Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr: Gweinidog dros yr Amgylchedd i wneud datganiad i'r Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 04/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 8 Mai 2018, bydd Hannah Blythyn, Gweinidog dros yr Amgylchedd, yn gwneud datganiad ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn disgrifio Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr fel:

….a policy approach under which producers are given a significant responsibility – financial and/or physical – for the treatment or disposal of post-consumer products.

Disgwylir i Gweinidog gyhoeddi mesurau i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau yng Nghymru. Mae'n debygol y bydd hyn yn seiliedig ar ganlyniadau astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys asesiad o gynlluniau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Eunomia, cwmni ymgynghori amgylcheddol, ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2017 gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ar Ymchwil Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Dywedodd:

Rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymyriadau posibl i gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol. Bydd cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, megis y cynlluniau sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Bydd Cynlluniau Dychwelyd Blaendal yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl cynlluniau ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (EPR), gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl.

Mae Ystadegau'r DU ar wastraff yn dangos bod cyfradd ailgylchu Cymru 12 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU. Gyda chyfradd ailgylchu o 57.3 y cant, mae Cymru eisoes yn rhagori ar darged yr UE i'r DU ailgylchu o leiaf 50% o wastraff cartref erbyn 2020. Nododd adroddiad gan Eunomia, a oedd yn edrych ar ddata ailgylchu cymaradwy ar draws y byd, mai Cymru yw'r drydedd genedl orau ledled y byd o ran ailgylchu gwastraff trefol, yn ail i'r Almaen yn unig yn Ewrop, ac yn culhau'r bwlch. Serch hynny, pa mor gadarnhaol bynnag yw'r darlun, mae mwy i'w wneud o hyd er mwyn cyflawni nod Llywodraeth Cymru, sef dyfodol diwastraff erbyn 2050, fel y nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr

Wedi'i gyflwyno gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE, mae Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn ffordd o annog cynhyrchwyr i ystyried cyfnod cylch oes cynnyrch ar ôl ei ddefnyddio trwy roi cyfrifoldeb iddynt amdano.

Drwy roi cyfrifoldeb i'r cynhyrchwyr am gasglu, didoli, trin a gwaredu cynnyrch, bydd y dyluniad yn dod yn fwy effeithlon, a bydd y cynnyrch yn haws i'w ddidoli, ei chwalu a'i waredu. Mae'r dull hwn yn cymell cynhyrchwyr i wneud eu cynhyrchion yn haws i'w hailgylchu, gan annog eco-ddylunio.

Mae dull Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn ategu cynlluniau gweinidogol Cymru i symud tuag at economi gylchol, lle na fydd cynhyrchion/deunyddiau pacio fyth yn wastraff, ond yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi.

Hyd yn oed heb ffactorau sy'n gyrru polisi, mae nifer o gwmnïau'n gwneud addewidion tuag at fynd i'r afael â gwastraff trwy ddylunio cynhyrchion yn well. Yn arwyddocaol, cofrestrodd cwmnïau sy'n gyfrifol am fwy na 80 y cant o ddeunyddiau pacio plastig ar gynhyrchion a gaiff eu gwerthu trwy archfarchnadoedd y DU i Gytundeb Plastigion y DU, fel enghraifft ddiweddar o hyn.

Cynllun Dychwelyd Ernes

Cadarnhaodd Hannah Blythen AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, i'r Cyfarfod Llawn ar 21 Mawrth 2018 y bydd astudiaeth Eunomia ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr "yn cynnwys dadansoddiad o gynlluniau dychwelyd ernes".

Diben system cynlluniau dychwelyd ernes yw annog pobl i ddychwelyd deunyddiau i broses drefnus o'u hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu trin/gwaredu. Egwyddor sylfaenol systemau ernes ar ddeunyddiau pacio diodydd yw bod manwerthwyr, ar ôl prynu cynhyrchion diodydd, yn talu ffi ychwanegol am y deunydd pacio ar ffurf ernes. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn diffinio cynlluniau dychwelyd ernes fel a ganlyn:

A deposit-refund system is the surcharge on the price of potentially polluting Products. When pollution is avoided by returning the products or their residuals, a refund of the surcharge is granted.

Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb yn 2015, yr Alban oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyhoeddi ei hymrwymiad i ddatblygu cynllun dychwelyd ernes, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gan Zero Waste Scotland.

Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn Lloegr ar gyfer cynwysyddion diodydd untro (boed yn blastig, yn wydr neu'n fetel), a fydd yn destun ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.

Er bod Cymru wedi bod yn aros am yr adroddiad Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (a ddisgwyliwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror) mae Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn annog gweithredu'n gyflym. Er enghraifft, ymatebodd Simon Thomas AC i ddatganiad i'r Cyfarfod Llawn ym mis Ebrill 2018 gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd i ddweud "rydym wedi trafod y posibiliadau neu'r hyn sy'n ddichonadwy yng Nghymru. Rydym yn sicr y tu hwnt i hynny erbyn hyn”. Efallai y bydd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r eglurhad a geisir.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Eunomia, Recycling – Who Really Leads the World?