TBC

TBC

Sut y bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn effeithio ar bobl anabl a phobl hŷn?

Cyhoeddwyd 21/10/2024   |   Amser darllen munud

Bu ein herthygl flaenorol yn edrych ar sut y bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Mae'r erthygl hon yn edrych ar ei effaith ar bobl anabl a phobl hŷn.

Bydd Rhan 2 o'r Bil yn cyflwyno'r opsiwn o daliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus (GIP) y GIG, gyda'r nod o wella llais a rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae’r erthygl hon yn archwilio rhai o’r themâu allweddol o’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod cam cyntaf proses ddeddfwriaethol y Senedd.

Beth mae'r cyfan yn ei olygu?

Mae taliadau uniongyrchol yn caniatáu i bobl dderbyn taliadau arian parod i brynu eu gwasanaethau gofal a chymorth eu hunain yn uniongyrchol, er enghraifft, gallant gyflogi Cynorthwyydd Personol (PA) neu weithiwr gofal o'u dewis.

Mae Gofal Iechyd Parhaus (GIP) yn becyn cyflawn o ofal parhaus, wedi'i drefnu a'i ariannu’n llwyr gan y GIG, lle’r aseswyd mai angen iechyd oedd prif angen yr oedolyn. Ni chaniateir taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus ar hyn o bryd, sy'n golygu bod rhaid i bobl sy'n defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal cymdeithasol roi’r gorau i wneud hynny os byddant yn dod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus. Byddai’r Bil yn newid hyn, gyda’r nod o wella’r rhyngwyneb rhwng y ddwy system.

Roedd y dystiolaeth a gasglwyd gan y Comisiwn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yn dangos cefnogaeth eang i egwyddorion cyffredinol Rhan 2 y Bil, gyda chonsensws bod taliadau uniongyrchol yn opsiwn gwerthfawr sy’n rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu gofal. Dywedodd Anabledd Cymru fod pobl anabl wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers blynyddoedd lawer, gan fod taliadau uniongyrchol yn caniatáu lefel o hyblygrwydd nad yw ar gael o dan systemau eraill.

Fodd bynnag, roedd nifer o bryderon ynghylch sut y byddai'r gyfraith newydd hon yn gweithio yn ymarferol.

Cafodd y newid ei groesawu gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MND) ond yn ôl y Gymdeithas, er mwyn i'r newid hwn fod yn effeithiol, byddai’n rhaid iddo ddod gyda chefnogaeth a chyfeirio digonol, cynllun clir i fynd i'r afael â'r materion o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol ac adolygiad o lefel y taliadau uniongyrchol.

Pwysleisiodd CLlLC ac ADSS Cymru ei bod yn hanfodol bod y newid hwn yn cyflwyno gwelliant sylweddol yn y ffordd mae Gofal Iechyd Parhaus yn gweithio yn ymarferol.

Bydd prinder staff yn rhwystr

Mae'n amlwg bod y materion a godwyd yn ein herthyglau blaenorol ar 'weithlu mewn argyfwng' ym maes gofal cymdeithasol a'i effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty yn parhau i fod yn bryderon sylweddol heddiw.

Clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) gan lawer y bydd prinder staff mewn gofal cymdeithasol (yn enwedig gofal cartref) yn achosi rhwystr mawr i roi’r gyfraith hon ar waith. Dywedodd Anabledd Dysgu Cymru fod prinder staff gofal yn broblem enfawr sy’n cael ei hanwybyddu.

Dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn y “bydd diffyg mynediad at ofal cartref addas yn ei gwneud yn anodd i’r Bil gyrraedd ei nodau yn ymarferol”. Rhoddodd enghreifftiau o achosion diweddar a gysylltodd â’i thîm:

  • Roedd dyn 94 oed, a oedd yn byw gyda dementia ac yn gaeth i’w wely, wedi bod yn yr ysbyty am chwe mis yn hirach na'r angen am fod y darparwr gofal cartref wedi tynnu ei becyn gofal yn ôl ac am nad oedd yr awdurdod lleol wedi gallu dod o hyd i ddarpariaeth yn ei le.
  • Roedd person wedi cael gwybod y byddai’n rhaid i’w fam, a oedd yn byw gartref, gael ei rhoi mewn gofal estynedig brys heb ddyddiad gorffen penodol, nid oherwydd bod angen iddi fod mewn cartref gofal ond oherwydd nad oedd gofal cartref ar gael.
  • Roedd mam rhywun arall wedi mynd i gartref gofal am bedair wythnos i gael seibiant dros dro, ond roedd wedi gorfod aros yno am gyfnod amhenodol oherwydd nad oedd darparwr gofal cartref ar gael i'w galluogi i ddychwelyd adref.

Yn ôl y Gymdeithas Gofal Cartref, bydd y Bil yn cynyddu'r galw am gynorthwywyr personol a bydd perygl y gallai hyn arwain at ddadleoli'r farchnad lafur, gyda gweithwyr gofal cymdeithasol yn symud i weithio fel cynorthwywyr personol, gan leihau'r gronfa (sydd eisoes yn brin) o bobl sy'n barod i fod yn weithwyr gofal cofrestredig. Dywedodd fod hyn wedi digwydd yn Lloegr pan gyflwynwyd y newid yno.

Mae Cynorthwywyr Personol “mor brin ag aur”

Dywedodd pobl anabl a rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor fod pobl ar hyn o bryd yn ei chael hi'n anodd recriwtio a chadw Cynorthwywyr Personol, yn bennaf oherwydd cyfraddau cyflog isel. Cafwyd apêl gan Shahd Zorob (un o'r bobl anabl a roddodd dystiolaeth lafar), a ddywedodd fod angen gwneud rhywbeth ar frys gan nad oedd yn gallu recriwtio unrhyw un ar y gyfradd gyflog bresennol.

Dywedodd cynrychiolwyr y bwrdd iechyd fod cynorthwywyr personol mor “brin ag aur”, a dywedodd nad oeddent yn argyhoeddedig bod y gweithlu yno i ateb y galw, yn enwedig ar gyfer y don/genhedlaeth nesaf o ddefnyddwyr gwasanaethau.

Nododd y Pwyllgor fod recriwtio a chadw cynorthwywyr personol yn broblem ymarferol go iawn i lawer o bobl, a gwnaeth argymhelliad penodol am hyn.

Canlyniadau diffyg gwasanaethau gofal

Pwysleisiodd rhanddeiliaid fod rhaid i daliadau uniongyrchol fod yn ddewis bob amser ac na ddylent fod yn ddewis olaf os na fydd gwasanaethau ar gael. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor fod hyn yn digwydd yn barod.

Tynnodd Gofalwyr Cymru sylw at sefyllfaoedd lle mae rhywun wedi cael ei asesu fel rhywun sydd ag angen cymwys, ond nad oes gweithwyr gofal i ddiwallu'r angen hwnnw, ac y cynigir taliadau uniongyrchol felly, gan ddisgwyl i ddefnyddwyr gwasanaethau ddod o hyd i rywun i ddarparu gofal, nad yw’n bodoli i bob pwrpas.

Dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn fod awdurdodau lleol weithiau’n cynnig taliadau uniongyrchol fel dewis olaf, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle mae problemau penodol ynghylch argaeledd gofal cartref.

Cyfaddefodd ADSS Cymru:

PAs are stepping in to fill a really important gap, as well as offering a wider choice and individual support. But, in some areas it has been the only way somebody in a rural area could get the support they needed, because there wasn't a homecare provider available.

Amharodrwydd i fentro i dir anghyfarwydd taliadau uniongyrchol Gofal Iechyd Parhaus

Clywodd y Pwyllgor gan bobl anabl a rhanddeiliaid a ddywedodd y gallai pobl fod yn amharod i dderbyn asesiad Gofal Iechyd Parhaus ac i fanteisio ar y cyfle i gael gofal iechyd parhaus oni bai bod rhwyd ddiogelwch ar ffurf ‘hawl i ddychwelyd’ i daliadau uniongyrchol awdurdodau lleol ar gael, pe baent yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny.

Dywedodd Gofalwyr Cymru wrth y Pwyllgor:

I don't think we can underestimate, actually, the reluctance and, in some cases, fear people might have from changing their care package and potentially taking up continuing healthcare, even with direct payments. […] Unfortunately, we're not in a system where people are confident and optimistic about changing their care package and moving to a different provider, with that level of upheaval.

Fodd bynnag, dywed Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol nad yw 'hawl i ddychwelyd' o'r fath yn gyfreithiol bosibl. Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn gresynu bod hyn yn wir a phwysleisiodd fod y mater hwn yn peri pryder mawr i rai defnyddwyr gwasanaethau.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r Bil gael ei ddiwygio i gynnwys 'hawl i wybodaeth, cyngor a chymorth' i unigolion sy'n ceisio derbyn taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus. Mae'n gobeithio y byddai'r hawl hon yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at liniaru’r ofn i fentro i dir anghyfarwydd gyda Gofal Iechyd Parhaus.. Mae'r Pwyllgor hefyd yn galw am ganllawiau i gynnwys gwybodaeth am y pontio rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus y GIG, ac i hyrwyddo parhad gofal i unigolion sy'n symud rhwng y ddwy system.

Problemau presennol gyda Gofal Iechyd Parhaus

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am yr anghydfodau hir a all godi rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch Gofal Iechyd Parhaus a phwy ddylai dalu am y gofal. Dywed awdurdodau lleol fod y bar cymhwystra ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus wedi codi dros amser, sy’n golygu bod llai a llai o bobl yn cael mynediad. Credant fod angen adolygu holl broses Gofal Iechyd Parhaus ar fyrder.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS, fod disgwyl i'r adolygiad nesaf o’r Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus gael ei gynnal yn 2026/27, a fyddai'n gyfle i ystyried ymgorffori canllawiau neu eglurhad ychwanegol ynghylch cymhwystra ar ei gyfer.

Beth nesaf?

Mae cefnogaeth eang gan lawer i'r egwyddorion sydd wrth wraidd y Bil hwn – ar gyfer plant ac oedolion, ond ansicrwydd mawr ynghylch a fydd yn cael yr effaith a ddymunir yn ymarferol.

Ar 22 Hydref, bydd y Senedd yn penderfynu a yw’r Bil hwn yn symud gam yn nes at gael ei wireddu.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru