Y coronafeirws: cynlluniau wrth gefn ar gyfer etholiadau Senedd 2021

Cyhoeddwyd 26/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae'r bumed Senedd bron â dod i ben, ac mae etholiad cyffredinol nesaf y Senedd wedi'i drefnu ar gyfer 6 Mai 2021. Fodd bynnag, mae’r modd y gallai pandemig y coronafeirws effeithio ar drefniadau’r etholiad yn cael ei ystyried yn awr.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cynllunio Etholiadau ym mis Mehefin i ystyried effaith bosibl cyfyngiadau’r coronafeirws ar y broses o weinyddu’r etholiad ac i ystyried a oedd angen addasu'r ddeddfwriaeth berthnasol i sicrhau bod modd cynnal etholiad diogel.

Cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp ar 6 Tachwedd, a chafodd ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Tachwedd.

Cytunodd Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol y dylai'r etholiad, cyn belled ag y bo modd, fynd rhagddo’n ôl y disgwyl ym mis Mai. Fodd bynnag, er bod cytundeb cyffredinol y dylid paratoi cynlluniau wrth gefn i sicrhau bod yr etholiad mor ddiogel â phosibl, mae anghytuno ynghylch hyd a lled mesurau o’r fath.

Pwy oedd aelodau o’r Grŵp Cynllunio Etholiadau?

Sefydlwyd y Grŵp gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pum cyfarfod ac roedd yr aelodau’n cynnwys aelodau o bleidiau gwleidyddol, swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a rhanddeiliaid sydd ynghlwm wrth y gwaith o gynnal yr etholiad, fel y Comisiwn Etholiadol a swyddogion canlyniadau.

Beth oedd canfyddiadau’r Grŵp Cynllunio Etholiadau?

Cytunodd y Grŵp ar set o egwyddorion a chasgliadau i helpu i gynllunio a pharatoi’n fanwl ar gyfer yr etholiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Dylid parhau i geisio cynnal etholiadau’r Senedd ar 6 Mai, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol;
  • I gyflawni hyn, maent yn argymell y dylid ystyried sut y gellir cynnwys elfen o hyblygrwydd yn y broses o gynllunio’r etholiad, gan adlewyrchu cyngor iechyd y cyhoedd;
  • Dylid cynnal ymgyrch i annog pobl i bleidleisio drwy’r post, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn eu gwarchod eu hunain neu’r rhai sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed;
  • Gallai fod yn briodol caniatáu mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â phleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy, gan barhau i gynnal yr archwiliadau priodol i ddiogelu rhag twyll etholiadol. Fodd bynnag, mae angen ystyried hyn ymhellach;
  • Dylid ystyried bod pleidleisio yn 'esgus rhesymol 'dros adael y tŷ os bydd unrhyw reoliadau coronafeirws ar waith adeg yr etholiad; a
  • Gellid cyfrif pleidleisiauu dros gyfnod estynedig pe bai hynny’n diogelu iechyd a diogelwch y rhai sy’n ymgymryd â’r gwaith.

Fodd bynnag, nid oedd y Grŵp yn cytuno ar bopeth. Yn anad dim, nid oedd cytundeb cyffredinol ynghylch yr angen i baratoi cynlluniau wrth gefn i ohirio'r etholiad.

A allai'r etholiad gael ei ohirio?

Mae'r syniad o ohirio'r etholiad yn ddadleuol.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud na fyddai’n iawn “ymestyn y Senedd hon y tu hwnt i'w thymor presennol” a’i fod yn teimlo’n gryf “bod angen adnewyddu'r Senedd yn ddemocrataidd”. Ond mae hefyd wedi dweud y byddai’n anghyfrifol i Lywodraeth Cymru “beidio â pharatoi cynlluniau rhag ofn y bydd y pandemig mor ddifrifol ym mis Mai y flwyddyn nesaf na fyddai’n ddiogel cynnal etholiad.”

Yn y ddadl ar adroddiad y Grŵp, dywedodd Adam Price AS ei fod yn ei chael yn anodd rhagweld sefyllfa lle y byddai angen gohirio’r etholiad, ond credai ei bod yn rhesymol rhoi’r gallu i’r Senedd “ymateb i bob sefyllfa”. Fodd bynnag, yn ôl Paul Davies AS, nid oedd unrhyw reswm pam na allai’r etholiadau gael eu cynnal ar 6 Mai o ystyried bod Sbaen, Gwlad Pwyl, Ffrainc a De Korea wedi cynnal rhai etholiadau yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Gan ddefnyddio’i phwerau presennol, gallai’r Llywydd benderfynu cynnal yr etholiad fis ynghynt, neu ei ohirio tan 6 Mehefin 2021. Yr unig ffordd o ohirio'r etholiad y tu hwnt i'r dyddiad hwn yw drwy ddefnyddio deddfwriaeth gynradd.

Gellid strwythuro deddfwriaeth sylfaenol mewn gwahanol ffyrdd i wneud hyn ond, yn ei adroddiad, dim ond at un o’r rhain y cyfeiriodd y Grŵp: ymestyn pŵer presennol y Llywydd i amrywio dyddiad yr etholiad er mwyn symud y dyddiad fwy na mis. Yn ôl yr adroddiad, roedd y rhan fwyaf o’r pleidiau gwleidyddol yn barod i ystyried hyn fel “mesur wrth gefn in extremis”, ond nid oedd cytundeb cyffredinol ymhlith y Grŵp cyfan.

Mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod y byddai cynyddu pwerau'r Llywydd i amrywio dyddiad yr etholiad “yn gam cyfansoddiadol mawr” ac y byddai angen mesurau diogelu priodol. Cyn y gallai'r Llywydd arfer unrhyw bwerau gohirio estynedig, awgrymodd y gellid galw am bleidlais 'uwchfwyafrif’ o ddwy ran o dair yn y Senedd. Awgrymwyd hefyd y gallid gosod amodau ynghlwm wrth y pŵer i orfodi’r Llywydd i ymgynghori â'r cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion iechyd cyhoeddus ar y pryd.

Y camau nesaf: Bil ym mis Ionawr?

Cyn y ddadl, roedd y Prif Weinidog wedi cadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r meysydd hynny roedd y Grŵp Cynllunio Etholiadau yn cytuno arnynt, sef y meysydd a amlinellir uchod.

Mae'r Prif Weinidog yn awr wedi cadarnhau fod Llywodraeth Cymru yn paratoi Bil drafft i alluogi'r Llywydd i ohirio'r etholiad am hyd at chwe mis os bydd angen.

Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban fil tebyg yr wythnos hon yn gwneud trefniadau wrth gefn ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban sydd wedi'u trefnu ar gyfer yr un dyddiad. Ond nid oes disgwyl i Fil Llywodraeth Cymru gael ei gyflwyno cyn mis Ionawr, a bydd hynny’n rhoi amser i Weinidogion asesu, ar ôl y Nadolig, a oes angen Bil gan nad oes unrhyw ddewis arall.

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a fyddai manteision ynghlwm wrth leihau cyfnod diddymu’r Senedd. ‘Diddymu’ yw'r term swyddogol ar gyfer dod â senedd i ben ac, fel rheol, mae'n digwydd ychydig wythnosau cyn cynnal etholiad. Os caiff Bil Llywodraeth yr Alban ei basio, byddai Senedd yr Alban yn cael ei diddymu ddiwrnod cyn yr etholiad, gan alluogi’r Aelodau i basio deddfwriaeth frys i ohirio’r etholiad os oes raid.

Roedd etholiad 2021 eisoes am fod yn hanesyddol gan mai dyma’r tro cyntaf y byddai pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru. Fodd bynnag, gall fod yn hanesyddol am resymau eraill hefyd wrth i'r Prif Weinidog gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sefydlu canolfannau pleidleisio cynnar, gan ganiatáu i bobl bleidleisio ar wahanol adegau yn ystod y dyddiau a fydd yn arwain at ddiwrnod yr etholiad.


Erthygl gan Gruffydd Owen, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru