Mae pwysau costau byw yn taro aelwydydd ledled Cymru, gyda’r cynnydd mewn prisiau yn effeithio ar lawer o bobl, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig.
Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn aml yn profi costau dyddiol uwch na'r rhai mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai gwledig. Mae'r erthygl hon yn amlinellu beth sy'n cyfrannu at y costau ychwanegol hyn a sut mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.
Prisiau ynni’n codi
Prisiau ynni’n codi yw un o'r prif bethau sy'n ychwanegu pwysau at gostau byw ar hyn o bryd. Mae hyn yn effeithio'n arbennig ar bobl mewn cymunedau gwledig gan eu bod yn aml yn wynebu costau ynni ychwanegol.
Yn 2020, nid oedd 19% o eiddo domestig yng Nghymru wedi'u cysylltu â'r grid nwy. Dengys Ffigur 1 fod y ganran uchaf o aelwydydd nad ydynt ar y grid i’w cael ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, lle mae llawer o gymunedau gwledig. Nid yw bron i 75% o eiddo yng Ngheredigion wedi'u cysylltu â'r grid, ac mae hynny’n wir am dros hanner yr holl eiddo ym Mhowys ac Ynys Môn.
Ffigur 1: Amcangyfrif o nifer a chyfran yr eiddo nad ydynt ar y grid nwy yng Nghymru, fesul awdurdod lleol (2020)
Ffynhonnell: Llywodraeth y DU, amcangyfrifon is-genedlaethol o eiddo nad ydynt wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith nwy. Mae’r gwerthoedd yn cyfeirio at yr amcangyfrif o nifer yr eiddo domestig nad oes ganddynt fesurydd nwy, wedi'i dalgrynnu i'r 10 agosaf.
Yn aml, mae aelwydydd gwledig yn dibynnu ar danwydd fel olew neu Nwy Petrolewm Hylifedig (LPG). Canfu adroddiad tlodi tanwydd Archwilio Cymru yn 2019 bod bron i draean o aelwydydd gwledig Cymru yn defnyddio olew fel eu prif danwydd ar gyfer gwresogi. Mae olew ac LPG yn ddrutach na ffynonellau ynni wedi'u rhwydweithio megis nwy a thrydan, ac nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y cap ar brisiau gan Ofgem. Rhwng mis Mai 2020 a mis Mai 2022, cynyddodd pris cyfartalog olew gwresogi yn y DU bron i 250% o £299.63 i £1046 fesul 1000 litr.
Mae costau ynni uchel yn debygol o gael eu gwaethygu gan natur tai gwledig, sy'n aml yn hŷn, heb eu hinswleiddio cystal, ac maent yn llai effeithlon o ran ynni na thai trefol.
Mae Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys y cynllun Nyth, yn darparu cyllid i aelwydydd incwm isel ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni, gyda chapiau ariannol uwch ar gael i ôl-ffitio tai mewn ardaloedd gwledig nad ydynt ar y grid.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn creu cynllun effeithlonrwydd ynni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd gwledig, gan gynnwys ffyrdd o fynd i'r afael â rhai o'r heriau penodol sy’n codi mewn ardaloedd gwledig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb hyd yma i argymhellion y Pwyllgor
Beth sy'n cael ei wneud i gefnogi aelwydydd gwledig gyda’r cynnydd mewn costau ynni?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian ychwanegol i Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeafhttps://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf ar gyfer 2022-23. Dywedodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru yn "ystyried sut y gall y cynllun gyrraedd mwy o aelwydydd fel bod mwy o bobl yn cael y taliad o £200".
Gall aelwydydd nad ydynt ar y grid gael cymorth pellach drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol, gyda £250 yn cael ei gynnig i aelwydydd sy'n defnyddio olew a thri thaliad o £70 ar gyfer LPG. Mae National Energy Action Cymru yn pryderu nad yw gwerth y taliadau hyn yn diwallu'r angen presennol oherwydd cost gynyddol y tanwyddau hyn.
Ym mis Mehefin, lansiodd y Gweinidog gynllun talebau tanwydd gwerth £4 miliwn i helpu defnyddwyr mesuryddion talu ymlaen llaw ac aelwydydd nad ydynt ar y grid. Mae'r cynllun yn cynnwys 'Cronfa Wres', a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i helpu tua 2,000 o aelwydydd cymwys sy'n dibynnu ar wresogi olew a nwy hylif.
Costau eitemau hanfodol
O ran gwariant aelwydydd, mae pobl mewn ardaloedd gwledig fel arfer yn gwario mwy ar fwyd a hanfodion eraill na'r rhai mewn ardaloedd trefol. Tynnodd Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod aelwydydd gwledig cyffredin ar lefel Prydain Fawr yn gwario £641.10 yr wythnos ar hanfodion o'i gymharu â £572.90 ar gyfer yr aelwyd drefol gyffredin.
Mae aelwydydd gwledig yng Nghymru yn aml yn wynebu llai o ddewis wrth brynu eitemau hanfodol, gan y gall nwyddau mewn siopau lleol fod yn ddrutach ac mae’n aml yn fwy anodd cyrraedd archfarchnadoedd 'rhatach' gyda chostau trafnidiaeth yn uwch er mwyn eu cyrraedd. Mae chwyddiant yn debygol o ddwysáu'r costau ychwanegol hyn, gyda Chonsortiwm Manwerthu Prydain yn adrodd mai’r gyfradd chwyddiant ar gyfer bwyd ym mis Mehefin 2022 oedd 5.6%.
Cynnydd mewn costau mewnbynnau amaethyddol
Mae cynnydd mewn costau hefyd yn effeithio ar fusnesau ffermio. Roedd Canolfan Andersons yn amcangyfrif bod ‘Agflation’ y DU (chwyddiant yn gysylltiedig â chostau a phrisiau amaethyddol sy’n codi) yn 25.3% ym mis Mehefin. Yr eitemau sy'n wynebu'r cynnydd mwyaf o ran prisiau yw tanwydd, gwrtaith, a bwyd anifeiliaid.
Mae NFU Cymru yn pryderu bod costau cynhyrchu ychwanegol yn debygol o gael effaith ar incwm ffermio, gan ei bod yn anodd pasio'r costau uwch hyn drwy'r gadwyn gyflenwi. Mae rhai ffermwyr yn ceisio lleihau cynhyrchiant er mwyn gwneud iawn am y costau sy’n codi.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Undeb Amaethwyr Cymru at Gadeirydd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, yn tynnu sylw at fesur brys y Comisiwn Ewropeaidd i liniaru effeithiau'r rhyfel yn Wcráin ar gynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth yr UE. Cyhoeddwyd hyn ym mis Mai, sy'n caniatáu i Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) gael ei defnyddio i gynorthwyo ffermwyr a busnesau eraill y mae cynnydd sylweddol mewn costau mewnbwn wedi effeithio arnynt.
Er nad oes gan Gymru fynediad i'r cyllid hwnnw, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths AS, wrth Bwyllgor yr Economi ym mis Mehefin bod cadw Cynllun y Taliad Sylfaenol (taliadau uniongyrchol i ffermwyr) hyd at ddiwedd 2023 yn rhoi sefydlogrwydd sydd ei angen yn ddirffawr ar ffermwyr Cymru.
Trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig
Dywed Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru fod trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn anfynych, yn annigonol ac yn ddrutach nag mewn mannau eraill. Felly gall argaeledd cyfyngedig trafnidiaeth gyhoeddus arwain at fwy o ddefnydd o gerbydau preifat mewn ardaloedd gwledig i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, siopau hanfodol, yn ogystal â chyfleoedd cymdeithasol a hamdden.
Ar ddechrau mis Gorffennaf y pris cyfartalog am litr o betrol yn y DU oedd ychydig dros £1.91, a'r gost gyfartalog am litr o ddisel oedd £1.99. Yr un amser flwyddyn yn ôl, roedd prisiau tua £1.32 a £1.34 yn y drefn honno. Mae'r cynnydd hwn yn debygol o olygu costau ychwanegol i aelwydydd gwledig gan fod pris tanwydd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell yn tueddu i fod yn uwch nag ardaloedd nad ydynt yn wledig.
Pwysleisiodd adroddiad diweddar gan Sustrans Cymru bod tlodi trafnidiaeth yn effeithio fwyaf ar bobl sy'n byw yn ardaloedd gwledig Cymru. Dyma lle byddai angen i aelwyd wario mwy na 10% o'i hincwm ar gostau rhedeg car, p'un a oes gan yr aelwyd gar ai peidio.
Mae opsiynau i leihau costau cludiant, megis gweithio o bell neu ddefnyddio cerbyd trydan, yn fwy cyfyngedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'r seilwaith ategol ehangach yn achosi cyfyngiadau, gan gynnwys band eang ac argaeledd pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Ym mis Mawrth, gofynnodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi aelwydydd gwledig gyda’r cynnydd mewn prisiau trafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn faes heriol iawn a bod cludiant wedi galw am gymhorthdal eithriadol gan y llywodraeth oherwydd y pandemig.
Beth sydd nesaf?
Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi ymchwiliad i effaith economaidd a gwledig pwysau costau byw. Mae’r Pwyllgor wrthi’n llunio ei adroddiad ar y funud, a fydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Mewn sesiwn ddiweddar o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog a oedd yn ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau gwledig ac arfordirol, gofynnwyd i'r Prif Weinidog sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth. Ymhlith y mesurau y cyfeiriwyd atynt mae treialu "teithio sy'n ymateb i'r galw" a systemau llogi "arloesol". Tynnodd y Prif Weinidog sylw hefyd at y Bil Bysiau sydd ar y gweill a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, y mae disgwyl iddynt gael eu cyflwyno y flwyddyn nesaf.
Erthygl gan Isobel Pagendam, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru