Y Gyfres Cynllunio: 10 – Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol

Cyhoeddwyd 11/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r canllaw cyflym hwn yn rhoi trosolwg o'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Mae’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn weithdrefn sy'n sicrhau bod goblygiadau amgylcheddol datblygiadau yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniadau cynllunio. Mae'n nodi beth yw Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol, pryd y mae angen eu cynnal, beth y mae sgrinio a chwmpasu yn ei olygu, beth sy'n digwydd i geisiadau cynllunio heb Ddatganiad Amgylcheddol, yr hyn y mae'n rhaid i Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol ei gynnwys, a sut y caiff Datganiadau Amgylcheddol eu hystyried.


Erthygl gan Rhiannon Hardiman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru