Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.



Diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd: Cymorth a gwybodaeth i bobl yng Nghymru
Cyhoeddwyd 16/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/01/2021   |   Amser darllen munudau
Ar 1 Ionawr, dechreuodd y DU a'r UE fasnachu ar sail Cytundeb Cydweithrediad Masnach y cytunodd y ddwy ochr arno ar 24 Rhagfyr. Mae’r cytundeb ar waith dros dro nes bydd Senedd Ewrop yn pleidleisio i’w gymeradwyo.
Bydd penderfyniad hwn i fasnachu ac ymwneud â'r UE ar sail y cytundeb newydd yn arwain at newidiadau mewn nifer o feysydd i fusnesau a dinasyddion.
Mae'n bwysig dilyn canllawiau o ffynonellau swyddogol a dibynadwy i ddeall goblygiadau’r newidiadau hyn a'r camau gwahanol y bydd angen i chi eu cymryd efallai. Mae'r blog hwn yn cynnwys lincs at wybodaeth ddibynadwy a swyddogol o'r DU, o Gymru ac o’r UE i helpu pobl yng Nghymru i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Byddwn yn diweddaru’r blog hwn gydag unrhyw lincs defnyddiol ychwanegol wrth iddynt ddod ar gael.
Llywodraeth y DU
- gov.uk/transition yw prif dudalen we Llywodraeth y DU ar gyfer rhoi gwybodaeth a chanllawiau i fusnesau a dinasyddion yn ymwneud â’r rheolau newydd sy'n berthnasol i faterion fel teithio a chynnal busnes gyda'r UE. Mae'n cynnwys offeryn Gwirio Brexit sydd, ar ôl ei gwblhau, yn cynnig rhestr wedi'i phersonoli o'r camau i unigolion a / neu fusnesau eu cymryd.
- Mae Cynllun Gweithredu’r Ffin yn amlinellu'r broses i’w dilyn wrth symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE gan fod y cyfnod pontio’n awr wedi dod i ben. Mae dogfen sy’n cynnwys Astudiaethau achos hefyd wedi’i chreu i ddisgrifio senarios, o'r dechrau i'r diwedd, ar gyfer busnesau sy'n mewnforio ac yn allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE.
- Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau sy’n masnachu o ran bwyd neu fwyd anifeiliaid.
- Canllawiau Llywodraeth y DU ar symud nwyddau i mewn i, allan o, neu drwy Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021.
- Mae'r DU a'r UE wedi cytuno ar Gytundeb Masnach a Chydweithrediad a dau gytundeb cysylltiedig - y naill ar ddiogelwch a’r llall ar gydweithrediad niwclear. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi crynodeb sy'n egluro darpariaethau craidd y Cytundebau.
- Papur Gorchymyn yn manylu ar y cytundeb mewn egwyddor y daethpwyd iddo rhwng y DU a’r UE yng Nghyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael ynghylch gweithredu Protocol Gogledd Iwerddon.
Llywodraeth Cymru
- Tudalen we Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru yw’r ffynhonnell sy’n disgrifio’r camau i fusnesau, dinasyddion a sefydliadau eraill yng Nghymru eu cymryd. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru'n rheolaidd a bydd yn cyfeirio darllenwyr at ganllawiau eraill Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, pan fyddant yn berthnasol i Gymru.
- Nod Porth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru yw cynnig amrywiaeth o ddulliau i fusnesau gael cefnogaeth, ac mae’n cynnwys y ‘Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein’, sef llinell gyngor ar y ffôn i fusnesau, lleolwyr cyllid, a nifer o adnoddau ar-lein sy’n benodol ar gyfer sectorau amrywiol.
- Mae’r Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio yn disgrifio’r camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, yn annibynnol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU.
Yr Undeb Ewropeaidd
- Mae tudalen we’r Comisiwn Ewropeaidd Y canlyniadau i weinyddiaethau cyhoeddus, busnesau a dinasyddion yr UE yn cynnwys mesurau wrth gefn yr UE, a throsolwg fesul sector o'r prif feysydd sydd wedi newid.
- Creu partneriaeth newydd, sef tudalen we’r Comisiwn Ewropeaidd yw prif ffynhonnell yr UE ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE. Mae'n manylu ar bopeth y cytunwyd arno ers penderfyniad y DU yn 2016 i adael yr UE, gan gynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad newydd. Mae Comisiwn yr UE wedi cynhyrchu dogfen Cwestiynau ac Atebion sy’n crynhoi ei ddarpariaethau.
- Bydd rhannau o Gytundeb Ymadael y DU a’r UE yn parhau mewn grym. Ymhlith agweddau eraill, mae’r Cytundeb Ymadael a gwblhawyd ym mis Hydref 2019, yn cynnwys hawliau dinasyddion a Phrotocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon.
- Mae Cornel y Wasg Comisiwn yr UE yn rhestru’r holl ddatganiadau i'r wasg gan yr UE wrth iddynt gael eu cyhoeddi (gan gynnwys pob pwnc) ac mae'n cynnwys swyddogaeth chwilio.
Arall
Mae’r sefydliadau isod yn darparu ffynonellau dibynadwy o ran dadansoddiad ychwanegol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE:
- Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin
- Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi
- Gwasanaeth Ymchwil Senedd Ewrop
- Canolfan Wybodaeth Senedd yr Alban (SPICE)
- Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon (RaISe)
- UK In A Changing Europe
- Institute for Government
- Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit
- Deddf Cysylltiadau'r UE
- Y Ganolfan Diwygio Ewropeaidd
Erthygl gan Nia Moss, Sara Moran a Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru