'Pysgota anfwriadol': yr offer sy’n parhau i bysgota

Cyhoeddwyd 23/09/2022   |   Amser darllen munudau

Wrth inni ddod yn fwyfwy ymwybodol o gyflwr ein moroedd, mae 'pysgota anfwriadol' yn ffenomen sy'n cael ei llusgo o’r dyfnderoedd i fod yn destun trafodaeth wleidyddol.

Mae rhwydi, cewyll a leiniau pysgota a gollwyd neu a daflwyd o’r neilltu yn parhau i ddal bywyd morol a mygu cynefinoedd. Mae’r anifeiliaid sy’n cael eu dal yn abwyd i ysglyfaethwyr mwy sydd, wedyn, yn cael eu dal yn gaeth eu hunain. Gan mai offer plastig yw hwn, ei waddol yn y tymor hir yw y caiff micro-blastigau eu rhyddhau i’r gadwyn fwyd.

Mae offer pysgota yn aml yn cael ei golli’n ddamweiniol, o ganlyniad i'r amodau ar y môr.

Gall yr offer hefyd fod yn niweidiol i bobl oherwydd y gall amharu ar fordwyo, gall gystadlu yn erbyn pysgotwyr am ddalfeydd, a chreu peryglon i sgwba-blymwyr.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar faint y broblem a’r mesurau i fynd i’r afael â hi.

Mae offer pysgota sy’n pwyso cymaint â 55,000 o fysiau deulawr yn cael ei golli bob blwyddyn

Ychydig iawn o bysgota anfwriadol sy’n cael ei gofnodi yng Nghymru, ond mae cyrff amgylcheddol fel y Gymdeithas Gadwraeth Forol yn pryderu am faint posibl y difrod.

Mae mentrau gwirfoddol fel Ghost Fishing UK a Neptune’s Army yn casglu data am faint y broblem, ac yn cael gwared ar offer o amgylcheddau morol. Gall un diwrnod o waith adfer gostio £1,000 i gael gwared ar 100kg, ar gyfartaledd, o offer a gollwyd.

Yn fyd eang, mae Greenpeace yn amcangyfrif bod 640,000 tunnell o offer yn cael ei adael yn y môr bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb o ran pwysau i 55,000 o fysiau deulawr. Amcangyfrifir bod yr offer yn creu 10% o’r llygredd plastig ym moroedd y byd, ond dyma sy’n creu’r rhan fwyaf o’r sbwriel plastig mawr.

Fel rhan o astudiaeth a gynhaliwyd yn 2010, dadansoddwyd 870 o rwydi pysgota a oedd wedi cael eu gadael oddi ar arfordir talaith Washington yn yr Unol Daleithiau. Roedd yr offer yn cynnwys 32,000 o organebau morol, gan gynnwys 1,036 o bysgod, 514 o adar a 23 o famaliaid morol.

O ran yr effaith economaidd, byddai cael gwared ar 10% o hen gewyll cramenogion yn arwain, o bosibl, at gynnydd o $831 bob blwyddyn yn y cynhaeaf. Yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd yn 2016, gwelwyd cynnydd o 23.8% yng nghynhaeaf crancod glas dros gyfnod o chwe mlynedd ar ôl cyflwyno rhaglenni i gael gwared ar offer a oedd wedi’i adael ym Mae Chesapeake yn yr Unol Daleithiau.

Y ‘Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd’ yw cyfle nesaf y DU i fynd i’r afael â physgota anfwriadol

Ddechrau’r flwyddyn, cyhoeddodd llywodraethau’r DU Gyd-ddatganiad Pysgodfeydd drafft yn amlinellu cynlluniau i wella cynaliadwyedd pysgota.

I fynd i’r afael â sbwriel môr, mae’n cynnig y dylai’r awdurdodau polisi pysgodfeydd (sy’n cynnwys Gweinidogion Cymru) gynyddu faint o’r offer pysgota hwnnw sy’n cyrraedd diwedd ei oes a gaiff ei gasglu a’i reoli’n gynaliadwy. Mae’n cynnig y dylid defnyddio dyluniaid cylchol ar gyfer offer pysgota a dyframaeth i sicrhau bod llai o offer yn cael ei golli, y dylid hwyluso’r gwaith o gasglu offer a gollwyd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd os na fydd modd ei gasglu. Maent yn ymrwymo i ddefnyddio defnyddiau sy’n ‘haws eu hailddefnyddio, eu trwsio a’u hailgylchu”.

Awgrymodd ymatebwyr i’r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd drafft y dylid cynnwys mesurau penodol yn y ‘cynlluniau rheoli pysgodfeydd’ (sy’n cynnwys polisïau i greu stoc bysgod gynaliadwy) i reoli gwastraff offer pysgota. Croesawodd nifer o ymatebwyr yr ymrwymiad i gymell pysgotwyr i ddefnyddio offer pysgota mwy dethol. Galwodd eraill i’r offer fod yn fioddiraddadwy ac iddo fod yn haws ei olrhain. Roedd rhai am weld y rhai a oedd yn creu’r llygredd yn cael eu trethu i ariannu ymdrechion sero net, tra oedd eraill yn dweud y dylid gwahardd offer a oedd yn creu llygredd yn gyfan gwbl. Tanlinellwyd bod llawer o fflydoedd eisoes yn cael gwared ar bob math o sbwriel môr.

Galwodd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd am fwy o ymrwymiadau penodol i leihau sbwriel môr yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd

Soniodd Cymdeithas Pysgodfeydd Cymru am fesurau gwirfoddol i leihau pysgota anfwriadol, fel rhoi drysau dianc mewn cewyll cimychiaid i ganiatáu i’r rhai ifanc ddianc. Mae bachau’r drysau hyn yn fioddiraddadwy, felly, dros gyfnod, maent yn agor i adael bwlch mawr i’r cimychiaid ddianc drwyddo os na chaiff y gawell ei chasglu. Mae ymdrechion hefyd i osod dyfeisiau ar offer i’w gwneud yn bosibl dod o hyd iddo drwy ddulliau sonar. Tynnwyd sylw at y problemau sydd ynghlwm wrth greu offer bioddiraddadwy gan fod angen iddo bara am gyfnod maith.

Croesawodd y Pwyllgor y cynnig yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd i ddefnyddio offer pysgota mwy dethol a chasglu offer pysgota sy’n dod i ddiwedd ei oes. Dywedodd y Pwyllgor y bydd y rhain yn gamau pwysig tuag at leihau swbriel môr, yn enwedig plastigion, yn yr amgylchedd morol.

Fodd bynnag, roedd yr Aelodau yn pryderu am y ffaith nad oedd y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd yn cynnwys ymrwymiadau, targedau na dulliau penodol ym maes lleihau gwastraff. Argymhellodd y Pwyllgor:

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd yn cynnwys strategaethau a thargedau clir ar gyfer lleihau sbwriel môr.

Dylai Llywodraeth Cymru geisio datblygu strategaeth glir sy’n nodi sut y bydd yn annog arloesi ym maes dylunio offer, cefnogi’r gwaith o gasglu offer a gollwyd, a hwyluso’r gwaith o waredu ac ailgylchu offer pysgota mewn porthladdoedd.

Disgwylir y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd ym mis Tachwedd pan ddaw uchelgais y llywodraethau i fynd i’r afael â physgota anfwriadol i’r amlwg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun ailgylchu offer pysgota – y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny

Mae biniau ailgylchu ar gyfer hen offer pysgota wedi’u gosod ym mhorthladdoedd Abertawe, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Abergwaun, Aberteifi, Conwy, Ynys Môn a Chaergybi. Y tro cyntaf i’r biniau gael eu casglu (ym mis Mawrth) caglwyd tair tunnell o offer pysgota i’w ailgylchu o’r saith porthladd o amgylch Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Odyssey Innovation Ltd, partneriaid yn y diwydiant pysgota, Surfers against Sewage a Cadwch Gymru'n Daclus i ddatblygu’r cynllun.

Yn y cyfamser… ar draws môr Iwerydd

Dyma enghreifftiau o leoedd eraill, gan gynnwys Canada, lle mae’r llywodraeth a’r diwydiant pysgota wedi cydweithio ar amrywiaeth o gynlluniau:

  • Ers 2018, mae’n ofynnol i’r holl bysgodfeydd yn Atlantic Canada sydd ag offer sefydlog, gan gynnwys pysgodfeydd crancod a chimychiaid, roi gwybod am unrhyw offer a gaiff ei golli a’i gasglu;
  • Datblygwyd rhaglen o’r enw Sustainable Fisheries Solutions and Retrieval Support Contribution Program (SFSRSCP) sy’n rhoi cymorth ariannol i’r rhai sy’n cynaeafu pysgod a chymunedau arfordirol i gasglu a chael gwared ar offer a gollwyd; a
  • Heriau plastig i annog busnesau bach i ddatblygu technolegau arloesol i gasglu offer a gollwyd a lleihau’r offer a gaiff ei golli yn y dyfodol. Yn 2019 , cafodd cwmni o Nova Scotia grant gan DFO i ddylunio system bysgota rad, heb raffau, sy’n seiliedig ar system acwstig a system olrhain offer i’w ddefnyddio mewn pysgodfeydd cimychiaid a chrancod.

Rhaid gweithredu’n rhyngwladol i fynd i’r afael ag offer pysgota a gollwyd ac sy’n cael ei gludo ymhell gan gerrynt y môr

Gan gydnabod bod sbwriel môr yn broblem fyd-eang sy’n galw am weithredu byd-eang, cytunodd Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal y DU a’r UE i fabwysiadu Siarter Plastigion y Môr yn 2018.

Drwy’r Siarter, mae’r partneriaid (dros 20 o wledydd a 60 o fusnesau a chyrff yn awr) yn ymrwymo i fabwysiadu dull cylch bywyd o reoli plastigion - gan gynnwys offer a gollwyd - a buddsoddi mwy mewn rhaglenni i lanhau’r arfordir.

At hyn, lansiwyd Global Ghost Gear Initiative (GGGI) yn 2015. Mae’r fenter hon yn canolbwyntio ar adeiladu tystiolaeth, datrys problemau’n ymarferol ac adolygu polisi. Mae’n dod â diwydiannau, llywodraethau, sefydliadau academaidd ac elusennau ynghyd. Un prosiect yw Menter Pysgod Cregyn Cynaliadwy Sir Benfro, sef cynllun peilot sy’n addasu cewyll cimychiaid i leihau pysgota anfwriadol.

Gallwch wylio ffilm 4 munud o hyd ar brosiect sydd ar waith yn Sir Benfro sy’n dangos ee sut y gellir defnyddio bachau bioddiraddadwy i ganiatáu i greaduriaid ddianc, a thagio i ganiatáu i offer gael ei ddychwelyd i bysgotwyr os caiff ei golli. Mae’r prosiect yn dangos pwysigrwydd mynd i’r afael â physgota anfwriadol o safbwynt cynaliadwyedd economaidd cymunedau arfordirol a'r amgylchedd morol.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru