Coronafeirws: y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu - Mae'r cyflymder yn parhau i gynyddu

Cyhoeddwyd 09/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/02/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn beirniadaeth bod y gwaith o gyflwyno brechlynnau’r coronafeirws wedi dechrau’n araf, mae Cymru bellach yn brechu canran uwch o’i phoblogaeth na gwledydd eraill y DU, yn seiliedig ar gyfartaledd treigl dyddiol ar gyfer y dosau cyntaf. Mae diweddariadau dyddiol ar nifer y bobl sy'n cael brechlyn rhag y coronafeirws yng Nghymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae ein herthygl 'Coronafeirws: data brechu‘ hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ac yn rhoi trosolwg o'r data brechu sydd ar gael i'r cyhoedd.

Yr erthygl hon yw'r gyntaf o ddwy y byddwn yn eu cyhoeddi heddiw. Mae'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ers ein herthygl flaenorol 'Coronafeirws: y rhaglen frechu‘, ac mae’n ymdrin â’r materion allweddol yn rhaglen frechu Cymru.

Cerrig Milltir a Marcwyr Allweddol

Mae strategaeth frechu Llywodraeth Cymru yn pennu tair carreg filltir allweddol a nifer o 'farcwyr'.

Y garreg filltir alweddol gyntaf yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 (ychydig o dan 750,000 o bobl) erbyn canol mis Chwefror 2021. Mae hyn yn cynnwys:

  • holl breswylwyr a holl staff cartrefi gofal;
  • gweithwyr rheng flaen ym maes gofal iechyd a chymdeithasol;
  • pobl dros 70 oed; ac
  • y bobl hynny sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (gwarchod gynt).

Dywed Gweinidogion Cymru eu bod ar y trywydd cywir i gyrraedd y garreg filltir gyntaf hon erbyn canol mis Chwefror. Yn ôl diweddariad wythnosol diweddaraf Llywodraeth Cymru am y rhaglen frechu, mae 60 y cant o’r bobl yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf bellach wedi cael dos cyntaf o frechlyn.

Pa mor debygol yw hi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y garreg filltir gyntaf?

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi cyrraedd nifer o farcwyr wrth geisio cyrraedd ei charreg filltir gyntaf, gan gynnwys ei marciwr cyntaf y bydd dos cyntaf o frechlyn wedi cael ei gynnig i holl staff rheng flaen Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Fodd bynnag, ar 26 Ionawr, dim ond i 65 y cant o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru yr oedd y brechlyn wedi cael ei gynnig.

Yr ail farciwr oedd cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff yng nghartrefi gofal Cymru erbyn diwedd mis Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod hyn wedi cael ei gyflawni. Dyma gam pwysig i Lywodraeth Cymru, sydd wedi gorfod amddiffyn ei ffordd o ddelio â’r pandemig mewn cartrefi gofal, gan gynnwys a yw hawliau pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal wedi cael eu diogelu'n ddigonol.

Adroddwyd bod y marciwr hwn wedi cael ei gyrraedd, ond erbyn yr ddoe (8 Chwefror) dim ond 77.5 y cant o breswylwyr cartrefi gofal ac 81.2 y cant o weithwyr cartrefi gofal sydd wedi cael eu dos cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn egluro:

Ein nod oedd cyrraedd yr holl gartrefi gofal hynny yr oedd yn bosibl eu cyrraedd; ac i sicrhau bod cynlluniau ar waith i gyrraedd y cartrefi gofal hynny sydd wedi cael achosion ac achosion lluosog o COVID-19 cyn gynted â phosibl.

Nid yw'n eglur a fydd Llywodraeth Cymru yn brechu 100 y cant o'r garfan hon gan nad yw ar hyn o bryd yn cyhoeddi data ar faint sy’n cael y brechlyn.

Y trydydd marciwr oedd cynyddu nifer y meddygfeydd meddygon teulu sy'n cynnig brechlyn i 250 erbyn diwedd mis Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged: erbyn hyn mae bron i 400 o bractisiau meddygon teulu yn rhan o'r rhaglen frechu. Mae sicrhau bod cynifer o bractisau meddygon teulu yn cymryd rhan yn bwysig - nid yn unig er mwyn cyflymu’r gwaith cyflwyno ond hefyd i sicrhau bod mynediad teg ledled Cymru ac ym mhob cymuned.

Beth am bobl dros 80 oed?

Methwyd y nod o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed erbyn 24 Ionawr, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'r ymrwymiad hwnnw bellach. Ddoe (8 Chwefror), roedd dos cyntaf wedi cael ei gynnig i 85.4 y cant o’r bobl yn y grŵp oedran hwnnw.

Cyflenwad brechlynnau’r coronafeirws

Mae’r gwaith o gyflwyno’r brechlynnau'n parhau i gyflymu.

Mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran cynnig dosau cyntaf. Fodd bynnag, mae'r system frechlynnau yn debygol o ddod o dan straen newydd yn ystod yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, gan y bydd angen rhoi ail ddos o'r brechlynnau, a hynny wrth gynnal cyflymder ar gyfer rhoi dos cyntaf i nifer gynyddol o bobl.

Mae Gweinidogion wedi dweud mai cyflenwad brechlynnau’r coronafeirws yw’r ffactor pwysicaf o hyd o ran pa mor gyflym y gellir cyflwyno'r brechlynnau:

Mae'r gadwyn cyflenwi brechlynnau yn gymhleth ac mae ein cynlluniau'n cael eu haddasu'n gyson yn sgil newidiadau i faint cyflenwadau ac amserlenni cyflenwi – pob un ohonynt â’r potensial i effeithio ar gyflawni'r cerrig milltir yn ein Strategaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro y bydd y cyflenwad yn mynd yn fwy ansicr ymhellach i'r dyfodol, a bod rhagor o waith cynllunio i'w wneud i gyrraedd y cerrig milltir yn y dyfodol, yn enwedig o ran brechu gweddill y boblogaeth oedolion gymwys erbyn yr hydref.

Am y tro, mae Vaughan Gething AS. y Gweinidog Iechyd, yn ymddangos yn hyderus fod y cymysgedd o frechlynnau yn golygu bod gan Gymru ddigon o gyflenwad i gyrraedd carreg filltir canol mis Chwefror i frechu'r 4 grŵp blaenoriaeth uchaf. Mae hyn er gwaethaf yr adroddiadau ynghylch problemau yng nghyflenwad brechlyn Pfizer-BioNTech a brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn yr UE.

Sut mae'r brechlynnau'n cael eu caffael a'u dosbarthu i Gymru?

Mae Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, yn rhan o drefniant caffael Llywodraeth y DU ar gyfer nifer o frechlynnau sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer eu defnyddio yn y DU.

Mae Michael Gove AS, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet yn Llywodraeth y DU, wedi rhoi sicrwydd na fydd tarfu ar gyflenwadau'r DU, yn sgil galwadau’r UE ar AstraZenecca i gyflenwi dosau o weithfeydd y DU. Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud bod Cymru yn cael ei chyfran o gyflenwad y brechlyn gan Lywodraeth y DU, ac mae'n disgwyl gweld cynydd ymhellach yn y cyflenwad yn yr wythnosau i ddod.

Erbyn mis Ebrill, mae disgwyl i'r DU gael ei dosau cyntaf o frechlyn Moderna. Ddiwedd y mis diwethaf (29 Ionawr), gwnaed cyhoeddiadau ynghylch dau frechlyn newydd y dangoswyd eu bod yn gweithio mewn treialon clinigol ar raddfa fawr. Mae gwneuthurwyr Novavax a Janseen wedi cyhoeddi bod y ddau frechlyn yn effeithiol. A’r cyfan yn helpu i roi hwb i'r cyflenwad o frechlynnau.

Fodd bynnag, nid yw'n eglur sawl dos o'r brechlynnau a fydd yn cael ei ddyrannu i Gymru, gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data am y stoc brechlynnau. Roedd y data i fod i gael eu cynnwys yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru 'brechlynnau: stoc a dosbarthiad' ar 21 Ionawr, ond gofynnodd Llywodraeth y DU am iddynt beidio â chael eu cyhoeddi oherwydd sensitifrwydd masnachol. Ni chynhwyswyd y data yng nghyhoeddiad yr wythnos diwethaf ychwaith.

Sut mae'r brechlyn yn cael ei ddosbarthu yng Nghymru?

Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw cyflwyno'r rhaglen frechu yng Nghymru, ac mae gan bob bwrdd ei gynlluniau cyflenwi ei hun. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud o'r blaen “Bydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cael ei ddyraniad yn unol â maint ei boblogaeth â blaenoriaeth a'i allu i'w roi”.

Mae ein herthygl 'Coronafeirws: data brechu' yn rhoi mwy o fanylion ynghylch pa mor gyflym y mae pob bwrdd iechyd yn cyflwyno'r brechlynnau. Disgwylir rhywfaint o amrywiad (yn dibynnu ar broffil demograffig ardaloedd unigol er enghraifft), ond bydd gwleidyddion yn benodol yn awyddus i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaeth o fewn ardaloedd byrddau iechyd yn cael ei achosi gan, er enghraifft, oedi wrth gael brechlynnau allan i'r practisau cyffredinol, neu oherwydd unrhyw broblemau seilwaith neu staffio.

Mae dangos y data fesul bwrdd iechyd yn bwysig ar gyfer olrhain amrywiadau lleol posibl. Mae Aelodau’r Wrthblaid wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau “nad oes loteri cod post yn dod i'r amlwg ledled Cymru”, yn dilyn adroddiadau bod rhai byrddau iechyd yn brechu’r grwpiau blaenoriaeth yn gynt na byrddau eraill.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud na fydd neb yn cael eu gadael ar ôl yn ei raglen frechu.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru