Y Senedd i drafod cynigion ar gyfer Senedd â 96 o Aelodau

Cyhoeddwyd 06/06/2022   |   Amser darllen munudau

Ers 2004, mae cyfres o adroddiadau wedi argymell y dylai maint y Senedd gynyddu o’i 60 Aelod presennol. Mae ein herthygl, ynghylch diwygio’r Senedd – y stori hyd yma yn sôn am ychydig o'r hanes hwn.

Sefydlwyd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 i lunio cynigion i’w cynnwys ym Mil Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd. Bydd y Senedd yn trafod canfyddiadau'r Pwyllgor ar 8 Mehefin.

Mae llawer o gynigion y Pwyllgor yn wahanol i'r rhai mewn adroddiadau blaenorol. Mae mwyafrif ar y Pwyllgor, ond nid pob Aelod, yn derbyn rhai o’r prif argymhellion.

Ar 10 Mai, cyhoeddodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, ac Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, gyd-ddatganiad ar ddiwygio’r Senedd. Mae'r cynigion a dderbyniodd mwyafrif y Pwyllgor Diben Arbennig yn gyson â'r rhai a gyhoeddwyd yn y datganiad. Dywed y Pwyllgor fod y datganiad wedi llywio’r trafodaethau, ond bod penderfyniadau ar gynigion yn eiddo i’r Pwyllgor.

Rhoddodd cynrychiolydd y Ceidwadwyr Cymreig y gorau i’w sedd ar y Pwyllgor cyn y cytunwyd ar adroddiad y Pwyllgor o ganlyniad i'r datganiad.

Mae’r Pwyllgor yn galw i gynigion diwygio gael eu gweithredu mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026. Bydd angen i uwchfwyafrif (40 o’r 60 Aelod o’r Senedd) bleidleisio dros unrhyw Fil a gyflwynir ar ddiwygio’r Senedd i’w basio. Os bydd hyn yn digwydd, gallai hon fod y Senedd olaf â 60 Aelod.

Mae canllaw i dermau technegol yn yr adroddiad i’w weld yn ein gyrfa.

Maint y Senedd

Mae adroddiad y Pwyllgor yn argymell y dylai maint y Senedd gynyddu i 96 Aelod. Mae hyn yn fwy na'r nifer a argymhellodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Panel Arbenigol, y cytunodd y ddau y dylid cynyddu’r Senedd i 80-90 Aelod, gyda’r olaf yn dadlau y dylai fod yn nes at 90.

Hefyd, trafododd y Panel Arbenigol rinweddau cynyddu’r maint y tu hwnt i 90, ond daeth i’r casgliad nad oedd wedi’i “[d]darbwyllo y byddai'r manteision i well proses graffu a ddeuai yn sgil Cynulliad o fwy na 90 Aelod o reidrwydd yn drech na'r cynnydd yn y costau.”

Mae adroddiad y Pwyllgor yn dadlau bod cynnydd y tu hwnt i 90 yn hanfodol i ddiogelu’r Senedd at y dyfodol. Mae’n dweud bod newidiadau mawr yn y dirwedd wleidyddol ers i’r Panel Arbenigol gyflwyno adroddiad yn 2017 - megis Brexit a Covid-19 - yn golygu bod angen mwy o Aelodau erbyn hyn.

Mae’r nifer arfaethedig, sef 96 Aelod, yn cyd-fynd ag argymhellion eraill a wnaeth y Pwyllgor ynghylch y system etholiadol arfaethedig, newidiadau i ffiniau a chyfansoddiad etholaethau’r Senedd.

Dywed y Pwyllgor y dylid nodi maint y Senedd mewn deddfwriaeth sylfaenol. Byddai’r dull gweithredu hwn yn gyson â’r hyn a fabwysiadwyd yn Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Y system etholiadol

Mae'r Adroddiad yn argymell defnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig i ethol y 96 Aelod. Mae'n argymell defnyddio dull D'Hondt i ddosrannu seddau rhwng pleidiau.

Rhestr gaeedig

Mae mwyafrif ar y Pwyllgor yn argymell y dylid defnyddio system ar sail rhestr gaeedig i ethol yr Aelodau i’r Senedd. Dan y system hon, mae pobl yn pleidleisio dros blaid wleidyddol, yn hytrach nag ymgeiswyr unigol. Etholir ymgeiswyr ar sail eu safle ar restr. Pleidiau gwleidyddol sy’n pennu trefn y rhestr.

Mae mwyafrif o aelodau ar y Pwyllgor yn dadlau y byddai'r system hon yn creu pleidiau gwleidyddol cryf a chydlynol ac yn cyd-fynd â chynigion y Pwyllgor ar gyfer cwotâu rhywedd. Maent hefyd yn dweud y bydd yn gyfarwydd i bleidleiswyr gan mai dyma'r system a ddefnyddir ar hyn o bryd i ethol Aelodau rhanbarthol yn etholiadau'r Senedd.

Cododd lleiafrif ar y Pwyllgor bryderon ynghylch mabwysiadu system ar sail rhestr gaeedig, gan ddadlau y byddai’n lleihau’r dewis i bleidleiswyr ac yn “canoli grym” yn nwylo pleidiau gwleidyddol.

Nododd y Panel Arbenigol ddeg egwyddor ar gyfer gwerthuso systemau etholiadol gwahanol, gan gynnwys cyfranoldeb, dewis i bleidleiswyr ac atebolrwydd Aelodau. Gwrthododd system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig am nad oedd yn “hyderus y [byddai’n] cyflawni yn ddigonol ar sail [ei] egwyddorion”.

Argymhellodd y mwyafrif ar y Pwyllgor ddull D'Hondt o drosi pleidleisiau’n seddau. Roedd lleiafrif o'r Pwyllgor yn cefnogi fformiwla Sainte-Laguë, y nododd y Panel Arbenigol y “derbynnir yn gyffredinol [ei bod] yn arwain at ganlyniadau mwy cyfrannol na fformiwla D’Hondt.”

Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy

Argymhellodd y Panel Arbenigol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) fel y dewis a ffefrir ganddo. Dadleuodd fod STV yn “cyflawni ar sail ein hegwyddorion cyfranoldeb, statws cyfwerth i Aelodau a rhoi dewis i bleidleiswyr”. Hefyd, argymhellodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd y dylai’r Aelodau gael eu hethol drwy STV.

Dadleuodd lleiafrif ar y Pwyllgor o blaid STV. Fodd bynnag, dadleuodd mwyafrif y byddai system raddio ar ffurf STV yn anghyfarwydd i bleidleiswyr yng Nghymru. Hefyd, cododd bryderon am y ffordd y mae pleidleisiau’n cael eu trosglwyddo i seddau mewn system STV, gan ddadlau y gallai fod yn anodd esbonio hyn i bleidleiswyr.

Ffiniau ac etholaethau

Byddai mwy o Aelodau a system etholiadol newydd yn golygu bod angen etholaethau Senedd newydd. Mae’r Pwyllgor yn gwneud cynigion ar gyfer etholiad 2026 ac ar gyfer y tymor hwy.

Etholiad 2026

Ar gyfer etholiad 2026, cynigiodd mwyafrif o’r Pwyllgor 16 o etholaethau ar gyfer etholiadau’r Senedd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod.

Mae'n dweud y dylai’r 16 o etholaethau gael eu creu drwy baru’r 32 etholaeth newydd ar gyfer Senedd y DU a fydd ar waith erbyn 2023. Nid oedd un Aelod yn cytuno ac roedd yn credu y dylai’r ffiniau fod yn seiliedig ar ffiniau awdurdodau lleol.

Dywedodd mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor y dylid cynnal adolygiad ffiniau symlach i baru etholaethau ar gyfer etholiad 2026.

2031 a thu hwnt

Er bod mwyafrif aelodau’r Pwyllgor yn credu y dylid defnyddio etholaethau Senedd y DU fel sail ar gyfer etholiad 2026, nid ydynt yn credu y dylai’r ddau fod yn gysylltiedig yn y tymor hwy. Maent yn cynnig y dylai Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (sydd eisoes â phwerau i adolygu ffiniau etholiadau awdurdodau lleol Cymru) hefyd fod yn gyfrifol am adolygu ffiniau etholiadau’r Senedd. Maent yn dweud y dylai gael ei ailenwi ac y dylai ei drefniadau llywodraethu a'i adnoddau gael eu newid yn unol â'r cyfrifoldebau newydd hyn.

Maent yn dweud y dylid cynnal adolygiad ffiniau llawn cyn etholiad y Senedd yn 2031 ac y dylai Bil Diwygio’r Senedd nodi’r hyn y dylid ei ystyried mewn adolygiadau yn y dyfodol, yn ogystal ag amserlenni ar eu cyfer.

Dylai rhai pethau aros yr un peth

Er bod y Pwyllgor yn dweud y dylid adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd o bryd i’w gilydd, mae mwyafrif yn cytuno na ddylid newid nifer yr etholaethau (16) na nifer yr Aelodau (chwech) a etholir ym mhob un. Maent yn galw i Fil Diwygio’r Senedd osod hyn ar ei wyneb.

Mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig bod pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan yr un nifer o Aelodau a'i bod yn cynnwys nifer weddol gyfartal o etholwyr. Dywed y Pwyllgor fod chwe Aelod yn taro cydbwysedd rhwng galluogi mwy o amrywiaeth yn y pleidiau a etholir ac osgoi'r risg o 'hyper-gyfranoldeb' pan fo pleidiau sydd â lefelau isel iawn o gefnogaeth gyhoeddus yn ennill seddau.

Annog Senedd fwy amrywiol

Mae’r Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion i annog ethol Senedd fwy amrywiol, gan gynnwys cwotâu rhywedd, casglu data amrywiaeth ymgeiswyr a rhannu swyddi.

Cwotâu rhywedd

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai’r Senedd gael ei hethol gyda chwotâu rhywedd statudol integredig. Roedd y Panel Arbenigol hefyd o’r farn hon: Dywed adroddiad y Pwyllgor y “nodwyd amrywiaeth o gyngor” ynghylch a yw cyflwyno cwotâu rhywedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae'n cydnabod nad yw'n bosibl dod i farn am gymhwysedd heb ystyried cynnig deddfwriaethol manwl.

Dywed y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, wrth ddrafftio Bil Diwygio’r Senedd, nad yw mewn perygl gormodol o’i atgyfeirio i’r Goruchaf Lys oherwydd cwestiynau ynghylch a yw rhai o’i ddarpariaethau o fewn pwerau’r Senedd. Mae’n cydnabod y byddai atgyfeiriad “bron yn sicr yn golygu” na allai diwygiadau’r Senedd fod ar waith ar gyfer etholiad 2026.

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod cyfyngiadau amser yn golygu mai prin oedd y cyfle a gafodd i drafod goblygiadau cwotâu deddfwriaethol ar gyfer nodweddion gwarchodedig heblaw am rywedd, a bod angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwn.

Data amrywiaeth ymgeiswyr etholiad

Dywedodd y Panel Arbenigol y gallai cyhoeddi gwybodaeth amrywiaeth ymgeiswyr etholiadau’r Senedd helpu i lywio mesurau i annog ethol Senedd fwy amrywiol. Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad i gasglu na chyhoeddi'r wybodaeth hon, er y gall pleidiau gwleidyddol wneud hynny'n wirfoddol.

Er bod y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi’r wybodaeth hon eisoes ar y llyfr statud (o dan adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), nid yw’r ddarpariaeth hon erioed wedi’i chychwyn.

Ar y sail ei bod yn annhebygol y bydd Llywodraeth y DU yn cychwyn adran 106 yn y dyfodol agos, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Bil Diwygio’r Senedd gynnwys darpariaeth gyfatebol sy’n gosod dyletswyddau ar awdurdod Cymreig datganoledig, megis Swyddogion Canlyniadau, i gasglu a chyhoeddi amrywiaeth gwybodaeth ymgeiswyr etholiadau’r Senedd.

Rhannu swyddi i’r Aelodau

Roedd y Panel Arbenigol a’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn cefnogi’r egwyddor i’r Aelodau rannu swyddi er mwyn dileu rhwystrau a allai atal rhai rhag sefyll etholiad ac annog ethol Senedd fwy amrywiol.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu y gallai rhannu swyddi “alluogi mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr i sefyll etholiad”, ond dywed nad oedd ganddo amser i drafod yn llawn yr ystod o faterion ymarferol y mae angen eu datrys cyn y gellid rhoi system rhannu swyddi effeithiol ar waith.

Felly, mae'n argymell y dylid cael rhagor o drafodaeth am rannu swyddi ar sail drawsbleidiol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil Diwygio’r Senedd i weithredu argymhellion y Pwyllgor erbyn mis Gorffennaf-Medi 2023. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dweud bod angen rhagor o waith mewn rhai meysydd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno Bil Diwygio’r Senedd.

Bydd canfyddiadau'r Pwyllgor yn cael eu trafod yn y Senedd ar 8 Mehefin. Gallwch wylio’r sesiwn yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Rhun Davies, Philip Lewis a Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru