Menyw yn derbyn frechlyn

Menyw yn derbyn frechlyn

Y Coronafeirws: y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu

Cyhoeddwyd 09/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/02/2021   |   Amser darllen munudau

Yn gynharach heddiw, cyhoeddwyd ein herthygl 'Y Coronafeirws: y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu’, sy'n edrych ar y prif gerrig milltir a’r prif farcwyr wrth gyflwyno brechlynnau’r coronafeirws yng Nghymru, yn ogystal â chyflenwi'r brechlynnau.

Mae'r ail herthygl hon yn canolbwyntio ar gam nesaf y rhaglen frechu wrth i ail ddosau'r brechlynnau gael eu rhoi, ac wrth i Lywodraeth Cymru droi ei sylw at yr ail garfan flaenoriaeth (h.y. pobl dros 50 oed a'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol/yn wynebu risg).

Grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu

Mae’r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu wedi’u seilio ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (y Cyd-bwyllgor), sef sefydliad annibynnol ar gyfer y DU.

Mae’r Cyd-bwyllgor yn cynghori mai’r blaenoriaethau cyntaf ar gyfer rhaglen frechu’r coronafeirws yw atal marwolaethau a chynnal a chadw'r systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod y risg o farwolaeth o’r coronafeirws yn cynyddu’n unol ag oedran, mae’r blaenoriaethau wedi’u seilio’n bennaf ar oedran.

Mae pob un o bedair gwlad y DU yn dilyn yr un rhestr flaenoriaeth ac mae pob un o bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi’r drefn hon (gweler ein herthygl ddiweddar 'Y Coronafeirws: y rhaglen frechu').

Er gwaethaf y galwadau i gynnwys pobl sy’n cyflawni swyddi penodol ar y rhestr flaenoriaeth, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford AS wedi dweud droeon mai’r flaenoriaeth yw canolbwyntio ar y rhai mwyaf agored i niwed ac i frechu'r rheini yn y prif grwpiau blaenoriaeth yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor. Mae Prif Weinidog Cymru wedi mynnu na fydd Cymru'n gwyro o restr flaenoriaeth y Cyd-bwyllgor:

Mae'n rhaid i ni gadw at restr flaenoriaethu’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Mae llawer o ddadleuon y gall pobl eu gwneud yn unigol dros pam y dylid diwygio'r rhestr honno, ond fy marn i yw—a dyma farn yr holl Brif Weinidogion, gan gynnwys Prif Weinidog y DU, ledled y wlad—bod yn rhaid i ni gadw at y cyngor y mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio wedi ei roi i ni.

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething AS wedi rhybuddio eisoes:

Pe bai grwpiau mawr o weithwyr yn cael blaenoriaeth yn gynharach, byddai'n dibrisio grwpiau eraill o bobl sy'n fwy agored i niwed.

Pa grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf?

Penderfyniad polisi i Lywodraeth Cymru yw’r drefn flaenoriaeth ar gyfer brechu yn unol â’r swyddi a gyflawnir gan bobl.

Mae Llywodraeth Cymru o dan bwysau cynyddol gan weithwyr allweddol – h.y. y rhai sy’n wynebu risg gynyddol o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws oherwydd eu swyddi, gan gynnwys swyddogion yr heddlu ac athrawon i'w cynnwys fel blaenoriaeth wrth gyflwyno’r rhaglen frechu.

Canfu astudiaeth ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai’r gweithwyr sy’n wynebu'r risg fwyaf o farwolaeth o’r coronafeirws yw staff bwytai, pobl sy'n gweithio mewn ffatrïoedd a gweithwyr gofal, ac yna gyrwyr tacsis a swyddogion diogelwch. Canfu'r astudiaeth fod nyrsys yn wynebu risg uwch o farw o’r coronafeirws na'r rheini sy’n cyflawni swyddi tebyg. Nid oedd y risg a wynebir gan athrawon ysgol uwchradd yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd. Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau iechyd parhaus sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil y feirws, a’r ffaith bod llawer o'r swyddi risg uchel hefyd yn rhai â chyflog cymharol isel.

Carreg Filltir 2 – pwy sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd?

Mae ein cofnod blog cynharach 'Y Coronafeirws: y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu' yn esbonio bod strategaeth frechu Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno’n raddol fesul cam. Y brif garreg filltir gyntaf yw cynnig y dos cyntaf o frechlyn y coronafeirws i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror 2021.

Y tu hwnt i garreg filltir canol mis Chwefror, mae rhestr flaenoriaeth y Cyd-bwyllgor yn cynnwys pawb sy’n 50 oed neu’n hŷn ac unigolion rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o salwch difrifol neu farwolaeth (grwpiau blaenoriaeth 5-9). Ail garreg filltir Llywodraeth Cymru yw cynnig brechiadau (yn dibynnu ar y cyflenwad) i bawb yn y carfannau blaenoriaeth hyn erbyn y Gwanwyn. Mae hyn bellach yn cynnwys gofalwyr di-dâl, sydd wedi'u hychwanegu at y chweched grŵp. Eto i gyd, codwyd cwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adnabod pwy sy’n ofalwyr di-dâl, (ni fydd llawer ohonynt yn cael lwfans gofalwyr).

Ail ddos

Er bod Cymru bellach yn arwain y DU o ran cyfradd dreigl cyfanswm y brechiadau a roddwyd fesul pen, dim ond i ddosau cyntaf y mae hyn yn berthnasol. Mae Cymru yn y safle olaf o blith gwledydd y DU o ran rhoi ail ddos fesul pen o’r boblogaeth.

Ddiwedd yr ddoe (8 Chwefror), roedd 2,792 o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos naill ai o frechlyn Pfizer-BioNTech neu frechlyn Rhydychen-Astrazenca.

Roedd y Gweinidog Iechyd wedi nodi'n flaenorol bod y stoc brechlynnau yng Nghymru wedi ei dal yn ôl i gynnig ail ddos o frechlyn y coronafeirws i gleifion, ond gan fod cyngor y Cyd-bwyllgor a Phrif Swyddog Meddygol Cymru ar hyn wedi newid, dechreuodd y GIG yng Nghymru gynnig dos cyntaf o’r brechlyn i fwy o bobl yng Nghymru.

Mae ein cofnod blog blaenorol, 'Y Coronafeirws: y rhaglen frechu' yn trafod newid y cyngor o ran y bwlch i’w adael rhwng y dos cyntaf a’r ail ddos o’r ddau frechlyn sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru wedi mynegi pryderon difrifol am newid y blwch rhwng y ddau ddos o dair wythnos i hyd at 12 wythnos. Fodd bynnag, mae’r Gweinidogion yn mynnu bod y cyngor hwn gan y Cyd-bwyllgor wedi cael ei gymeradwyo gan bob un o bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, a bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r safbwynt hwn:

Felly, mae ein safbwynt ar hynny yn cyd-fynd â'r hyn a awgrymir yn nhystiolaeth y Cyd-bwyllgor. Felly, y flaenoriaeth yw achub bywydau, a hynny’n bennaf drwy frechu mwy o unigolion yn y grwpiau mwyaf agored i niwed. Pan ddadansoddodd y Cyd-bwyllgor y dadansoddiad o'r dystiolaeth a data'r treialon, daeth yn amlwg, wrth edrych ar y cyfnod ar ôl 15 diwrnod i 22 diwrnod ar ôl cael y dos cyntaf o’r brechlyn, fod brechlyn Pfizer yn cynnig amddiffyniad sy’n agos at 90 y cant—sef 89 y cant—a bod brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn cynnig amddiffyniad o tua 73 y cant. Ac felly, hyd yn oed o ran argymhelliad y gwneuthurwyr ar gyfer brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, argymhellir ystod o bedair i 12 wythnos fel bwlch rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos, ond o ran brechlyn Pfizer, cafwyd diwygiad i gymeradwyaeth yr awdurdod rheoleiddio, a nododd y dylai'r ail ddos fod o leiaf dair wythnos a thu hwnt i’r dos cyntaf. Felly, gwaned penderfyniad pragmatig i bennu cyfnod o 12 wythnos ar sail y drafodaeth honno.

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen – sydd heb gael ei adolygu gan gymheiriaid eto – yn dangos bod brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn cynnig amddiffyniad o hyd at 76 y cant hyd at 12 wythnos ar ôl un dos. Dangosodd yr astudiaeth hefyd mai effeithiolrwydd y brechlyn ar ôl ail ddos yw 82.4 y cant, os gadewir bwlch o dri mis rhwng y brechlynnau.

Amrywiolion newydd ac effeithiolrwydd brechlynnau

Nid yw mwtaniadau feirysol yn beth newydd, ac mae pedwar mwtaniad o'r coronafeirws sy'n peri pryder ar hyn o bryd ac maent yn cael eu monitro'n ofalus yn y DU. Mae un o'r rhain yn deillio o Loegr (Kent).

Yn ôl Cell Cyngor Technegol Cymru – sy'n rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i Lywodraeth Cymru ar y pandemig, amrywiolyn y DU yw’r math amlycaf o'r feirws sydd ar led yng Nghymru erbyn hyn. Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth Aelodau Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd ar 27 Ionawr fod amrywiolyn y DU nid yn unig yn fwy trosglwyddadwy, ond bod arwyddion cychwynnol yn awgrymu y gallai'r gyfradd farwolaethau hefyd fod ychydig yn uwch.

Beiwyd lledaeniad cyflym yr amrywiolyn newydd am y cynnydd sydyn mewn achosion o’r coronafeirws cyn y Nadolig, ac am gyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd 4 ar 20 Rhagfyr ledled Cymru.

O ran effaith debygol yr amrywiolyn newydd ar y brechlyn, esboniodd Dr Shankar:

It is still an emerging picture, but there is some confidence, now—greater confidence—that at least the UK's variant is not going to make the vaccine ineffective.

Mae llai o sicrwydd am amrywiolyn De Affrica, ac mae’r wybodaeth amdano’n dal i ddod i'r amlwg. Rhybuddiodd Dr Shankar fod angen bod yn wyliadwrus o’r mathau o’r feirws sy’n dod o dramor – un o Dde Affrica a dau o Frasil.

Derbyn a Cyngor ar ôl brechu

Mae'r cyfyngiadau symud presennol yn golygu bod pobl yn disgwyl i’r rhaglen frechu nid yn unig amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag y feirws ond i helpu i leddfu’r cyfyngiadau, yn enwedig drwy ganiatáu i’r ysgolion ailagor ac i rieni ddychwelyd i'r gwaith.

Dywedodd y cynghorwyr gwyddonol wrthym fod y strategaethau presennol fel cadw pellter cymdeithasol yn fwy effeithiol, yn y tymor byr o leiaf, na'r rhaglen frechu wrth leihau nifer yr achosion o’r coronafeirws ac atal y feirws rhag lledaenu.

Bydd union ganran poblogaeth y DU y byddai angen iddynt gael eu brechu cyn y gellid dychwelyd i’r hen drefn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor heintus yw'r feirws a pha mor effeithiol yw'r brechlynnau.

Bydd gwyliadwriaeth gan y JCVI yn edrych ar gyfradd yr amddiffyniad wrth i'r rhaglen frechu fynd yn ei blaen. (Er enghraifft, mae'r frech goch yn gofyn am imiwneiddiad 95 y cant i amddiffyn pawb).

Nid yw'n eglur pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyhoeddi data derbyn brechlyn coronafirws ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (8 Chwefror) nododd y Gweinidog Iechyd yr angen i sicrhau bod negeseuon am y brechlyn yn cyrraedd Grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn benodol. Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ymrwymo o'r blaen i weithio gyda grwpiau cymunedol i sicrhau nad yw lleiafrifoedd ethnig yn cael eu 'gohirio' rhag cymryd y brechlyn coronafirws oherwydd gwybodaeth anghywir.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i chynllun i frechu cynifer o bobl â phosibl, gan ganolbwyntio ar roi'r brechlyn i'r grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru