Rhes o dai dan ddŵr

Rhes o dai dan ddŵr

Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru: a oes angen newidiadau?

Cyhoeddwyd 14/11/2023   |   Amser darllen munudau

Ar hyn o bryd, mae perygl y bydd llifogydd yn effeithio ar dros 245,000 o adeiladau yng Nghymru. Dangosodd digwyddiadau ddechrau 2020 sut y gall llifogydd ddinistrio cymunedau a busnesau. Wrth i’r dyddiau fyrhau ac wrth i’r tywydd droi’n wlypach, rydym yn gweld effeithiau llifogydd unwaith eto yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy nag erioed mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ystod tymor y Senedd hon, a’r nod yw cryfhau’r amddiffynfeydd sy’n diogelu dros 45,000 o gartrefi. Mae hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno ymyriadau sy'n seiliedig ar natur i reoli perygl llifogydd ac i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn cael eu rheoli wedi bod yn destun nifer o adolygiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar yn holi a oes angen newidiadau. Mae'r erthygl hon yn ystyried rhai o gasgliadau’r adroddiadau hyn.

Sut y caiff perygl llifogydd ei reoli

Aethom ati’n ddiweddar i ddiweddaru ein briff ymchwil yn rhoi trosolwg o drefniadau rheoli perygl lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Yn yr un modd, mewn adroddiad gan Archwilio Cymru a gyhoeddwyd yn 2022, ystyriwyd sut y mae rheoli perygl llifogydd yn gweithio, a hefyd nodwyd rhai o’r prif broblemau sy’n wynebu’r sector, sef:

  • mae’n debygol y bydd angen buddsoddiad hirdymor sylweddol i fynd i’r afael â’r peryglon llifogydd cynyddol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd;
  • cynyddu capasiti’r gweithlu yw’r flaenoriaeth fwyaf uniongyrchol i’r sector llifogydd;
  • mae bylchau o ran arweinyddiaeth ar y cyd ac integreiddio polisïau;
  • mae bylchau mewn data ar berygl llifogydd ac mae’r peryglon eu hunain yn newid o hyd gyda newid hinsawdd
  • gallai datblygiadau adeiladu mewn ardaloedd sydd mewn perygl mawr o gael llifogydd adael aelwydydd a busnesau mewn perygl o gael llifogydd a hwnnw’n berygl y gellir ei osgoi.

A yw'r cynlluniau presennol yn addas i'r diben?

Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol , wedi cynnal dau adolygiad ar wahân, yn unol â Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru..

Roedd yr adolygiad cyntaf yn ystyried a oes gan Gymru yr adnoddau a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’n cynnwys 20 o gynigion, ac mae rhai ohonynt yn eang iawn eu cwmpas ac yn galw am gynlluniau gweithredu manylach mewn rhai meysydd penodol. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y cynigion yn galw am ymrwymiad sylweddol o ran capasiti sefydliadol ac yn dweud y dylid creu'r capasiti hwn ar fyrder.

Roedd yr ail adolygiad yn ystyried a oes angen newid ehangach o ran deddfwriaeth a pholisi i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru. Mae'n cynnwys 10 o gynigion, a daw i’r casgliad bod nifer o wendidau yn y ddeddfwriaeth a’r polisïau presennol a oedd, meddai, yn effeithio ar allu Awdurdodau Rheoli Risg i gyflawni cyfrifoldebau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn effeithiol.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i’r naill adroddiad na’r llall eto.

Adolygu’r adroddiadau ar lifogydd 2020

Effeithiodd llifogydd ar 3,130 o adeiladau ledled Cymru ddechrau 2020. Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad o’i ymateb, a chynhaliodd awdurdodau lleol ymchwiliadau’n unol ag adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (adroddiadau Adran 19). Cyhoeddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf, sef yr ardal a ddioddefodd fwyaf, adroddiad o’r enw Storm Dennis – Adroddiad Trosolwg ym mis Gorffennaf 2021, ac yna cafwyd nifer o adroddiadau ymchwilio i lifogydd yn ôl yr ardal.

Mae'r ymchwiliadau hyn yn helpu’r Awdurdodau Rheoli Risg i ddeall maint yr effeithiau a gallant eu helpu i wella trefniadau rheoli risg mewn cymunedau, gan gynnwys cynlluniau newydd i leihau'r tebygolrwydd y bydd llifogydd eto.

Yn ei fersiwn ddiweddaraf o’i Rhaglen Lywodraethu , ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o’r adroddiadau hyn. Cyhoeddwyd yr adroddiad adolygu ar 31 Awst 2023. Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog:

Mae'r adolygiad desg hwn yn tynnu sylw at newidiadau strategol ac ymarferol a newidiadau i bolisïau a allai gryfhau’r broses o ymchwilio i lifogydd wrth gydnabod y cyfyngiadau o fewn y fframwaith presennol.

Mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn, eglurodd y Gweinidog fod yr adolygiad “yn canolbwyntio’n benodol ar ddeall y broses ymchwilio sydd ar waith ar hyn o bryd” a sut y cafodd ei defnyddio yng nghyd-destun y llifogydd difrifol yn 2020. Mae’r adolygiad yn nodi meysydd i’w gwella ac, yn fras, mae’n amlygu diffyg eglurder sy’n ei gwneud anodd i awdurdodau lleol ddeall diben cynnal ymchwiliad i lifogydd o dan adran 19, gan nodi ei fod yn oddrychol ac yn agored i’w ddehongli.

Mae’r Gweinidog yn dweud y bydd y casgliadau a‘r argymhellion, a’r modd y dylid bwrw ymlaen â nhw, yn cael eu trafod gan swyddogion Archwilio Cymru, y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Edrych tua'r dyfodol

Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn cynnal asesiad o’r modd y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd yn genedlaethol erbyn 2050. Mae hyn hefyd yn rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae’r Gweinidog yn dweud y bydd hyn yn ystyried gwytnwch y seilwaith, gan gynnwys y seilwaith cymdeithasol. Ysgrifennodd y Comisiwn at Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei ddull cychwynnol o weithredu, a fydd yn cynnwys pedair ffrwd gwaith ymchwil:

  • Gweledigaeth 2050 - datblygu gweledigaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd;
  • Ymateb Strategol a Gofodol - yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ymatebion strategol a gofodol cydgysylltiedig i drefniadau rheoli llifogydd;
  • Adnoddau - yr arian a'r gweithlu sydd eu hangen;
  • Cynllunio defnydd tir - meintioli a dadansoddi'r materion cynllunio defnydd tir sy'n gysylltiedig â llifogydd.

Bydd y gwaith yn arwain at adroddiad arall ar gyfer Llywodraeth Cymru (Hydref 2024), a fydd yn cynnwys argymhellion ynghylch sut y gellir gwella systemau a fframweithiau rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.

Rhaid aros i weld sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen ag argymhellion a chynigion y gyfres hon o adolygiadau ond, yn ôl y consensws sy’n dod i’r amlwg, mae’n rhaid i’r sefyllfa bresennol newid.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru