Y Coronafeirws: Y Senedd i gynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cyhoeddwyd 13/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mercher 15 Gorffennaf, bydd y Senedd yn trafod y canfyddiadau sydd i’w gweld yn adroddiad interim y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch effaith pandemig y coronafeirws ar feysydd sydd o fewn ei gylch gwaith.

Mae'r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau cychwynnol y Pwyllgor, ac yn nodi:

Rydym yn cydnabod ei bod yn ymddangos bod y feirws yn effeithio llai ar blant a phobl ifanc nag oedolion ond, er hynny, nid oes fawr o amheuaeth fod effeithiau ehangach Covid-19―a’r mesurau a gymerwyd i’w reoli―wedi effeithio cryn dipyn ar eu bywydau.

Mae’r Pwyllgor yn datgan ei fod yn awyddus i ‘sicrhau nad yw hawliau plant yn cael eu diystyru yn ystod y broses o reoli'r pandemig hwn, nac yn ystod ein gwaith craffu yn y Senedd.’

Mae ymchwiliad parhaus y Pwyllgor yn canolbwyntio'n benodol ar y cymorth a ddarperir ar gyfer:

  • plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed;
  • iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc; a’r
  • sector addysg bellach ac uwch

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y dystiolaeth a ganlyn:

“What they (children and young people) have been affected by quite greatly is, if I could call it, collateral damage—their schools have been closed, their clubs have been shut, they can't socialise. All those things have affected children, and they're very anxious, because there's a lot of worry about coronavirus, which they're hearing about—their Impact of COVID-19 on children and young people 1 grandparents might have died, or they're hearing that thousands of people have died.”

Mae’r dystiolaeth ysgrifenedig y mae’r Pwyllgor wedi’i chael hyd yma a’r ohebiaeth rhyngddi a Llywodraeth Cymru wedi’i chyhoeddi ar ei dudalen we.

Roedd y mater proffil uchel ynghylch a fyddai plant yng Nghymru yn dychwelyd i’w hysgolion ym mis Medi yn rhan hanfodol o sesiwn graffu’r Pwyllgor gyda Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, ar 7 Orffenaf . Ar 9 Gorffennaf, sef diwrnod ar ôl i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad interim, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad yn cadarnhau y byddai pob disgybl yn gallu dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi amrywiaeth o erthyglau sy'n berthnasol i'r materion sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad interim:


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

We’ve published a range of material on the coronavirus pandemic, including a post setting out the help and guidance available for people in Wales and a timeline of Welsh and UK governments’ response.

You can see all our coronavirus-related publications by clicking here. All are updated regularly.