Rydym yn diweddaru ein herthyglau yn rheolaidd ond bydd yr arfer hwnnw’n yn dod i ben yn ystod cyfnod yr etholiad, rhwng 7 Ebrill a 6 Mai.
Mae'r dudalen hon yn cysylltu â'n erthyglau ar y Coronafeirws (COVID-19) ac yn rhoi gwybod lle gallwch chi ddod o hyd i'r data a'r wybodaeth ddiweddaraf tra na fyddwn yn cyhoeddi.
Coronafeirws: ystadegau
Mae'r erthygl hon yn esbonio sut a phryd y cyhoeddir data am achosion a marwolaethau COVID-19 yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ystadegau COVID-19 bob dydd ar ei ddangosfwrdd. Mae hynny'n cynnwys data ar nifer y penodau profi, yr achosion a gadarnhawyd a’r marwolaethau, ynghyd â data ar dderbyniadau i'r ysbyty, ymgynghoriadau â Meddygon Teulu yn ymwneud ag anadlu, galwadau Galw Iechyd Cymru a galwadau 111, a gwyliadwriaeth o ran ysgolion. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod yr holl ddata a gyhoeddir ar ei ddangosfwrdd yn rhai dros dro, ac y byddant yn destun adolygiad yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi data profi ar gyfer COVID-19 yn wythnosol. Darllenwch ein herthygl ar Raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru: sut mae'n gweithio i gael y cefndir.
At hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystod o ddata a dadansoddiadau ar effaith COVID-19 ar gymdeithas. Mae'r hynny’n cynnwys data ar fusnesau a'r economi, ar bresenoldeb mewn lleoliadau addysg awdurdodau lleol, ar weithgarwch a gallu'r GIG, ar rai sy’n gwarchod rhag y feirws, ar brofion ac ar faterion yn ymwneud â thai.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data a dadansoddiadau yn rheolaidd ar COVID-19 yn y DU, a'i effeithiau ar gymdeithas a'r economi. Mae'r rhain yn cynnwys yr Arolwg Ystadegol o Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) a gwybodaeth ynghylch y Coronafeirws a'r effeithiau cymdeithasol ar Brydain Fawr a’r Coronafeirws a'r dangosyddion diweddaraf ar gyfer economi a chymdeithas y DU, a gyhoeddir yn wythnosol.
Coronafeirws: data brechu
Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r data brechu sydd ar gael i'r cyhoedd.
Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi crynodeb dyddiol o nifer yr unigolion sydd wedi cael y dos cyntaf a’r ail ddos o’r brechlyn. At hynny, mae’n rhoi data ar y nifer sy'n dewis cael eu brechu yn ôl grŵp blaenoriaeth, ac yn ôl bwrdd iechyd.
At hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiadau wythnosol ar ddosau cyntaf ac ail ddosau fesul Bwrdd Iechyd Lleol ac adroddiad misol ar anghydraddoldebau wrth ddewis cael y brechlyn. Gellir dod o hyd i'r ddau adroddiad ar ei ddangosfwrdd.
Mae data brechu Llywodraeth y DU yn cymharu cenhedloedd y DU.
Pwy sy'n cael eu gadael ar ôl wrth roi brechiadau’r Coronafeirws?
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar faint sy’n dewis cael y brechlyn, a phetruster ymhlith rhai grwpiau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad misol ar anghydraddoldebau o ran dewis cael y brechlyn, sy'n darparu dadansoddiad o frechiadau yn ôl grŵp blaenoriaeth, oedran, rhyw, ethnigrwydd ac amddifadedd.
At hynny, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ganlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd o ran ‘sut ry’n ni'n gwneud’ ym mis Mawrth 2021.
Yn haf 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadega Gwladol wybodaeth am y marwolaethau oedd yn gysylltiedig â’r Coronafeirws (COVID-19) yn ôl grŵp ethnig yng Nghymru a Lloegr.
At hynny, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi manylion ynghylch y Coronafeirws a phetruster o ran cael y brechlyn ym Mhrydain Fawr: 13 Ionawr i 7 Chwefror 2021.
Coronafeirws: Y marwolaethau a gofrestrwyd
Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r data sydd ar gael i'r cyhoedd ar farwolaethau a gofrestrwyd.
Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi'r marwolaethau a gofrestrwyd yn wythnosol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r data hyn yn rhoi ffigur dros dro ar gyfer nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys marwolaethau sy’n ymwneud â COVID-19. Er mwyn caniatáu amser ar gyfer cofrestru a phrosesu, mae'r ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi 11 diwrnod ar ôl i'r wythnos ddod i ben. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’u seilio ar y dyddiad cafodd y farwolaeth ei chofrestru yn hytrach na’r dyddiad y digwyddodd. Mae o leiaf pum diwrnod yn mynd heibio fel arfer rhwng achos o farwolaeth a phryd y caiff ei gofrestru.
Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ôl awdurdod lleol, yn ôl bwrdd iechyd ac yn ôl lleoliad y farwolaeth, gan gynnwys yn yr ysbyty (acíwt neu gymunedol, nid seiciatrig), gartref, mewn cartref gofal, hosbis neu gyfleuster cymunol arall ac mewn mannau eraill.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu map rhyngweithiol sy'n dangos nifer y marwolaethau sy’n digwydd dros amser, lle soniwyd am COVID-19 fel achos ar y dystysgrif marwolaeth.
Llinell amser coronafeirws: Ymateb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
Mae'r llinell amser hon yn tynnu sylw at ddatblygiadau allweddol yng Nghymru a'r DU mewn ymateb i COVID-19.
Gellir gweld cyhoeddiadau diweddaraf y Llywodraeth yma:
Coronafeirws: gwybodaeth a chymorth i bobl Cymru
Mae'r erthygl hon yn casglu dolenni at wybodaeth ddibynadwy i helpu pobl Cymru gyda llawer o bethau, gan gynnwys hawliau cyflogaeth, budd-daliadau, cymorth busnes, teithio, bwyd, manwerthu, cansladau, addysg a mwy.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru