Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar ofalwyr di-dâl a gweithwyr gofal cartref sy'n darparu cymorth yng nghartrefi pobl, ar adeg pan fo'r sector gofal cymdeithasol eisoes o dan bwysau difrifol.
Mae pryderon bod llawer o ofalwyr di-dâl, a oedd eisoes mewn trafferthion ariannol, yn cael eu gwthio i dlodi.
Ac mae’r cynnydd mewn costau tanwydd yn golygu bod mwy o weithwyr gofal cartref adael y sector, ac yn gwneud sefyllfa ddigynsail o ran prinder staff hyd yn oed yn waeth.
Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol
Canfu ymchwil Wythnos Gofalwyr fod mae mwy o ofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl nag erioed o'r blaen, gyda 23% o oedolion yng Nghymru (tua 584,134 o bobl) yn darparu gofal di-dâl i deulu neu ffrindiau, sy’n ganran uwch na’r hyn ydyw yng ngwledydd eraill y DU.
Mae dwyster y gofal y maent yn ei ddarparu hefyd wedi cynyddu. Mae nifer y bobl sy'n darparu dros 50 awr o ofal yr wythnos wedi codi 30% ledled y DU. Mae darparu mwy o ofal yn aml yn lleihau'r cyfle i ymdopi'n ariannol gan nad yw mor hawdd i ofalwyr weithio, gan eu gwthio i dlodi a chaledi ariannol.
Canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (Chwefror 2022) y bu'n rhaid i bron i hanner (48%) y gofalwyr di-dâl mewn arolwg roi'r gorau i waith cyflogedig oherwydd eu rôl gofalu. Dywedodd 42% eu bod wedi gorfod cwtogi ar wariant arall yr aelwyd er mwyn gofalu, a bu'n rhaid i 31% dorri'n ôl ar fwyd.
Fel mae ein herthygl ar gostau byw i bobl anabl yn nodi, mae gofalwyr di-dâl yn aml yn wynebu costau byw ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys costau ynni uwch i helpu i reoli cyflwr y person sy'n derbyn gofal ac i bweru offer arbenigol; biliau bwyd uwch oherwydd gofynion maethol penodol; a chostau trafnidiaeth uwch oherwydd anghenion trafnidiaeth hygyrch a mwy o deithio i apwyntiadau meddygol.
Our son relies on life saving equipment which must be constant and available at all times i.e., a hospital pressure mattress, an oxygen nebulizer, suction hoist, air conditioning, heating and so on. (Arolwg Carers UK)
Mum is bedbound with advanced Parkinsons so she needs the house to be quite warm especially when she is being bed-bathed, etc. but we can't afford to keep the heating turned up high. (Arolwg Carers UK)
Canfu Carers UK fod dros hanner (51%) y gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn dweud nad oeddent yn gallu cael trefn ar eu treuliau misol. Canfu ymchwil mis Chwefror 2022 fod 66% o ofalwyr wedi torri'n ôl ar wres; ac roedd 41% o ofalwyr yn pryderu y byddai'n rhaid iddynt ddefnyddio banc bwyd yn y misoedd i ddod.
Dywed rhanddeiliaid nad yw'r pwysau ariannol hwn yn gynaliadwy, a bydd yn arwain at ofalwyr yn dod i ben eu tennyn ac yn methu â pharhau i ofalu – gan drosglwyddo costau hynny i awdurdodau lleol a'r wladwriaeth.
Sut mae llywodraethau wedi ymateb i’r pwysau costau byw sy'n wynebu gofalwyr di-dâl?
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod y bydd gofalwyr di-dâl yn wynebu mwy o bwysau ariannol nag eraill. Ym mis Mawrth cyhoeddodd taliad cymorth o £500 i ofalwyr sy'n derbyn Lwfans Gofalwr (tua 57,000 o ofalwyr yng Nghymru).
Ym mis Mehefin, ehangodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth i Ofalwyr sy'n galluogi gofalwyr i wneud cais am grantiau o hyd at £300 i dalu am fwyd, eitemau i’r cartref ac eitemau electronig.
Ar 19 Gorffennaf, ehangodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf fel y gallai rhagor o aelwydydd, gan gynnwys y rhai sydd ar Lwfans Gofalwr a budd-daliadau anabledd, fod yn gymwys i gael y taliad o £200.
Mae'r camau hyn wedi'u croesawu, ond mae rhanddeiliaid yn credu bod angen cymryd camau pellach o hyd.
Tynnodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr sylw at ei siom nad yw taliad cymorth £650 Llywodraeth y DU (i helpu hawlwyr budd-daliadau gyda chostau byw) yn gymwys i'r rhai sydd ar Lwfans Gofalwr.
Cododd y Lwfans Gofalwr 3.1% ym mis Ebrill 2022, a disgwylir i chwyddiant gyrraedd 11% yn ddiweddarach eleni
Fel elusennau anableddau, mae sefydliadau gofalwyr yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i gynyddu’r Lwfans Gofalwr a budd-daliadau eraill yn unol â chwyddiant. Mae rhanddeiliaid hefyd am i Lywodraeth y DU ymestyn y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar unwaith i sicrhau ei fod yn cynnwys gofalwyr.
Mae mwy o staff gofal cartref yn gadael y sector
Mae yna argyfwng y gweithlu ym maes gofal cymdeithasol, gyda phrinder dybryd o ran staff, a phroblemau mawr o ran recriwtio a chadw staff, yn enwedig ym maes gofal cartref – y rhai sy'n gofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae effaith prinder staff gofal cartref yn cael ei theimlo ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae prinder difrifol o ran staff yn lleihau capasiti gwasanaethau, ac yn golygu bod pobl yn gorfod aros yn yr ysbyty yn hirach na'r angen gan na ellir rhoi pecynnau gofal ar waith gartref. Mynegwyd pryderon hefyd bod y diffyg gofal cartref yn arwain at leoli rhai pobl hŷn mewn gofal preswyl fel mesur dros dro, sydd mewn llawer o achosion yn dod yn rhywbeth parhaol.
Nawr, mae'r argyfwng costau byw yn gwneud y sefyllfa'n waeth fyth; gyda mwy o staff gofal cartref yn gadael y sector oherwydd y cynnydd ym mhris tanwydd. Mae'r swydd yn golygu teithio i nifer o gartrefi bob dydd i ddarparu gofal, ac nid yw'r cyflogau cymharol isel yn talu'r costau.
Mae'r sefyllfa'n arbennig o llym i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Er enghraifft dywedodd gweithiwr gofal yng Ngheredigion ei bod yn gyrru dros 600 milltir yr wythnos yn rheolaidd ac ni all fforddio'r petrol mwyach. Dywedodd gweithiwr gofal arall wrth y cyfryngau fod tri chwarter ei chyflog yn mynd ar danwydd ac ni fydd yn gallu gwneud y gwaith am lawer hirach. Dywedodd darparwr gofal yn Ninbych fod "rhai o'r staff wedi bod yn dod i mewn yn crio gan ddweud na allen nhw fforddio'r tanwydd".
Ym mis Mawrth 2022, cynhaliodd y gymdeithas Homecare Association arolwg o ddarparwyr gofal cartref ledled y DU a chanfu’r canlynol:
- Dywedodd hanner y darparwyr fod gweithwyr gofal wedi gofyn am gynnydd yn y gyfradd teithio fesul milltir;
- Dywedodd mwy nag un rhan o bump (21%) fod gweithwyr gofal naill ai wedi rhoi rhybudd o ymddisywyddo, yn bwriadu chwilio am waith mewn mannau eraill neu eisoes wedi gwneud hynny am na allant fforddio rhoi tanwydd yn eu ceir.
- Roedd 92% o ddarparwyr naill ai'n bryderus neu'n bryderus iawn am effaith y cynnydd mewn costau tanwydd ar hyfywedd ariannol eu cwmni.
Dywedodd y gymdeithas fod pris cyfartalog y DU fesul litr o betrol y mis diwethaf 46% yn uwch na blwyddyn yn ôl, a diesel 48% yn ddrutach. Yn ôl ei gyfrifiadau, mae hyn yn golygu bod £107 miliwn ychwanegol bellach yn cael ei wario gan sector gofal cartref y DU bob blwyddyn ar danwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn uwch na'i amcangyfrifon blaenorol (yn seiliedig ar brisiau tanwydd mis Mai 2022) o £74 miliwn ychwanegol ar gyfer y DU, £4.4 miliwn yng Nghymru.
Mae'r gymdeithas hefyd yn nodi bod gwahaniaeth sylweddol rhwng y cyfraddau milltiroedd a dderbynnir gan staff y GIG (a gaiff eu talu 54c y filltir yn aml) a gweithwyr gofal cartref (weithiau dim ond 10c y filltir a gaiff ei dalu).
Sut mae llywodraethau wedi ymateb i bwysau ar weithwyr gofal cartref?
Yn ystod y pandemig, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun gwella tâl salwch statudol COVID-19 dros dro ar gyfer gweithwyr gofal i alluogi staff i gael tâl llawn am absenoldebau cymwys. Mae’r cynllun hwn wedi cael ei ymestyn ond mae disgwyl iddo ddod i ben ar 31 Awst, sy’n golygu ei bod yn bosibl y bydd sefyllfa ariannol llawer o weithwyr gofal yn gwaethygu os cânt COVID. Mae undebau yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y cynllun yn un parhaol a‘i ehangu i gwmpasu pob math o absenoldeb salwch
Ym mis Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru daliad ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol wedi’i alinio â'r Cyflog Byw Gwirioneddol 'i ddangos ei hymrwymiad i weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru i weithio yng Nghymru'.
Ym mis Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £10 miliwn arall yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i gefnogi gofal cartref a chynyddu'r gwasanaethau a ddarperir. Dywedodd y gall yr arian gael ei ddefnyddio i dalu am wersi gyrru i weithwyr gofal cartref a phrynu cerbydau fflyd trydan.
Mae rhai Aelodau Seneddol a gweithwyr gofal yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cerdyn disgownt tanwydd i weithwyr gofal ac ymestyn y cynllun rhyddhad trethi tanwydd gwledig i rannau o Gymru. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i ysgafnhau'r baich ar bobl mewn ardaloedd gwledig lle mae prisiau wrth y pwmp yn uwch na'r cyfartaledd, gan dorri 5c o'r dreth tanwydd safonol — ond dim ond i rannau anghysbell o'r Alban, Ynysoedd Sili ac ychydig o ardaloedd yn Lloegr y mae'n berthnasol.
Mae'r gymdeithas Homecare Association yn galw ar Lywodraethau i ddarparu cyllid grant dros dro fel lwfans tanwydd i dalu costau uwch sydd eu hangen i ddarparu gofal cartref.
Hyd yma, nid oes unrhyw gamau penodol wedi'u cymryd i helpu gweithwyr gofal cartref gyda chostau tanwydd.
Wrth i gostau byw barhau i godi, felly hefyd y bydd pryderon am allu gofalwyr di-dâl a staff gofal cartref i barhau â'u rolau, oni bai y darperir cymorth pellach.
Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru