Llun o grwp o bobl yn cerdded mewn parc

Llun o grwp o bobl yn cerdded mewn parc

Profiadau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

Cyhoeddwyd 06/11/2026   |   Amser darllen munud

Gyda mwy o bobl ifanc NEET, pa atebion y mae pobl ifanc yn galw amdanynt y dylai llunwyr polisi eu hystyried?

Cenhedlaeth dan bwysau ond yn byrlymu â photensial

Mae trafodaethau'r Senedd ac adroddiadau diweddar ledled y DU wedi tynnu sylw at nifer gynyddol o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Roedd pobl ifanc NEET hefyd yn bwnc trafod i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd flaenorol. Fe wnaeth ymchwiliad i addysg a hyfforddiant ôl-16 dynnu sylw at yr angen am lwybrau haws eu cyrraedd i bobl ifanc NEET, ac mae sefydliadau eraill, megis Archwilio Cymru, yn galw am gymorth wedi’i deilwra, yn enwedig i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol.

Mae'r erthygl hon yn trafod profiadau pobl ifanc o fod yn NEET a fframwaith posibl ar gyfer cael mynediad at gymorth a awgrymwyd gan astudiaeth o’r enw ‘Inside the Mind of a Young NEET’, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau amrywiol y gallent eu hwynebu. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ym mis Gorffennaf eleni yn trafod pobl ifanc NEET a'u cysylltiad â'r farchnad lafur, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael a sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r her.

Pobl ifanc NEET yng Nghymru a'r DU

Cymru sydd â'r ganran uchaf o bobl ifanc NEET 16-24 oed ledled y DU (14.6%), ond mae wedi gweld gostyngiad bach yn y niferoedd rhwng Mehefin 2025 a Mehefin 2026. Yn y rhanbarthoedd eraill, mae Lloegr a'r Alban wedi gweld newidiadau bach ac mae Gogledd Iwerddon wedi gweld cynnydd sylweddol.

Ffigur 1: Cyfran y bobl ifanc NEET ar draws y DU yn 2025 a 2026

Table 1 Wel

- Ffynhonnell: Amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc 16-24 oed NEET yn ôl oedran, a gwlad y DU, chwarter olaf 2024 a 2025

Ffigur 2: Cyfran gyfartalog y bobl ifanc NEET ar draws rhanbarthau economaidd Cymru dros y 3 blynedd diwethaf

Table 2 Wel

- Ffynhonnell: Pobl ifanc NEET yn ôl rhanbarthau economaidd, cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2025

Ar gyfartaledd, dros y tair blynedd diwethaf yng Nghymru bu rhai gwahaniaethau mewn cyfraddau NEET ar draws rhanbarthau economaidd Cymru, gyda'r uchaf yng Ngogledd Cymru (14.3%) a'r isaf yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru (13.3%). 

Yn ôl arolwg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae 84% o bobl ifanc NEET yn dymuno bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant. Roedd 81% o’r rhai a holwyd yn anhapus â’r system addysg ac yn teimlo bod gormod o bwyslais ar arholiadau. Roedd 67% o’r ymatebwyr yn teimlo nad oedd yr ysgol yn eu paratoi'n ddigonol ar gyfer y byd gwaith. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r system yn gweithio i bobl ifanc, ac mae’n codi cwestiynau ynghylch sut y gellir eu cefnogi'n well trwy addysg a hyfforddiant i ymuno â’r byd gwaith.

“System gyda gormod o nadroedd a dim digon o ysgolion” – yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu

Cyfeirir at y sylw uchod yn adroddiad interim Milburn a daw’r dyfyniad o astudiaeth o’r enw Inside the Mind of a Young NEET. Mae'n ymdrin â lleisiau a phrofiadau dros 400 o bobl ifanc NEET a gafodd eu cyfweld ledled y DU, gan gynnwys pobl ifanc o Wrecsam a Chaerdydd.

Mae'r astudiaeth, ac adroddiad Milburn, yn tynnu sylw at y ffaith na ellir ystyried pobl ifanc NEET fel un grŵp o bobl. Mae ganddynt ystod eang o brofiadau ac maent yn wynebu gwahanol heriau. Gallwn hefyd weld o'r adroddiad nad yw 6 o bob 10 o bobl ifanc NEET erioed wedi cael swydd, ond bod gan 4 o bob 10 o bobl ifanc NEET gymwysterau Safon Uwch neu uwch na hynny. Mae'r genhedlaeth hon yn wynebu cyfuniad unigryw o heriau fel tlodi, COVID, unigrwydd, dibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a phwysau costau byw.

Er nad yw pob person ifanc yn wynebu pob un o’r heriau, mae adroddiad Milburn yn dadlau mai yn anaml mae’r rhwystrau'n ymddangos ar eu pennau eu hunain. O'u gweld ar wahân, gall problemau ymddangos yn hylaw, ond mae iechyd meddwl er enghraifft yn gwaethygu yn sgil unigedd, a gall cyfrifoldebau gofalu effeithio ar bresenoldeb. Mae canfyddiadau arolwg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn awgrymu bod yr her yn ymwneud â deall pobl ifanc er mwyn gosod llwybrau sy’n addas i’r cymhlethdodau yn eu bywydau.

Dyma rai o’r lleisiau o Gymru sydd yn yr astudiaeth:

Disgrifiodd menyw ifanc o Gaerdydd sy’n defnyddio cadair olwyn ac sydd ag anhwylder niwrolegol gweithredol, ei phrofiad hi o’r system fudd-daliadau, gan ddweud nad yw diagnosis yn cael gwared ar rwystrau. Dywedodd ei bod wedi cael ei symud o gwrs addysg oherwydd problemau presenoldeb a achoswyd gan ei chyflwr a chafodd ei rhoi mewn fflat lle "mae popeth yn hygyrch heblaw am fy nghegin", er iddi fod yn gofyn i symud ei phreswylfa am dair blynedd..

Dywedodd person ifanc arall o Gaerdydd fod gwasanaethau oedolion wedi gwneud iddi orfod ail-fyw ei thrawma gan nad oedd gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd gydgysylltiedig. Dywedodd nad oedd y system yn wych am gadw trefn ar wybodaeth a bod rhaid iddi ail-esbonio popeth: “Which I wasn’t willing to do, because why would you want to re-traumatise yourself every time you get a new therapist?”

Dywedodd dyn ifanc a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth ac ADHD ei fod wedi gorfod cael diagnosis er mwyn cael y cymorth oedd ei angen arno. Yn ei ôl ef: “mainstream schools will find a way to say no, because they don’t want to spend the extra money. They need that diagnosis to go forward with things.”

Dywedodd person ifanc o Gaerdydd: “I went to two different primary schools because of bullying”, a pharhau wnaeth y bwlio yn yr ysgol uwchradd. Pan ofynnwyd iddynt a oedd yr ysgol wedi mynd i’r afael â’r mater, yr ateb oedd: “Nope”.

Dywedodd un person wnaeth adael y system gofal yng Nghaerdydd nad oedd hi wedi gadael ei thŷ am dros flwyddyn, a’i bod yn archebu bwyd i’r tŷ a threulio’r amser yn chwarae gemau Xbox. Disgrifiodd orbryder difrifol a dywedodd ei bod wedi teimlo'n eithaf sâl yn feddyliol.

Awgrymodd grŵp o bobl ifanc a gafodd eu cyfweld yn Wrecsam bod angen “gwell stwff iechyd meddwl” arnynt. Ategwyd eu sylwadau gan gyfranogwyr eraill yn yr astudiaeth a oedd yn galw am fwy o garedigrwydd, gan gynnwys y sylw hwn: “not shaming kids for not coming into school because they’re having a death”.

Fframwaith cymorth - goleuadau traffig

Mae’r adroddiad Inside the Mind of a Young NEET yn cynnig fframwaith i ddisgrifio pa mor bell y mae person ifanc oddi wrth gyflogaeth ac mae’n ganllaw i helpu i bontio’r bwlch hwnnw.

Mae'r fframwaith yn edrych yn fanylach ar pam mae person ifanc yn ddi-waith, pa gymorth neu weithredu sydd ei angen nesaf, a beth sydd angen i'r system ei gwneud.

Mae'r fframwaith yn awgrymu y gall person ifanc, gyda'r gefnogaeth gywir, symud o liw coch i oren neu o liw oren i wyrdd. Fodd bynnag, heb gymorth neu gyda'r cymorth anghywir, gall person ifanc symud yn hawdd i'r cyfeiriad anghywir. Mae’r fframwaith yn amlinellu’r potensial ar gyfer gwahanol ymatebion polisi ac yn nodi’r math o gefnogaeth y gallai fod ei angen ar berson ifanc.

Ffigur 3: System goleuadau traffig yn dangos y pellter oddi wrth waith

Tl Wel

Tabl 1: Nodweddion a chymorth a awgrymir ar gyfer pob categori yn y system goleuadau traffig.

Categori

Nodweddion

Cymorth/Ymyriadau

Coch - Sefydlogi

Nid yw’r person ifanc yn barod eto ac fe allai eu gwthio tuag at waith gael effaith na fwriedir

Mae rhwystrau sylweddol i waith yn cynnwys anawsterau iechyd meddwl, trawma, profiad anwadal o’r system dai, niwrowahaniaeth heb ei ganfod, profiad o’r system gofal, allgáu, teuluoedd yn chwalu.

Dull sy'n seiliedig ar berthnasoedd sy'n canolbwyntio ar gysondeb, diogelwch ac ymddiriedaeth i gefnogi sylfaen bywyd pob dydd.

Oren - Dadflocio

Mae’r person ifanc yn agos ati, ond mae rhwystrau penodol ac ymarferol yn aml yn eu dal yn ôl, ac efallai bod hyn wedi amharu ar eu hyder. 

Rhwystrau penodol a diffyg hyder neu hunan-gred oherwydd anawsterau neu anweithgarwch. Mae enghreifftiau'n cynnwys yr angen am ennill cymhwyster, geirda, profiad gwaith, ymarfer ar gyfer cyfweliadau, neu gymorth gyda'r prosesau.

Gall rhwystr bach neu oedi hir arwain at golli hyder neu golli cyfleoedd.

Cymorth ymarferol a chymorth wedi'i dargedu megis arian i ailsefyll prawf, talu costau teithio, delio â gwaith papur, esboniad o’r llwybrau, ymarfer ar gyfer cyfweliadau, dod o hyd i brofiad gwaith, a help i gyrraedd y cam nesaf.

Gwyrdd - Yn agor cil y drws

 Mae'r person ifanc yn barod. Mae'r rhwystr ar du’r cyflogwr neu'r system

Mae’n barod i weithio ond mae'r rhwystr ar du’r cyflogwr neu'r system.

 Er enghraifft, 'economi wrthod' ble nad oes yna ymatebion na sylwadau i geisiadau swydd, a dim ffyrdd penodol o wella.

Broceriaeth cyflogwyr, gwarant o adborth, help i ysgrifennu cais am swydd, recriwtio agored, cyfleoedd lleol, profiad gwaith â thâl, help gyda gwiriadau DBS, a chostau taith bws i gyfweliadau.

Ffynhonnell: Inside the Mind of a Young NEET

Anhawster cael mynediad at wasanaethau a thrafferthion yn yr ysgol

Dywedodd pobl ifanc ledled y DU eu bod wedi cael anhawster i fynd at wasanaethau cymorth, gan awgrymu eu bod ar gael mewn egwyddor ond nid mewn gwirionedd. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith bod angen oedolyn dibynadwy i'w cefnogi yn ystod rhai cyfnodau allweddol a'u bod nhw eisiau gweithio, ond bod hi’n anodd cael swyddi ar lefel mynediad, a bod hynny aml yn amhosibl heb fod ganddynt brofiad yn y byd gwaith.

Roedd pobl ifanc hefyd yn myfyrio nad yw'r ysgol "yn eich paratoi ar gyfer bywyd na gwaith". Fe wnaethon nhw siarad am fwlio oedd yn gwneud yr ysgol yn anodd ac yn drawmatig, pwysau arholiadau, diffyg llwybrau ar wahân i fynd i’r brifysgol, ac ychydig o arweiniad o ran opsiynau ar gyfer gadael yr ysgol. Fe wnaethant hefyd fynegi eu rhwystredigaeth o ran y diffyg dealltwriaeth ynghylch pobl ifanc sy'n gofalu am berthnasau, y rhai mewn gofal, a'r rhai â materion niwroamrywiaeth neu iechyd meddwl a waethygwyd gan ddiwylliant o ddisgyblaeth a rheolaeth lem.

Er gwaethaf Gwarant Pobl Ifanc, Llywodraeth flaenorol Cymru, mae cyfran y bobl ifanc NEET yn parhau i fod yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2026 i 2030, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod "yn hanfodol bod gennym system sgiliau sy’n hawdd i ddysgwyr gael mynediad ati, gydag opsiynau addysg a hyfforddiant hygyrch i atal pobl rhag llithro i anweithgarwch economaidd neu ddod yn NEET".

Disgwylir adroddiad terfynol Milburn yn hwyrach eleni a bydd yn canolbwyntio o’r newydd ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc NEET. Mae'n debygol y bydd ymateb i'r heriau hyn yn parhau i fod yn faes i ganolbwyntio arno am weddill y Seithfed Senedd.


Erthygl gan Erin Howard-Cook, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Erin Howard-Cook gan y WGSSS a'r ESRC a oedd yn ei galluogi i gwblhau’r erthygl hon.