Safon Uwch 2023: Sut wnaeth Cymru?

Cyhoeddwyd 17/08/2023   |   Amser darllen munudau

Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yng Nghymru yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Dyma’r ail flwyddyn i ddysgwyr sefyll arholiadau wedi’u marcio’n allanol ers eu canslo yn 2020 a 2021 oherwydd COVID-19.

Yn gyffredinol, mae'r canlyniadau'n is na'r llynedd, ond yn dal yn uwch na 2019, cyn y pandemig. Yn yr erthygl hon cewch gip ar y canlyniadau yn fwy manwl, a dod i ddeall beth sydd wedi digwydd gydag arholiadau Safon Uwch yn y blynyddoedd blaenorol.

Canlyniadau haf 2023

Mae’r data yn y tabl isod yn dangos canlyniadau 2023 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys yr wyth prif ddarparwr cymwysterau yn y DU). Mae'r data yn rhai dros dro, ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Mae'n amodol ar wirio cyn cyhoeddi data terfynol ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol ac ysgol. Mae'r data'n cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed. Darperir gwybodaeth hefyd am flynyddoedd blaenorol.

At hynny, mae Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl ar y canlyniadau.

Canran y cofrestriadau a gafodd Safon Uwch TAG yn ôl gradd, 2023 (dros dro)

 

Nifer y cofrestriadau

A*

A*-A

A*-C

A*-E

2023

32,960

13.5

34.0

78.9

97.5

2022

35,499

17.1

40.9

85.3

98.0

2021

35,867

21.3

48.3

89.2

99.1

2019

32,320

8.9

26.5

76.3

97.6

 

Ffynhonnell: Y Cyd-gyngor Cymwysterau, A Level Results Summer 2023

Eleni:

  • Mae’r gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer bechgyn a merched yn weddol debyg, cafodd 96.8% o fechgyn raddau A* – E, o gymharu â 98.0% gan ferched.
  • Cafodd 13.9% o fechgyn radd A* o gymharu â 13.3% o ferched.
  • Cafodd 35.0% o ferched raddau A* – A o gymharu â 32.6% o fechgyn.

Fodd bynnag, ni ellir cymharu canlyniadau eleni yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol.

Yn Lloegr, canran y dysgwyr a gafodd radd A* oedd 8.6%, sy’n agosach at ganlyniadau 2019 (7.7%), yn 2022 y canlyniad oedd 14.5%. Canran y dysgwyr a gafodd raddau A* – C eleni oedd 75.4%, eto mae hyn yn nes at ganlyniadau 2019 (75.5%), yn 2022 roedd y ganran yn 82.1%. Mae'r dull graddio yn Lloegr yn wahanol i'r un yng Nghymru, ac felly dylid trin y cymariaethau yn ofalus. Rhoddir esboniad o'r gwahanol ddulliau gweithredu isod.

A yw COVID-19 yn dal i effeithio ar arholiadau?

Yn sgil tarfu ar ddysgu a achoswyd gan y pandemig, addaswyd arholiadau Safon Uwch y llynedd. Roedd hyn yn golygu llai o gynnwys asesu neu gwestiynau dewisol ar gyfer rhai cymwysterau. Eleni, nid oedd unrhyw addasiadau o'r fath. Fodd bynnag, i gydnabod gwaddol tarfu ar eu haddysg, rhoddwyd gwybodaeth ymlaen llaw i’r dysgwyr ar rai o'r pynciau, themâu, testunau a chynnwys arall y gellid ei ddisgwyl yn yr arholiadau.

Darparwyd gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer Safon Uwch, TGAU a chymwysterau galwedigaethol. Nid oedd hyn yn bosibl ar gyfer Tystysgrifau Her Sgiliau, ac yn lle hynny parhaodd llawer o'r addasiadau blaenorol ar gyfer y cymwysterau hyn.

Er bod trefniadau addysgu yn 2020 a 2021 yn golygu nad oedd unrhyw arholiadau, roedd dysgwyr yn dal i gael canlyniadau. Roedd y graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr yn y blynyddoedd hynny yn llawer uwch na’r graddau yn 2019. Er enghraifft, mewn Safon Uwch, yn 2019, cafodd 9% o ddysgwyr radd A* ond yn 2021, cyflawnodd 21% o ddysgwyr y radd honno. Gallwch weld y gwahaniaethau yn ein herthygl ymchwil ar ganlyniadau arholiadau 2021.

Mae ein herthygl ar ganlyniadau Safon Uwch y llynedd yn esbonio, yn gyffredinol, lle mae carfan o ddysgwyr yn debyg (o ran perfformiad yn y gorffennol) i flynyddoedd blaenorol, mae cyfran gyffredinol y dysgwyr sy’n cyflawni pob gradd hefyd yn debyg i flynyddoedd blaenorol. Nod hyn yw sicrhau bod yr holl ddisgyblion, ddoe a heddiw, yn cael eu trin yn deg.

Trefniadau pontio

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai 2022 yn 'flwyddyn bontio' o'r graddau uwch na'r arfer, gyda chanlyniadau'n adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019. Roedd hyn yn golygu bod graddau’n fwy ffafriol i ddysgwyr nag yn 2019, ond yn llai ffafriol na’r ddwy flynedd flaenorol. Yn 2022, cafodd 17% o ddysgwyr radd A*. Roedd y dull hwn yn debyg i'r sefyllfa yn Lloegr. Ar y pryd, dywedodd Cymwysterau Cymru, erbyn 2023 y byddai dychweliad i broses – a chanlyniadau – yn unol ag arholiadau 2019.

Fodd bynnag, ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru mai diben y dull graddio ar gyfer 2023 oedd sicrhau canlyniadau arholiadau a fyddai’n disgyn, yn fras, hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022. Bwriad hyn oedd ystyried yr amhariad ar addysg sy'n gysylltiedig â'r pandemig ac osgoi “sefyllfa ddyrys” o unioni yn ôl i safonau 2019. Mae bellach yn bwriadu i'r holl ganlyniadau ddychwelyd yn 2024 i’r safonau cyn y pandemig.

Beth sy’n digwydd yn Lloegr?

Mae ymagwedd wahanol wedi'i mabwysiadu yn Lloegr lle bu dychweliad yn 2023 i’r un graddio â chyn y pandemig. Mae dysgwyr a safodd arholiadau eleni yn cael eu hamddiffyn os yw perfformiad arholiad y dysgwr ychydig yn is na chyn y pandemig. Yn fras, byddai myfyriwr nodweddiadol a fyddai wedi ennill gradd A mewn pwnc Safon Uwch cyn y pandemig yr un mor debygol o gael A eleni, hyd yn oed os yw ei berfformiad yn yr asesiadau ychydig yn wannach yn 2023 nag y byddai wedi bod cyn y pandemig. Mae hwn yn fath tebyg o amddiffyniad a ddefnyddir pan gyflwynir cymwysterau newydd. Mae’r canlyniadau disgwyliedig yn Lloegr yn llawer agosach at y canlyniadau cyn y pandemig, ac felly’n is nag yn 2022.

Gwnaeth Cymwysterau Cymru ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Hydref 2022, gan nodi’r rhesymau pam fod ganddynt ymagwedd wahanol i Ofqual yn Lloegr eleni. Wrth ddod i’w benderfyniad, cydnabu Cymwysterau Cymru effaith barhaus yr amharu ar addysg oherwydd y pandemig. Fe ddwedon nhw hefyd “y byddai unioni llawn i safonau cyn y pandemig yn 2023 yn cyflwyno sefyllfa ddyrys”.

Diwrnod canlyniadau TGAU wythnos nesaf

Gyda dysgwyr wedi cael eu graddau, erbyn hyn, bydd eu meddyliau’n troi at yr hyn ddaw nesaf. Bydd mwy o ganlyniadau wythnos nesaf hefyd, gyda'r dysgwyr yn cael eu canlyniadau TGAU. Byddwn yn cyhoeddi erthygl ar y canlyniadau TGAU wythnos nesaf.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru