Someone putting a plastic bottle into a deposit return take-back point.

Someone putting a plastic bottle into a deposit return take-back point.

Y gwydr yn hanner llawn: Tybed pryd y bydd gan Gymru Gynllun Dychwelyd Ernes?

Cyhoeddwyd 22/05/2025

Gan Gymru y mae un o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd. Mewn dadansoddiad o 48 o wledydd yn 2024 canfuwyd mai dim ond Awstria a oedd yn ailgylchu cyfran uwch o'i gwastraff. Ond cymharol araf fu’r cynnydd tuag at gyrraedd nodau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025 a 'dim gwastraff erbyn 2050', er 2016.

Rheoli gwastraff yn ôl dull (2012-2024)

 

Ffynhonnell - WasteDataFlow

Er mwyn helpu i gynnal y cynnydd tuag at ei nod ailgylchu ac ailddefnyddio, bu cynlluniau ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd ar agenda Llywodraeth Cymru er 2018. Mae'r erthygl hon yn ystyried sut un fyddai Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, ac yn edrych ar ddatblygiadau diweddar o ran ei gyflwyno.

Beth yw Cynllun Dychwelyd Ernes?

O dan y Cynllun, mae cwsmeriaid yn talu blaendal bach ar ben pris eitem, sy'n cael ei ad-dalu pan fyddant yn dychwelyd deunydd pacio'r eitem i fan casglu (sydd yn aml wedi'i leoli mewn siopau). Nod Cynllun Dychwelyd Ernes yw rhoi cymhelliant ariannol i bobl ailgylchu eitemau fel poteli plastig a gwydr, gan leihau llygredd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth wneud hynny.

Ar draws Ewrop, mae Cynlluniau Dychwelyd Ernes yn eithaf cyffredin. Mae gan bob un o wledydd Sgandinafia gynlluniau ar waith ers dros ddau ddegawd, ac mae Cynllun Dychwelyd Ernes yr Almaen wedi cyflawni cyfradd dychwelyd deunydd pacio o dros 98%. Rheolir Cynlluniau Dychwelyd Ernes gan weithredwr cynllun a benodir gan y llywodraeth – mae'r gweithredwyr yn aml yn eiddo rhannol i gymdeithasau masnach a gweithgynhyrchwyr diodydd.

Beth yw'r cynlluniau yng Nghymru a gweddill y DU?

Cyhoeddodd Cymru, yr Alban, a Lloegr i gyd eu gobeithion am Gynlluniau Dychwelyd Ernes ar wahân yn 2018, ond araf fu’r cynnydd dilynol ledled y DU a bu’n ffynhonnell annisgwyl o densiwn cyfansoddiadol.

Yn 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU (ar gyfer Lloegr), ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, ymgynghoriad ar y cyd ar gyfer datblygu Cynllun Dychwelyd Ernes wedi'i alinio ar gyfer cynwysyddion diodydd ym mhob un o’r gwledydd. Yn yr ymgynghoriad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu datblygu “System Cynllun Dychwelyd Ernes cynhwysfawr yng Nghymru sy’n cynnwys plastig polyethylen tereffthalad, caniau dur ac alwminiwm, a photeli gwydr”, tra na fyddai Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnwys poteli gwydr yn eu cynlluniau i ddechrau. Dywedodd Llywodraeth flaenorol y DU fod gwydr yn creu cymhlethdod gormodol i’r diwydiant diodydd ac mae’n cynyddu costau storio a thrin ar gyfer manwerthwyr.

Yn y cyfamser, roedd Llywodraeth yr Alban wedi cynllunio Cynllun Dychwelyd Ernes ar wahân, a fyddai'n cynnwys cynwysyddion gwydr, alwminiwm a phlastig. Methodd ei chynlluniau ym mis Mai 2023 pan oedd Llywodraeth flaenorol y DU yn gwrthwynebu cynnwys cynhyrchion gwydr yng Nghynllun Dychwelyd Ernes yr Alban. Byddai canlyniadau wedi bod i hyn o ran effeithiolrwydd Cynllun Dychwelyd Ernes yr Alban, ac edrychir ar hyn yn fanylach yn ddiweddarach yn yr erthygl hon.

Ers hynny, bu Llywodraeth y DU a'r holl lywodraethau datganoledig yn gweithio gyda'i gilydd ar Gynlluniau Dychwelyd Ernes wedi'u halinio, a rhyngweithredol, a oedd i ddechrau yn 2025 yn wreiddiol, ac a ohiriwyd yn ddiweddarach tan fis Hydref 2027.

Cymru'n bwrw ati ar ei phen ei hun

Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig,  fod Llywodraeth Cymru wedi tynnu’n ôl o'r broses ar y cyd o ddatblygu Cynlluniau Dychwelyd Ernes cydnaws â’i gilydd ledled y DU. Cyfeiriodd at ei uchelgais i ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes “sy’n cefnogi’r newid i ailddefnyddio ar gyfer yr holl gynwysyddion diodydd, gan gynnwys y rhai a wneir o wydr".

Yn wahanol i blastig, sy'n dirywio ychydig bob tro y caiff ei ailgylchu, gellir ailgylchu gwydr nifer anghyfyngedig o weithiau heb golli purdeb nac ansawdd.  Mae mwyafrif y Cynlluniau Dychwelyd Ernes gweithredol yn y byd heddiw yn cynnwys gwydr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd:

…we're in a different position in Wales, and we're keen to help the UK by moving ahead and showing where I think we will all eventually coalesce, which is coming together with DRS based on reuse as well as recycling.

Deddf Marchnad Fewnol y DU: rhwystr i weithredu?

Mae awydd Llywodraeth Cymru i gynnwys gwydr yn ei Chynllun Dychwelyd Ernes yn cael ei gymhlethu gan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 (UKIMA), y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet aio yn ei ddatganiad ysgrifenedig.

Gan fod Cynllun Dychwelyd Ernes yn ymwneud â rheoleiddio gwerthu nwyddau, gallai’r 'egwyddorion mynediad i'r farchnad' sy'n rheoli marchnad fewnol y DU effeithio arno. Sefydlwyd y rhain yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020 (UKIMA) gan Lywodraeth flaenorol y DU.

Yn yr achos hwn, byddai egwyddorion mynediad i'r farchnad yn golygu na fyddai angen i gynhyrchwyr mewn rhannau eraill o'r DU gydymffurfio â gofynion Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru sy'n ymwneud â gwydr, a allai achosi heriau sylweddol o ran rheoli'r Cynllun. Er enghraifft, ni ellid gorfodi unrhyw ofynion Cymreig ar gyfer adnabod cynwysyddion o fewn y cwmpas, fel cod bar, ar nwyddau sy'n tarddu o weddill y DU. Gallai busnesau ddewis mabwysiadu gofynion Cymru yn wirfoddol, ond gallai hyn effeithio ar eu cadwyn gyflenwi neu arwain at gostau ychwanegol.

Arweiniodd pryderon tebyg ynghylch yr effaith ar weithredu’r Cynllun Dychwelyd Ernes Lywodraeth yr Alban i newid ei safbwynt ynghylch gwydr a chyd-fynd â chwmpas arfaethedig y Cynllun ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi mabwysiadu dull tebyg ond mae ei hymrwymiad parhaus i gynnwys gwydr yn golygu bod yr heriau a achosir gan UKIMA yn parhau. Gallai ddewis bwrw ymlaen ag un o'r opsiynau a ganlyn:

  • Bwrw ymlaen â Chynllun Dychwelyd Ernes Cymru sy'n cynnwys gwydr a rheoli'r heriau sy'n dod o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 (UKIMA); neu
  • Wneud cais i gynlluniau dychwelyd ernes, gan gynnwys gwydr, gael eu heithrio o egwyddorion mynediad i'r farchnad. O ganlyniad i hyn byddai angen i gynhyrchwyr o bob cwr o'r DU gydymffurfio â gofynion Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru ar ôl i'r cynllun sefydlu. Byddai angen cytundeb Llywodraeth y DU ar gyfer hyn, fodd bynnag.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ym mis Mawrth 2025 na fyddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am eithriad oherwydd ei bod wedi bod yn gweithio, nawr, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU. Er i Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ei fod yn ddull gwahanol iawn o ran sut mae’r llywodraethau’n cydweithio, mae’n ansicr sut y bydd hyn yn rhoi sylw i’r materion sy’n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.

Pryd y bydd gan Gymru Gynllun Dychwelyd Ernes?

Er gwaethaf yr amrywiaeth o ddulliau gan Lywodraeth Cymru, nid yw'n sicr pryd y bydd gan Gymru system dychwelyd ernes weithredol. Ym mis Ionawr 2025, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Gynllun Dychwelyd Ernes i Gymru yn unig yn ystod 2025-26. O ran amserlenni, dywedodd:

Originally, the timescale would have seen a full reuse scheme in place in 2027. That’s still in our minds, but, realistically, with engagement with stakeholders, we can put everything in place for the full roll-out in Wales not far off that timescale. I haven’t got a specific date yet, but we’re not starting from scratch with this.

Yn y cyfamser, penododd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban weithredwr cynllun yn ddiweddar ar gyfer eu cynlluniau rhyngweithredol. Bron i ddegawd ers iddo gael ei gynnig gyntaf, dylai eu Cynllun Dychwelyd Ernes hwy fod ar waith yn 2027, ond ni fydd yn cynnwys gwydr.

Mae rhwystrau ymarferol, rhwystrau ariannol a rhwystrau cyfansoddiadol i'w goresgyn o hyd cyn i Gymru feddu ar Gynllun Dychwelyd Ernes sy'n cynnwys gwydr.

Erthygl gan Dr Matthew Sutton a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru