw cyflogau yn ddigon o hyd i gystadlu mewn gwirionedd, a bod angen i gyflogau, telerau ac amodau wella ymhellach.

Sefydlwyd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym mis Medi 2020. Cyhoeddodd diweddariad ynghylch cynnydd yn 2023 gan amlinellu cynlluniau fel model gwirfoddol o gydfargeinio, gyda’r nod o wella cydraddoldeb o ran telerau ac amodau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ionawr 2023 y byddai'r Fforwm yn ceisio rhoi hyn ar waith erbyn mis Ebrill (ond nid oes unrhyw beth pellach wedi'i gyhoeddi yn y parth cyhoeddus hyd yn hyn).

Roedd yr ymgynghoriad diweddar ynghylch Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth (Mai – Awst 2023) yn cynnwys cynigion a ddatblygwyd gan y Fforwm ar gyfer egwyddorion Fframwaith Cydnabyddiaeth a Dilyniant ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol. Yn ôl yr ymgynghoriad, “bydd y Fframwaith yn ganllaw gwirfoddol”, wedi’i gyfyngu i ddechrau i weithwyr sy’n darparu gofal uniongyrchol.

Wrth rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd dywedodd y Fforwm ei fod yn gweld tâl salwch yn flaenoriaeth frys i staff sy’n gweithio yn y sector annibynnol ac y bydd “yn parhau i edrych ar welliannau y gellir eu gwneud i ddarpariaeth tâl salwch”.

Ym mis Chwefror, dywedodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nad oedd wedi'i ddarbwyllo eto bod gwaith y Fforwm yn cael ei ddatblygu ar y cyflymder angenrheidiol; na bod mesurau gwirfoddol ar gyfer cydfargeinio a strwythurau cyflog yn ddigonol i fynd i'r afael â diffygion o ran y gweithlu.

Daeth ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Rhyddhau cleifion o ysbytai i'r casgliad mai’r diffyg capasiti gofal cymdeithasol oedd yn cyfrannu fwyaf at oedi o ran rhyddhau cleifion a chyfyngu ar lif cleifion drwy ysbytai (Mehefin 2022). Darllenwch ein herthygl i gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau’r ymchwiliad.

Ym mis Tachwedd 2022 cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sesiwn hefyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i drafod y materion allweddol sy’n wynebu’r sector gofal. Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog ym mis Rhagfyr 2022 i dynnu sylw at bryderon ac i bwyso am gamau pellach.

Lluniodd Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru strategaeth 10 mlynedd a chynllun cyflawni ar y gyfer ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â chynlluniau penodol ar iechyd meddwl, gwaith cymdeithasol a 'gofal uniongyrchol'.

Cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru ei arolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol ym mis Hydref 2023. Mae canlyniadau’r arolwg yn cynnwys:

  • Mae ychydig dros chwarter (26 y cant) yn teimlo ei bod yn ‘eithaf tebygol’ neu’n ‘debygol iawn’ y byddant yn gadael y sector gofal cymdeithasol yn y 12 mis nesaf, ac mae 44 y cant yn teimlo o leiaf yn ‘eithaf tebygol’ o adael yn y pum mlynedd nesaf.
  • Y rhesymau mwyaf cyffredin a roddir dros ddisgwyl gadael yn ystod y 12 mis nesaf yw cyflog (66 y cant), teimlo wedi gorweithio (54 y cant) ac amodau cyflogaeth neu waith gwael (40 y cant).

Yn dilyn cyhoeddi’r arolwg, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rwy’n llwyr ymroddedig i wella tâl, telerau ac amodau a mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw staff yn y sector – a hynny yn uniongyrchol, a thrwy ein nawdd i Ofal Cymdeithasol Cymru.

Gofalwyr di-dâl

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl: cynllun cyflawni 2021; adroddiad blynyddol ar y cynllun cyflawni ar gyfer 2022; a siarter ar gyfer gofalwyr di-dâl i egluro eu hawliau cyfreithiol (Medi 2022).

Rhoddodd cynrychiolwyr gofalwyr dystiolaeth i ymchwiliadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ryddhau cleifion o ysbytai ac amseroedd aros y GIG. Mae adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 hefyd yn cynnwys adran ar ofalwyr di-dâl.

Un o argymhellion y Pwyllgor yn yr ymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai oedd i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad cyflym i weld a yw hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu torri. Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai adolygiad o ansawdd ac effeithiolrwydd asesiadau o anghenion gofalwyr yn cael ei gomisiynu gan y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol honno (2022-23). Dywedodd y byddai hyn yn cynnwys adolygiad o sut mae hawliau gofalwyr di-dâl yn cael eu bodloni.

Yn fwy diweddar, mewn dadl ar ofalwyr yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2023,, dywedodd y Prif Weinidog fod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru wedi’i chomisiynu i gynnal adolygiad cyflym o hawliau gofalwyr ar lefel awdurdod lleol.

Cyhoeddodd ADSS ei adolygiad cyflym ym mis Tachwedd 2023. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn cynnwys:

I’r rhan fwyaf o ofalwyr, mae costau byw cynyddol bellach wedi taflu cysgod dros eu pryderon am COVID-19. Gall yr effaith ariannol ar ofalwr di-dâl fod yn sylweddol, ac mae llawer yn ei chael hi'n anodd.

Mae yna restrau aros ar gyfer asesiadau gofalwyr yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n atal gofalwyr rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid yw asesiadau yn cael eu cynnig i lawer o ofalwyr.

Mae diffyg ymwybyddiaeth sylweddol o hawliau gofalwyr o dan y Ddeddf. Cyn y gellir cynnal unrhyw hawliau, rhaid nodi gofalwyr di-dâl a rhaid iddynt ymgysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol. Am nifer o resymau gwahanol, mae rhai yn amharod i wneud hynny.

Er bod llawer o ofalwyr yn cael cymorth, mae'r adborth gan y sampl fawr o ofalwyr a gymerodd ran yn yr adolygiad hwn yn dangos bod diffyg o ran diwallu anghenion gofalwyr. Gallai rhywfaint o hyn ddeillio o'r diffyg ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr a'r cymorth sydd ar gael a sut i'w gael, ond mae hefyd yn adlewyrchu diffyg darpariaeth o ran cymorth neu ddarpariaeth addas lle mae gofalwyr yn byw. Gofal seibiant yw'r angen mwyaf arwyddocaol nad yw'n cael ei ddiwallu.

Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol

Sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp arbenigol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ym mis Chwefror 2022 i roi cyngor ar y camau ymarferol tuag at ddarparu gwasanaeth gofal cenedlaethol am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Gwnaeth y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru bwysleisio'r addewid hwn, ac ychwanegu ymrwymiad i gytuno ar gynllun gweithredu erbyn diwedd 2023. Dywedodd y Dirprwy Weinidog ym mis Gorffennaf 2023 y bydd “cynllun gweithredu cychwynnol” yn cael ei gyhoeddi “yn nes ymlaen eleni”.

Cyhoeddwyd Adroddiad Grŵp Arbenigol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ar 10 Tachwedd 2022. Mae ei adroddiad yn nodi y bydd angen meddwl yn hirdymor a buddsoddi’n hirdymor mewn y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, ac y byddai hynny’n debygol o fod dros gyfnod o 10 mlynedd o leiaf.

Disgrifiodd y Dirprwy Weinidog y cam o sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth a fframwaith comisiynu cenedlaethol fel “ymhlith blociau adeiladu pwysig cyntaf gwasanaeth gofal cenedlaethol” (ym mis Mehefin 2023). Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai’r nod yw i’r swyddfa genedlaethol fod yn weithredol erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf (2024), ac y bydd y fframwaith yn dilyn ymlaen o hynny.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gellid ariannu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, ond oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol, “ni allwn roi unrhyw ymrwymiad ynghylch pryd y byddwn ni'n gallu gwneud hynny mewn gwirionedd.” Dywedodd mai’r ffocws yw gosod y blociau adeiladu yn eu lle “fel y byddwn ni mewn sefyllfa, pan fydd y sefyllfa ariannol yn gwella yn y tymor hwy, i symud ymlaen pan fyddwn ni'n gallu.”

Newidiadau posibl i ddeddfwriaeth sylfaenol

Ym mis Tachwedd 2022 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar nifer o newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys newidiadau arfaethedig i gyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG.

Ym mis Mehefin 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'i hymateb i bob cynnig.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru