tân gwyllt yn ffrwdro uwchben pier Dinbych-y-pysgod

tân gwyllt yn ffrwdro uwchben pier Dinbych-y-pysgod

Rheoli tân gwyllt yng Nghymru: pwnc llosg

Cyhoeddwyd 28/10/2021   |   Amser darllen munudau

I rai, mae tân gwyllt yn dod â fflach o lawenydd yng nghanol tywyllwch mis Hydref a mis Tachwedd. Ond mae eraill yn arwsydo rhag y ffrwydradau annisgwyl a'r fflachiadau sydyn.

Beth yw'r broblem gyda rocedi a chlecars?

tân gwyllt mawr yn ffrwydro uwchben toeon Caerdydd, gyda thân gwyllt llai yn y pellterGall sŵn tân gwyllt godi ofn ar lawer o bobl, yn enwedig plant a phobl hŷn. Mae cyn-filwyr sydd â phrofiad o ymladd yn dweud bod tân gwyllt yn gallu sbarduno pyliau o banig neu symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), gan ddisgrifio ffrwydradau uchel a fflachiadau annisgwyl y tân gwyllt fel profiad 'dychrynllyd'.

Mae’n cael effaith ar anifeiliaid hefyd. Gall cleciau uchel ddychryn anifeiliaid anwes, a pheri iddynt anafu eu hunain. Mae'r RSPCA yn tynnu sylw at y ffaith bod 45 y cant o gŵn yn dangos 'arwyddion o ofn' oherwydd tân gwyllt, a gall tân gwyllt 'aflonyddu’n fawr' ar rai rhywogaethau o adar. Mae'n ymgyrchu i sicrhau bod noson tân gwyllt yn peri llai o straen i anifeiliaid, ac mae am weld gostyngiad yn y sŵn a ganiateir ar gyfer tân gwyllt ar y lefel uchaf, cyfyngiadau tynnach ar werthu tân gwyllt, a thrwyddedau ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.

Mae deisebau a gyflwynwyd i'r Senedd a Senedd y DU wedi galw am i 'dân gwyllt tawel' yn unig gael ei werthu, am gyfyngiadau oed tynnach, am waharddiad llwyr ar werthu tân gwyllt i'r cyhoedd.

Yn 2019, Sainsbury's oedd yn archfarchnad gyntaf yn y DU i stopio gwerthu tân gwyllt ym mhob un o’i siopau, ond nid yw manwerthwyr eraill wedi dilyn ei esiampl eto.

A all Llywodraeth Cymru newid rheoliadau tân gwyllt?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod effaith tân gwyllt swnllyd ar anifeiliaid a phobl agored i niwed yn peri 'cryn bryder‘ iddi. Dywedodd: ‘At ei gilydd nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod y ddeddfwriaeth bresennol yn ddigonol i ddiogelu’r grwpiau hynny yn llawn’.

Mae cefnogaeth drawsbleidiol wedi cael ei lleisio yn y Senedd o blaid rheoliadau llymach ar gyfer defnyddio tân gwyllt. Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog wedi egluro:

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol i reoli'r defnydd o dân gwyllt.

Mae'r Ddeddf Tân Gwyllt 2003 yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU reoli'r defnydd o dân gwyllt yng Nghymru a Lloegr. Mae Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 yn gwahardd masnachwyr didrwydded rhag gwerthu tân gwyllt i'r cyhoedd, ac eithrio ar y dyddiau o gwmpas pedwar digwyddiad traddodiadol/diwylliannol gwarchodedig.

Dyma’r adegau pan gaiff masnachwyr didrwydded werthu tân gwyllt i'r cyhoedd:

  • y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, a'r 3 diwrnod yn union cyn yr ŵyl honno;
  • Diwali, a'r 3 diwrnod yn union cyn yr ŵyl honno;
  • Noson Tân Gwyllt (15 Hydref i 10 Tachwedd); a’r
  • Flwyddyn Newydd (26 i 31 Rhagfyr).

Mae’r rheoliadau yn gwahardd gwerthu tân gwyllt sydd â lefel sŵn dros 120 desibel. Maent hefyd yn cyfyngu ar ddefnyddio tân gwyllt heb ganiatâd rhwng 23.00 a 07.00. Ar nosweithiau'r pedwar dathliad uchod, mae'r cyfyngiadau'n cael eu llacio, a gellir cynnau tân gwyllt yn hwyrach.

Mae trosolwg cynhwysfawr o'r ddeddfwriaeth ar dân gwyllt yng Nghymru, a Lloegr, wedi cael ei gyhoeddi gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin.

Pwy sy'n gorfodi rheoliadau tân gwyllt?

Mae Rheoliadau 2004 yn rhoi pwerau gorfodi i awdurdodau lleol a'r heddlu mewn perthynas â chamddefnyddio tân gwyllt. Mae'r pwerau hyn yn cynnwys dirwyon yn y fan a'r lle o £90, ac erlyniadau a all arwain at ddirwyon o hyd at £5,000 a/neu ddedfryd o hyd at chwe mis yn y carchar.

Os yw swyddog awdurdod lleol yn barnu bod sŵn tân gwyllt yn niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, gall y swyddog hwnnw roi hysbysiad atal i'r sawl sy'n gyfrifol.

O dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau i fynd i'r afael â sŵn sy’n dod o gartrefi neu erddi rhwng 23:00 a 07:00.

I gyflwyno hysbysiad o dan y naill neu'r llall o'r Deddfau uchod, rhaid i swyddog iechyd yr amgylchedd farnu a yw'r sŵn sy’n dod o ddigwyddiad tân gwyllt preifat yn niwsans neu'n uwch na'r lefel a ganiateir. Mae sŵn tân gwyllt yn darfod mewn dim o dro ac, yn ymarferol, gall fod yn anodd olrhain tarddiad y sŵn.

Mae rheoliadau ar ddiogelwch defnyddwyr ac oedran prynu ar gyfer tân gwyllt yn cael eu gorfodi gan swyddogion safonau masnach lleol.

Pa ddeialog sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

Yn 2019, lansiodd Pwyllgor Deisebau Tŷ'r Cyffredin ymchwiliad i roi cyfle i bobl godi eu pryderon ynghylch y defnydd a’r camddefnydd o dân gwyllt.

Yn ei adroddiad, nid oedd y Pwyllgor yn cefnogi gwahardd y cyhoedd rhag prynu a defnyddio tân gwyllt. Ond canfu dystiolaeth fod y deisebau ar dân gwyllt wedi cael eu hysgogi gan bryder dilys.

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion i Lywodraeth y DU, gan gynnwys:

  • Deddfu i rymuso awdurdodau lleol, gan ganiatáu i drwyddedau tân gwyllt gael eu cyflwyno mewn cymunedau lle mae defnydd anghyfrifol o dân gwyllt yn broblem i’r trigolion;
  • Deddfu i atal pecynnau tân gwyllt sy'n apelio at blant;
  • Pennu strategaeth ynghylch mynd i'r afael â’r defnydd a wneir o gyfryngau cymdeithasol i werthu tân gwyllt yn anghyfreithlon;
  • Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ar ddefnyddio tân gwyllt mewn ffordd gyfrifol.

Yn 2020, gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd yn Llywodraeth Cymru anfon llythyr ar y cyd at Lywodraeth y DU yn ei hannog i dderbyn argymhellion Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin ac yn cynnig gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ystod o faterion. Gofynnodd Gweinidogion Cymru am ddeialog ar adolygu pwerau awdurdodau lleol; terfynau desibel ar dân gwyllt; a gwerthu tân gwyllt ar-lein, sy’n fater, medden nhw, nad yw’r rheoliadau ond yn prin gyffwrdd ag ef.

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, cytunodd Llywodraeth y DU i gydlynu ymgyrch ymwybyddiaeth, ond gwrthododd y rhan fwyaf o'r argymhellion eraill. Dywedodd y byddai'r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) yn casglu tystiolaeth ar dân gwyllt.

Cyhoeddodd OPSS ei adroddiad 'Consumer Behaviours and Attitudes to Fireworks’ ym mis Ebrill 2021.

Yn niffyg ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i dynhau'r rheoliadau, mae Llywodraeth Cymru wedi crybwyll y posibilrwydd o drosglwyddo pwerau deddfwriaethol i Weinidogion Cymru.

A yw tân gwyllt yn effeithio ar ansawdd aer?

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi adrodd bod cynnydd sylweddol yn llygryddion PM2.5 yn yr awyr o gwmpas noson tân gwyllt. Mae llygryddion PM2.5 yn ronynnau anadladwy bach iawn sydd â chysylltiadau pendant ag afiechydon cardiofasgwlaidd a chlefydau anadlol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymchwilio i gyfraniad coelcerthi domestig a thân gwyllt i allyriadau PM2.5, fel rhan o'i Chynllun Aer Glân i Gymru.

Parthed tân gwyllt, mae’r Llywodraeth yn dweud yn y Cynllun Aer Glân i Gymru:

Byddwn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i ddatblygu camau rheoleiddiol a/neu anrheoleiddiol pellach, pan fo’u hangen.

Sut mae tân gwyllt yn cael eu rheoleiddio yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban?

Yn yr Alban, daeth gwelliannau diweddar i Reoliadau Tân Gwyllt (Yr Alban) 2004 â rheoliadau tân gwyllt newydd i rym. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfyngu ar yr adegau o'r dydd pan fydd y cyhoedd yn gallu prynu a defnyddio tân gwyllt, ac maent yn golygu na ellir cyflenwi mwy na 5kg o dân gwyllt i’r cyhoedd ar unrhyw adeg.

Mae gan Ogledd Iwerddon gyfyngiadau tynnach ar dân gwyllt. O dan Reoliadau Ffrwydron (Tân Gwyllt) (Gogledd Iwerddon) 2002, rhaid i'r cyhoedd gael trwyddedau gan yr Adran Gyfiawnder er mwyn prynu tân gwyllt, meddu arno, a’i ddefnyddio. Nid oes angen trwydded ar gyfer ffyn gwreichion na thân gwyllt 'dan do'.

Ble mae hyn yn ein gadael ni?

Nid tân siafins yw pryder y cyhoedd am effeithiau negyddol tân gwyllt. Mae cyfyngiadau COVID yn golygu y bydd llai o sioeau tân gwyllt cyhoeddus yn cael eu cynnal yn 2021, ac mae hynny’n codi pryderon y bydd toreth o sioeau tân gwyllt preifat eleni.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch tân gwyllt, darllenwch gyngor Llywodraeth y DU ar dân gwyllt, neu ewch i wefan eich awdurdod lleol.


Erthygl gan Will Skinner, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru