Tyrbinau gwynt llonydd ar fachlud haul

Tyrbinau gwynt llonydd ar fachlud haul

Bil Seilwaith (Cymru): beth mae’n ei wneud a beth fydd yn digwydd nesaf?

Cyhoeddwyd 20/06/2023   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil Seilwaith (Cymru) gerbron y Senedd ar 12 Mehefin 2023.

Mae’r Bil yn diwygio’r ffordd caiff seilwaith ei gydsynio yng Nghymru drwy sefydlu proses unedig, o’r enw Cydsyniad Seilwaith, ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr o'r enw Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a nwy ar dir ac yn y môr o amgylch Cymru (a elwir yn ‘ardal forol Cymru’).

Mae Cydsyniad Seilwaith yn disodli cyfundrefnau statudol presennol ac yn lleihau nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu Prosiect Seilwaith Arwyddocaol drwy eu hymgorffori mewn un cydsyniad.

Mae rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect seilwaith mawr penodol, sef prosiectau ynni sy’n uwch na’r trothwyon datganoledig yn bennaf, wedi’i gadw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Wrth gyflwyno’r Bil, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James ei fod yn gam pwysig tuag at darged allyriadau ‘sero net’ 2050 Llywodraeth Cymru, a:

... sicrhau proses dryloyw a chyson sy'n galluogi cymunedau lleol i ddeall yn well y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a chwarae rhan ynddynt, gan hefyd roi sicrwydd wrth wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar bolisi clir.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd proses newydd yn lleihau costau ar gyfer datblygwyr, Awdurdodau Cynllunio Lleol ymgynghoreion statudol a’r Llywodraeth ei hun. Mae'n dweud nad oes modd mesur costau i gymunedau oherwydd bod cymunedau a’u hymatebion i brosiectau penodol yn amrywio.

Bu Aelodau o’r Senedd yn trafod eu syniadau cychwynnol ar y Bil ar 13 Mehefin 2023.

Dywed y cwmni eiddo Savills fod gan broses gydsynio unedig botensial i roi mantais gystadleuol i Gymru dros weinyddiaethau cyfagos.

Mae'r Bil yn dilyn ymgynghoriad yn 2018. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein herthygl flaenorol.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r egwyddor o gael proses gydsynio unedig, er bod llawer eisiau mwy o fanylion ar sut y byddai’n gweithio’n ymarferol. Dywedodd yr ymatebwyr fod yn rhaid i newidiadau sicrhau hyblygrwydd, rôl gryfach i gymunedau ac na ddylent fod yn rhy gymhleth nac yn gostus i ymgeiswyr.

Y camau nesaf

Mae’r Bil nawr yn cychwyn ar ei daith drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd. Bydd y Gweinidog yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 6 Gorffennaf 2023, cyn i’r Pwyllgor ymgynghori ar y Bil dros yr haf. Bydd gwaith craffu’r pwyllgor yn dechrau o ddifrif yn yr hydref.

Gallwch ddilyn y trafodion ar dudalennau gwe’r Pwyllgor a Senedd TV.

Crynodeb byr o’r Bil

Rhan 1 - Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol

Mae Rhan 1 o’r Bil yn diffinio beth yw Prosiect Seilwaith Arwyddocaol drwy restru mathau o seilwaith a throthwyon a meini prawf cymhwyso cysylltiedig. Mae Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol yn cynnwys:

  • Ynni
    • seilwaith trydan;
    • cyfleusterau nwy naturiol hylifedig;
    • cyfleusterau derbyn nwy;
    • hollti hydrolig am olew a nwy a nwyeiddio glo;
    • mwyngloddio glo brig;
  • Trafnidiaeth
    • priffyrdd;
    • rheilffyrdd;
    • cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd;
    • cyfleusterau harbwr;
    • meysydd awyr;
  • Dŵr
    • argaeau a chronfeydd dŵr;
    • trosglwyddo adnoddau dŵr;
    • gweithfeydd trin dŵr gwastraff;
    • cyfleusterau gwastraff peryglus;
    • cyfleusterau gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol.

Mae Rhan 1 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu, amrywio neu ddileu prosiectau i/o’r rhestr o Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol.

Rhan 2 - Gofyniad am gydsyniad seilwaith

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad sy'n Brosiect Seilwaith Arwyddocaol neu’n rhan o brosiect o’r fath.

Pan fo angen cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad, nid oes angen unrhyw gydsyniadau ac awdurdodiadau amrywiol eraill a fyddai eu hangen fel arall (e.e. caniatâd cynllunio) gan fod y cydsyniad seilwaith yn eu disodli.

Gall Gweinidogion Cymru hefyd nodi datblygiad na fyddai fel arall yn gymwys fel Prosiect Seilwaith Arwyddocaol, os ydynt o’r farn ei fod o arwyddocâd cenedlaethol.

Rhan 3 - Gwneud cais am gydsyniad seilwaith

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer:

  • sefydlu gweithdrefn cyn gwneud cais, gan gynnwys ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd;
  • sut y bydd cais am gydsyniad seilwaith yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru, gan gynnwys gofyniad i’r ymgeisydd ddarparu Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith drafft;
  • y gofynion ar gyfer cyhoeddusrwydd a hysbysu.

Mae Rhan 3 hefyd yn nodi gweithdrefnau sy’n ymwneud â chaffael tir yn orfodol fel rhan o gydsyniad seilwaith.

Rhan 4 - Archwilio ceisiadau

Mae Rhan 4 yn nodi’r prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer archwilio ceisiadau ar gyfer cydsyniad seilwaith.

Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi person neu banel, sy’n cael eu galw yn “awdurdod archwilio”, i archwilio pob cais. Hwn fydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Rhaid i’r awdurdod archwilio benderfynu ar y weithdrefn briodol ar gyfer archwilio’r cais. Gall hyn fod drwy ymchwiliad lleol, gwrandawiad neu’n ysgrifenedig.

Rhan 5 - Penderfynu ar geisiadau am Gydsyniad Seilwaith

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau ynghylch penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith. Mae’r rhain yn cynnwys nodi pwy yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn rhai amgylchiadau – Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio - yr amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau a beth sydd i’w wneud unwaith y gwneir penderfyniad. Rhaid hysbysu’r ymgeisydd o’r penderfyniad naill ai i wneud Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith, neu wrthod cydsyniad.

Rhan 6 - Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith

Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gofynion y gellir eu cynnwys mewn Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith ac a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i geisiadau a gweithdrefnau cydsynio ar wahân;
  • at ba ddiben y caniateir awdurdodi caffael yn orfodol;
  • diddymu hawliau tramwy;
  • pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill mewn tir;
  • gweithredu gorsafoedd cynhyrchu;
  • dargyfeirio cyrsiau dŵr;
  • codi tollau ar briffyrdd;
  • creu awdurdodau harbwr a phwerau cysylltiedig;
  • gollwng dŵr a awdurdodwyd gan y gorchymyn;
  • cydsyniad tybiedig o dan Drwydded Forol;
  • pŵer i gywiro gwallau mewn dogfennau penderfyniad;
  • pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith.

Mae’r rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer hyd Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith, heriau cyfreithiol a thir o dan falltod.

Rhan 7 - Gorfodi

Mae Rhan 7 yn ymwneud â gorfodi telerau Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith.

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n gyfrifol am orfodi ar dir. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i benodi personau at ddibenion gorfodi yn rhanbarth glannau Cymru.

Mae’r dulliau gorfodi yn cynnwys troseddau sy’n ymwneud â datblygiad heb gydsyniad seilwaith, torri telerau Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith, neu fethiant i gydymffurfio â’r telerau hynny, a’r gallu i gyflwyno hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig.

Mae pwerau hefyd i fynd ar dir, cael gwybodaeth, cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad o ddatblygiad anawdurdodedig, dyroddi hysbysiad stop dros dro a cheisio gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig.

Rhan 8 - Swyddogaethau atodol

Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer swyddogaethau atodol i alluogi’r system a grëwyd gan y Bil i weithredu.

Mae’r rhain yn cynnwys pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir, gofyniad ar Weinidogion Cymru i gynnal a chyhoeddi cofrestr o geisiadau am gydsyniad seilwaith, ceisiadau sy’n dod i law ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio, a gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir gan Weinidogion Cymru.

Rhan 9 - Darpariaethau Cyffredinol

Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.

Mae’r rhain yn cynnwys ystyr “datblygiad” at ddibenion y Bil, a gweithdrefnau ar gyfer rhoi hysbysiadau a gwneud rheoliadau.

Atodlenni 1, 2 a 3

Mae Atodlen 1 yn nodi’r darpariaethau atodol y gellir eu gwneud drwy Orchymyn Cydsyniad Seilwaith.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch digolledu am newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith.

Mae Atodlen 3 yn nodi diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Mae’r erthygl hon yn tynnu sylw at brif nodweddion y Bil yn unig ac ni fwriedir iddi fod yn hollgynhwysfawr. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb cynhwysfawr o’r Bil maes o law. Gallwch gyfeirio at y Bil a’i nodiadau esboniadol am fanylion llawn.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, a Katie Wyatt, Y Gwasanaethau Cyfreithiol, Senedd Cymru