Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chynigion o ran ei pherthynas â’r UE yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 17/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 12 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol (Saesneg yn unig). Mae’r papur yn fwy na 100 o dudalennau ac mae’n nodi’n fanwl gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth economaidd yn y dyfodol, partneriaeth ddiogelwch yn y dyfodol, ar gydsynio cydweithredol mewn meysydd fel arloesi a physgodfeydd ac ar sut y dylid llywodraethu’r berthynas yn y dyfodol. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau a fydd yn edrych yn fanwl ar ba elfennau o’r Papur Gwyn sy’n debygol o fod o ddiddordeb mwyaf i Gymru.

Ymhen naw mis y bydd y DU yn ymadael yn ffurfiol â’r UE, ar 29 Mawrth 2019. Er y bydd nifer o’r cynigion yn y Papur Gwyn yn hanfodol ar gyfer y trafodaethau ar y Cytundeb Ymadael, mae’n debyg y caiff llawer o fanylion gweithredol o ran sut y bydd y berthynas yn y dyfodol yn gweithio eu trafod yn ystod y cyfnod pontio arfaethedig.

Y Bartneriaeth Economaidd

Prif nodwedd cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth economaidd yn y dyfodol yw creu Ardal Masnach Rydd newydd ar gyfer nwyddau, gan gynnwys nwyddau amaeth-bwyd. Mae’r DU yn cynnig mai nodweddion allweddol partneriaeth economaidd fyddai:

  • Dim tariffau ar nwyddau a weithgynhyrchir a nwyddau amaeth-bwyd a dim cwotâu na gofynion rheolau tarddiad ar gyfer nwyddau’r DU-UE.
  • Llyfr rheolau cyffredin ar gyfer nwyddau, gan gynnwys nwyddau amaeth-bwyd, ond dim ond y rheolau hynny sy’n ymwneud â’r angen am wiriadau ar y ffin. Mae’r papur yn nodi y byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU wneud ymrwymiad ymlaen llaw i gysoni rheolau â’r UE, a byddai hefyd yn atal gosod ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
  • Trefniad Tollau Hwylusedig (FCA) newydd pan fyddai’r DU yn codi prisiau’r DU ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU ar gyfer marchnad y DU a thariffau’r UE ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU ond sydd wedi’u pennu ar gyfer marchnad yr UE.
  • Cyfranogiad y DU mewn asiantaethau allweddol o’r UE sy’n chwarae rhan arwyddocaol wrth osod nwyddau ar y farchnad, fel yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd a’r Asiantaeth Diogelwch Hedfanaeth Ewropeaidd.
  • Fframwaith newydd ar symudedd a fyddai’n caniatáu i ddinasyddion y DU a’r UE deithio at ddibenion twristiaeth ac at ddibenion busnes tymor byr heb fod angen fisas.
  • Cytuno i fabwysiadu’r un system a rheolau ar gymorth gwladwriaethol, a chydweithrediad agos o ran rheoleiddio cystadleuaeth.
  • Cytundeb newydd ar wasanaethau sy’n mynd ymhellach na threfniadau presennol yr UE â gwledydd trydydd parti, ond na fyddai’n cyfateb i’r mynediad presennol i’r farchnad sydd gan sector gwasanaeth y DU. Byddai hwn yn cynnwys cytundeb ar gydnabod ar y ddwy ochr gymwysterau proffesiynol mewn meysydd fel gofal iechyd a’r sector milfeddygol.
  • Ymrwymiad i gynnal y lefel isaf o ran safonau amgylcheddol, safonau newid yn yr hinsawdd a safonau amddiffyniadau cymdeithasol, ac yn arbennig cymal nad yw’n atchweliad ar safonau amgylcheddol a safonau llafur domestig.
  • Cytundeb gwasanaethau digidol.
  • Cydweithredu ar feysydd economaidd-gymdeithasol eraill gan gynnwys cludiant gyda chytundeb ar hedfanaeth, cludiant ar y ffyrdd, rheilffyrdd, diogelwch y môr.
  • Gallu’r DU i geisio polisi masnach annibynnol y tu allan i’r UE lle gallai osod ei thariffau ei hun ond y byddai’r llyfr rheolau cyffredin yn cyfyngu arno o ran pryd y gallai ganiatáu safonau gwahanol i’r UE o ran cynnyrch.

Y Bartneriaeth Ddiogelwch

Mae’r Papur Gwyn yn nodi cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth ddiogelwch newydd â’r UE. Byddai hyn yn cynnwys y DU yn cymryd rhan mewn rhai o asiantaethau diogelwch cyfredol yr UE ond ar delerau gwahanol; mynediad at systemau diogelwch allweddol, cydweithio parhaus ar amddiffyn, gan gynnwys ym maes ymchwil a datblygu, cytundebau ar estraddodi, parhau i gymryd rhan yn y Rhaglen Lloeren Galileo a chydweithredu mewn meysydd fel diogelwch iechyd. Yn benodol, mae’n awgrymu perthynas barhaus ag asiantaethau iechyd yr UE, fel Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, a’r gallu i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu hyfforddiant Microbioleg Iechyd.

Cydsyniadau cydweithredol

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig ‘cydsyniadau cydweithredol’ mewn pum maes allweddol:

  • Gwyddoniaeth ac arloesedd;
  • Diwylliant ac addysg;
  • Cymorth rhyngwladol a datblygiad;
  • Ymchwil amddiffyn a gallu amddiffyn; a’r
  • Gofod

O ran y cytundebau cydweithredol ar wyddoniaeth ac arloesedd, a diwylliant ac addysg, dywed y byddai’r rhain yn ceisio cynnwys mynediad at rai o raglenni cyllido presennol yr UE fel Horizon, Erasmus+ ac Ewrop Greadigol yn ogystal â chytundebau ar gyfranogiad y DU mewn rhwydweithiau a fforymau’r UE.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cytuno ar ddull ar gyfer trafodaethau blynyddol ar gyfleoedd pysgota rhwng y DU a’r UE a fyddai’n nodi trefniadau ar gyfer mynediad cyfatebol i ddyfroedd y naill a’r llall. Mae’r Papur Gwyn yn datgan y bydd yn parhau i weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar y cynigion hyn.

Llywodraethu a Threfniadau Sefydliadol

Mae’r Papur Gwyn yn datgan, er mwyn i berthynas mor agos a manwl â hyn weithio yn y dyfodol, bydd angen trefniadau sefydliadol newydd. Mae’n awgrymu y gallai’r berthynas gyffredinol ar gyfer y cytundeb fod yn gytundeb cysylltiedig. Mae gan yr UE nifer o’r rhain eisoes ar waith gyda gwledydd trydydd parti. Bydd yr ail flog yn y gyfres hon yn edrych yn fwy manwl ar y rhain a sut maent yn gweithio. Mae’r Papur yn cynnig sefydlu corff llywodraethu newydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig i reoli’r berthynas yn y dyfodol. Byddai hwn yn fforwm i weinidogion ac arweinwyr gyfarfod bob dwy flynedd.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi y byddai Llywodraeth y DU yn cynrychioli’r DU gyfan ar y corff hwn ond yn ystyried barn y llywodraethau datganoledig.

Byddai Cyd-bwyllgor a fyddai’n cynnwys swyddogion y DU a’r UE yn cwrdd yn amlach ac yn trafod materion manwl ynghylch gweithredu’r berthynas, ac yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau ynglŷn â’i gweithredu yn anffurfiol. Byddai nifer o is-bwyllgorau technegol hefyd yn cael eu sefydlu. Pan na ellir datrys anghydfodau mewn Cyd-bwyllgorau, mae’r Papur Gwyn yn cynnig system ar gyfer cymrodeddu annibynnol. Bydd gennym flog yn y dyfodol yn edrych yn fwy manwl ar y trefniadau llywodraethu hyn.

Rôl Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig

Dywed y Papur Gwyn, er y byddai’r DU yn ymrwymo o flaen llaw i lyfr rheolau cyffredin, y gallai Senedd y DU benderfynu ynghylch sut y gweithredir rheolau cyffredin yng nghyfraith y DU a dewis peidio â gweithredu deddfau newydd. Wrth ddewis peidio â mabwysiadu rheolau cyffredin newydd, byddai Senedd y DU yn derbyn y byddai hyn yn cael effaith ganlyniadol ar fynediad y DU at farchnad yr UE. Mae Pennod 4 y papur yn nodi dull arfaethedig ar gyfer cynnwys Senedd y DU.

O ran y deddfwrfeydd datganoledig, mae’r Papur yn nodi y bydd rhai newidiadau i reolau cyffredin mewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Yn y meysydd hyn, dywed y bydd rôl ar gyfer llywodraethau a deddfwrfeydd datganoledig ac y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ‘prosesau yn cael eu rhoi ar waith sy’n adlewyrchu’r setliad datganoli’ ac yr adlewyrchir newidiadau i reolau cyffredin yn y gyfraith ar draws y Deyrnas Unedig. Nid yw’r Papur yn nodi a fydd, na sut y bydd, yn ymgynghori â’r deddfwrfeydd datganoledig eu hunain ynglŷn â’r prosesau hyn.

Materion allweddol i Gymru

Er y bydd pob elfen o’r berthynas â’r UE yn y dyfodol yn effeithio ar ddinasyddion ac economi Cymru, mae rhai o’r cwestiynau allweddol y mae’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn debygol o’u gofyn ynghylch cynigion y Papur Gwyn yn cynnwys:

  • A fydd y cynigion ar gyfer y bartneriaeth economaidd yn osgoi ffin galed ym Môr Iwerddon ac felly’n osgoi effeithiau ar borthladdoedd Cymru?
  • Sut y bydd y Trefniad Tollau Hwylusedig arfaethedig yn gweithio’n ymarferol, a pha effaith y gallai hwn ei chael ar borthladdoedd, meysydd awyr a chludwyr ffyrdd Cymru?
  • A fydd y bartneriaeth economaidd newydd yn caniatáu mynediad parhaus ar gyfer ffermwyr a physgotwyr Cymru i farchnad yr UE?
  • Pa rôl fydd gan y llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig wrth lunio a gwneud penderfyniadau am y llyfr rheolau cyffredin?
  • Pe bai Senedd y DU yn dewis peidio â mabwysiadu rheolau cyffredin newydd, ond bod Cymru a/neu yr Alban yn dewis gwneud hynny, beth fyddai goblygiadau hyn yn ymarferol?
  • Beth fydd goblygiadau’r cynigion ar ddiogelwch iechyd, trefniadau cyfatebol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodaeth o’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd i’r GIG i Gymru?
  • Beth fydd effaith y cynigion o ran cydsynio cydweithredol ym maes ymchwil ac addysg, a symudedd ieuenctid a myfyrwyr ar brifysgolion a myfyrwyr Cymru?

Byddwn yn edrych yn fanylach ar rai o’r cwestiynau hyn, ac eraill, yng ngweddill y gyfres hon o flogiau ar y Papur Gwyn a’i gynigion ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.


Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru