Delwedd O'r Dwylo yn ymestyn Allan I Helpu Ei gilydd

Delwedd O'r Dwylo yn ymestyn Allan I Helpu Ei gilydd

Taflen wybodaeth etholaeth: Cymorth iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 08/02/2022   |   Amser darllen munudau

Bwriad yr erthygl hon yw cynnig help llaw i Aelodau o’r Senedd a'u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch iechyd meddwl, a chyfeirio pobl at ffynonellau cymorth perthnasol.

Adnoddau ar gyfer ASau/staff cymorth

Gwybodaeth ac adnoddau i etholwyr

Fel arfer, fe fydd pobl yn cysylltu â’u meddyg teulu yn y lle cyntaf pan yn ceisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl. Gall meddygon teulu gynnig asesiad cychwynnol ac, mewn rhai achosion, darparu'r gefnogaeth angenrheidiol. Gallai hynny gynnwys cyngor ar hunanofal a newidiadau mewn ffordd o fyw i wella lles meddyliol, neu roi presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth ochr yn ochr ag atgyfeiriad am gymorth cwnsela.

Lle mae angen cymorth mwy arbenigol, gall meddyg teulu gyfeirio'r claf at wasanaeth iechyd meddwl priodol i gael asesiad/triniaeth mwy manwl. Gallai hynny fod, er enghraifft, yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, yn dîm iechyd meddwl cymunedol, neu'n dîm argyfwng, gan ddibynnu ar lefel angen y claf.

Dylai cleifion gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol cyn pen 28 diwrnod (dylid gweld cleifion sydd wedi’u hatgyfeirio ar frys o fewn 48 awr, ac wedi’u hatgyfeirio mewn argyfwng o fewn pedair awr).

Gellir cael gafael ar rai gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yn uniongyrchol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall. Er enghraifft:

  • Mae SilverCloud yn rhaglen ar-lein sy'n seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Bwriedir iddi fod ar gyfer pobl 16 oed a hŷn â lefelau ysgafn i gymedrol o iselder, gorbryder neu straen.
  • Mae Bywyd ACTif yn gwrs hunangymorth ar-lein, sy'n rhannu ffyrdd ymarferol o ddelio â meddyliau a theimladau trallodus.
  • Mae Monitro Gweithredol Cymru yn wasanaeth hunangymorth dan arweiniad i oedolion a ddarperir gan Mind. Gall helpu gyda materion gan gynnwys pryder ac iselder.

Efallai y bydd gwahanol wasanaethau ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae pob bwrdd iechyd yn darparu gwybodaeth am gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yn ei ardal; gall y gwefannau canlynol fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer cyfeirio etholwyr at wasanaethau lleol yn ogystal a adnoddau hunangymorth:

Llinellau cymorth a rhagor o gefnogaeth

Cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys ar gyfer meddyliau hunanladdol

Mae Llinell gymorth iechyd meddwl C.A.L.L. ar gyfer Cymru yn darparu iechyd meddwl a chefnogaeth emosiynol, ac yn cyfeirio at wasanaethau lleol. Rhadffôn 0800 132 737, neu tecstiwch ‘help’ i 81066.

Mae gan Mind ddwy o linellau cymorth – mae Infoline yn wasanaeth gwybodaeth a chyfeirio; mae llinell gyfreithiol Mind yn darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar gyfraith sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae Local Minds yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr (chwiliwch amdanynt gan ddefnyddio cod post neu fap). Infoline: 0300 123 3393, Llinell Gyfreithiol: 0300 466 6463.

Mae Cymorth Iechyd Meddwl BAME (BMHS) yn darparu ystod o wasanaethau sydd wedi'u hanelu'n benodol at gefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig. Mae llinell gymorth y sefydliad ar gael bob dydd rhwng hanner dydd a 23:00: 0800 144 8824.

Mae Hafal yn darparu ystod o wasanaethau ledled Cymru. Mae’r elusen yn canolbwyntio’n arbennig ar gefnogi pobl sydd â salwch meddwl difrifol a'u gofalwyr. Ffôn: 01792 816 600/832 400.

Mae'r Samariaid yn arbennig o brofiadol mewn cefnogi pobl sy’n meddwl am hunanladdiad, neu’n cymryd camau ar sail hunanladdiad. Mae llinell gymorth 24/7 a gwasanaeth e-bost ar gael. Mae llinell gymorth Cymraeg ar gael hefyd. Ffoniwch 116 123 i siarad â rhywun yn Saesneg. Rhif ffôn y llinell Gymraeg yw 0808 164 0123.

Mae Shout 85258 yn wasanaeth cymorth negeseuon testun cyfrinachol 24/7, rhad ac am ddim i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Tecstiwch 'SHOUT' i 85258.

Mae’r wefan stayingsafe.net, a ddatblygwyd gan y corff  ‘4 Mental Health’, yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd dygymod â theimladau ei bod ar ben arnynt, i greu ‘cynllun diogelwch’.

Mae wellbeingandcoping.net yn darparu syniadau ymarferol er mwyn tawelu meddyliau pobl a helpu iddynt ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi. Mae’r adnodd hwn yn cynnwys fersiwn y gellir ei lawrlwytho a’i hargraffu fel y gellir ei rhoi i bobl nad oes ganddynt fynediad ar-lein.

Mae Hub of hope yn gronfa ddata iechyd meddwl genedlaethol sy'n dwyn ynghyd ffynonellau cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl. Gallwch ddod o hyd i wasanaethau lleol perthnasol trwy roi cod post.

Plant a phobl ifanc

Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc (11 i 25 oed) â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, ac adnoddau eraill i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Meic is a helpline service for children and young people up to the age of 25. Online chat, freephone and text services are provided. Freephone 080880 23456, or text 84001.

Mae Papyrus yn elusen atal hunanladdiad sy'n darparu cefnogaeth i bobl ifanc hyd at 35 oed trwy linell gymorth genedlaethol HOPELINEUK (mae hyn yn cynnwys gwasanaethau tecstio ac e-bost). Ffoniwch 0800 068 41 41, neu tecstiwch 07860 039967.

Mae gwasanaeth anfon negeseuon mewn argyfwng YoungMinds yn wasanaeth cymorth testun 24/7 yn rhad ac am ddim i bobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Tecstiwch YM i 85258.

At hynny, mae YoungMinds yn cynnig llinell gymorth i rieni, gwasanaeth e-bost a gwe-sgwrs ar gyfer rhieni / gofalwyr sy'n poeni am iechyd meddwl eu plentyn (hyd at 25 oed). Ffoniwch 0808 802 5544.

Mae canllaw Ymddiriedolaeth Charlie Waller, sef Ymdopi â hunan-niweidio: Canllaw i rieni a gofalwyr yn darparu gwybodaeth am hunan-niweidio a sut i gefnogi person ifanc.

Mae gan Papyrus ganllaw hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n pryderu y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad neu hunan-niweidio – Cynorthwyo’ch plentyn: Hunan-niweidio a hunanladdiad.

Pobl hŷn

Gall Age Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch lles meddyliol a materion fel unigrwydd. Ffoniwch llinell gyngor Age Cymru Advice ar 0300 303 44 98.

Anhwylderau bwyta

Mae elusen Beat eating disorders yn darparu gwasanaethau cymorth i oedolion a phobl ifanc gan gynnwys llinellau cymorth, cefnogaeth e-bost a gwasanaeth gwe-sgyrsiau. Llinell gymorth: 0808 801 0677, Llinell i fyfyrwyr: 0808 801 0811, Llinell i bobl ifanc: 0808 801 0711. 

Cymunedau gwledig/ffermio

Mae Sefydliad DPJ yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant iechyd meddwl i bobl yn y sector amaethyddol. Ffoniwch 0800 068 41 41, neu tecstiwch 07860 039967.

Mae Tir Dewi yn gweithredu gwasanaeth gwrando a chyfeirio ar gyfer y gymuned ffermio. Ffôn: 0800 121 4722.

Cyn-filwyr

Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn wasanaeth arbenigol y GIG sy’n cyflawni blaenoriaethau ar gyfer cyn-filwyr y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt yng Nghymru. Gall cyn-filwyr hunan-gyfeirio at y gwasanaeth.

Mae’r elusen iechyd meddwl i gyn-filwyr, Combat Stress yn darparu llinell gymorth 24 awr, cefnogaeth ar-lein ac ystod o wasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr. Llinell gymorth: 0800 138 1619.

Cefnogaeth ar ôl marwolaeth, gan gynnwys hunanladdiad

Mae Cruse Bereavement Care yn cynnig ystod o gefnogaeth i bobl ar ôl i rywun agos iddynt farw. Llinell gymorth: 0808 808 1677.

Mae Cymorth wrth Law Cymru yn adnodd i bobl sydd mewn profedigaeth yn dilyn hunanladdiad, neu farwolaeth anesboniadwy arall. Mae'n darparu cyngor ymarferol ac yn rhestru ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth.

Ffynonellau pellach o wybodaeth a chyngor:

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cefnogaeth ar gyfer llawer o'r problemau a all gyfrannu at afiechyd meddwl, gan gynnwys, er enghraifft, materion yn ymwneud â thai, cyflogaeth a dyled. Mae cefnogaeth ar-lein ar gael, a gallwch hefyd ddod o hyd i'ch gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol trwy roi eich cod post ar y wefan (sylwer: efallai na fydd gwasanaethau lleol yn darparu cyngor wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig). Llinell ffôn genedlaethol: 0800 702 2020.  


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru