Y Bil Masnach a Chydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd 23/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Y Bil Masnach

Gosododd Llywodraeth y DU y Bil Masnach gerbron Tŷ’r Cyffredin ar 7 Tachwedd 2017. Daeth trafodaethau Cyfnod Pwyllgor 1 y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin i ben ar 1 Chwefror 2018. Nid yw’r dyddiad ar gyfer y Cyfnod adrodd wedi’i bennu eto. Y Bil yw’r trydydd mewn cyfres o Filiau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Mae cysylltiad agos rhwng y Bil â’r Bil Trethiant (Masnach Trawsffiniol) sy’n aros am y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd a Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sydd ar ganol y Cyfnod pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae masnach yn un o gymwyseddau unigryw yr Undeb Ewropeaidd, felly yr UE sy’n cynnal yr holl drafodaethau masnach ar ran ei Aelod-wladwriaethau, ac ni chaniateir i’r Aelod-wladwriaethau lunio cytundebau masnach unigol â gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE. Mae’r Bil Masnach a’r Bil Trethiant (Masnach Trawsffiniol) yn ceisio darparu pwerau fframwaith i sefydlu cyfundrefn fasnachu annibynnol y DU ar ôl i’r DU adael yr UE i Weinidogion y DU ac, mewn rhai amgylchiadau, i Weinidogion datganoledig.

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan bod Cydsyniad Deddfwriaethol gan y deddfwrfeydd datganoledig yn ofynnol ar gyfer y Bil Masnach ond nid ar gyfer y Bil Trethiant (Masnach Trawsffiniol), gan bod y Bil hwnnw’n ymwneud â phwerau dros dollau tramor a chartref, cwotâu allanol ac ymchwiliadau i atebion masnach.

Mae 12 cymal i’r Bil Masnach. I grynhoi, mae’n darparu:

  • Pwerau i wneud rheoliadau, i sicrhau y gall y DU ei hun weithredu unrhyw rwymedigaethau caffael sy’n deillio o’r DU yn dod yn aelod o’r Cytundeb ar Gaffael y Llywodraeth (y GPA).
  • Y gellir gweithredu cytundebau gyda gwledydd partner sy’n cyfateb i Gytundebau Masnach Rydd yr UE a chytundebau masnach eraill sydd ar waith cyn i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r Bil yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau i weithredu unrhyw newidiadau i gyfraith ddomestig a fydd yn angenrheidiol i’r DU fodloni rhwymedigaethau sy’n deillio o’r cytundebau hyn.
  • Sefydlu’r Awdurdod Atebion Masnach (TRA) i ddarparu fframwaith atebion masnach newydd y DU.
  • Galluogi’r Awdurdod Atebion Masnach i roi cyngor, cefnogaeth a chymorth i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhyngwladol a’i swyddogaethau eraill sy’n ymwneud â masnach a swyddogaethau’r Awdurdod Atebion Masnach. Gall yr Awdurdod hefyd ddarparu cyngor, cefnogaeth a chymorth o’r fath i sefydliadau eraill ar ei liwt ei hun.
  • Pŵer i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gasglu data ar ran Llywodraeth y DU i gadarnhau nifer yr allforwyr nwyddau a gwasanaethau yn y DU, ac i allu nodi’r allforwyr hynny at ddibenion hyrwyddo masnach.

Cydsyniad deddfwriaethol

Ar 7 Rhagfyr 2017, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Masnach gerbron y Cynulliad. Roedd o’r farn y byddai Rhan 1 o’r Bil a’i Atodlenni cysylltiedig yn gofyn am gydsyniad ar y sail eu bod yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Daeth i’r casgliad, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, na all argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad i’r Bil:

Fel yr ydym eisoes wedi ei nodi mewn ymateb i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), mae’n hanfodol nad yw unrhyw bwerau a roddir i Weinidogion Llywodraeth y DU i wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn cael eu defnyddio onid ydynt wedi cael cydsyniad Gweinidogion Cymru ymlaen llaw. Roedd y Papur Gwyn ar Fasnach yn awgrymu y byddid yn gofyn am gydsyniad o’r fath gan y Llywodraethau Datganoledig, ac rydym o’r farn y dylid cynnwys hyn ar wyneb y Bil. Ymhellach, fel y mae’r Bil wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, gosodir nifer o gyfyngiadau ar ddefnydd y Gweinidogion datganoledig o’r pwerau y darperir ar eu cyfer yn y Bil nad ydynt yn cael eu gosod ar Weinidogion y DU. Rydym o’r farn, fel mater o egwyddor, y dylai’r Gweinidogion datganoledig gael yr un pwerau mewn cysylltiad â materion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig â’r rhai sy’n cael eu rhoi i Weinidogion y DU.

Adroddiadau Pwyllgorau

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (EAAL) a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (CLA) y Cynulliad wedi craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Cynhaliodd y ddau bwyllgor gyfarfod ar y cyd ar 12 Chwefror 2018 pan glywsant dystiolaeth gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ar y Bil.

Cyhoeddwyd Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 9 Mawrth. Roedd yn cynnwys un Argymhelliad: "Ni ddylai’r Cynulliad roi ei gydsyniad deddfwriaethol i ddarpariaethau’r Bil Masnach a nodwyd fel rhai sydd angen cydsyniad y Cynulliad ar hyn o bryd." Ymhlith y pwyntiau eraill a drafodwyd yn yr Adroddiad oedd:

  • mae’r pwerau a gynigir i Weinidogion Cymru wedi’u fframio’n rhy eang. Byddai’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dewis eu gweld yn cael eu diwygio i’w cyfyngu i wneud darpariaeth sydd "yn hanfodol" yn unig.
  • mae’n cefnogi galwad Llywodraeth Cymru am ddefnyddio pwerau cydredol rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y Goron i sicrhau bod cydsyniad yn ofynnol. Er bod cynnig Llywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd gweithredol i ddefnyddio’r pwerau hyn yn well na’r diffyg trefniadau cydsyniad ar hyn o bryd, byddai’n well ganddo weld y Bil Masnach yn cael ei ddiwygio i’w gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad y Cynulliad i ddefnyddio’r pwerau hyn hefyd.
  • Dylid diwygio’r Bil Masnach i nodi na all y pwerau y mae’n eu cynnig gael eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
  • Dylid diwygio’r Bil Masnach i sicrhau bod cydsyniad y Cynulliad yn ofynnol cyn gwneud estyniad i’r cyfnod o bum mlynedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â phwerau Gweinidogion Cymru.

Nododd yr Adroddiad hefyd fwriad y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog Polisi Masnach y DU i ofyn am eglurhad ar ei sylw y byddai penodi aelodau bwrdd anweithredol arfaethedig gan Weinidogion datganoledig yn tanseilio annibyniaeth yr Awdurdod Atebion Masnach.

Cyhoeddwyd Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 16 Mawrth 2018. Dyma rai o’i brif gasgliadau:

  • mae angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymalau 1, 2, 3 a 4 ac Atodlenni 1, 2 a 3 sy’n gysylltiedig â hwy. Mae hyn oherwydd bod y cymalau a’r Atodlenni hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at unrhyw ddiben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau fel y maent yn ei ystyried yn briodol. Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol, gallant wneud rheoliadau o dan gymalau 1 a 2 mewn perthynas ag unrhyw faes pwnc sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Felly, mae angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
  • dylai pwerau cydredol a ddefnyddir gan Weinidogion y DU i wneud rheoliadau sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig fod yn ddarostyngedig i gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
  • mae’n debygol y bydd angen gwelliannau i’r Bil Masnach cyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol mewn sefyllfa i roi ei gydsyniad.

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru