Y Gyfres Cynllunio: 16 - Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Cyhoeddwyd 17/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r hysbysiad hwylus hwn yn rhoi trosolwg o'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Cyflwynwyd yr Asesiad i roi amddiffyniad llym i safleoedd a ddynodwyd yn safleoedd Natura 2000 yr UE ac, yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, mae’n parhau i fod yn berthnasol i safleoedd o’r fath sydd bellach yn dod o dan ddynodiad gwarchodedig y DU.

Nod yr asesiad yw cynnal cyfanrwydd y rhywogaethau a'r cynefinoedd y dynodwyd y safleoedd hyn ar eu cyfer. Mae'r canllaw hwn yn amlinellu beth yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, pryd mae ei angen, beth sy’n digwydd yn ystod camau’r Asesiad a sut y gellir herio penderfyniad.

Erthygl gan Rhiannon Hardiman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru