Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

Cyhoeddwyd 26/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2020   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod gostyngiad yn y nifer o bobl rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ond cafwyd cynnydd bach yn y grŵp rhwng 19 a 24 oed. Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi dwy set wahanol o ystadegau sy'n ymwneud â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru. Mae'r Datganiad Ystadegol Cyntaf, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol ym mis Gorffennaf a hwnnw yw'r ffynhonnell ddiffiniol o ran amcangyfrifon o'r cyfran o bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae ail fwletin ystadegol, Pobl Ifanc heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant, yn cael ei gyhoeddi bob chwarter ac mae'n rhoi ystadegau mwy amserol, ond sy'n llai cadarn yn ystadegol, ac mae'n cynnwys dadansoddiad yn ôl rhyw, oed a rhanbarth. Nid yw’n bosibl gwneud hynny gyda data'r Datganiad Ystadegol Cyntaf.

Pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed

Mae'r ystadegau a ryddhawyd ar 24 Gorffennaf 2013 yn dangos bod y gyfran o'r bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi gostwng o 12.2% yn 2011 i 10.2% yn 2012. Mae'r gostyngiad yn fwy sylweddol ymysg dynion (2.6 pwynt canran) nag ymysg merched (1.5 pwynt canran). Er gwaethaf hynny, mae'r cyfraddau o ddynion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant sydd rhwng 16 a 18 oed yn parhau i fod yn uwch na'r cyfraddau o ferched yn y categori hwn, a dyna fu'r sefyllfa ers dechrau casglu'r data yn 2004.

Pobl ifanc rhwng 19 a 24 oed

Mae'r gyfran o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi cynyddu fymryn, o 22.2% yn 2011 i 23.0% yn 2012. Fodd bynnag, roedd gostyngiad ymysg merched o 0.8 pwynt canran, wrth i'r gyfradd ymysg dynion godi gan 2.2 pwynt canran. Yn wahanol i'r ystod oedran rhwng 16 a 18 oed, mae'r cyfraddau o ferched nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn draddodiadol wedi bod yn uwch, er bod y bwlch â'r dynion bellach wedi cau i 3 pwynt canran. Mae gan Gymru'r gyfradd uchaf o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn y DU er nad oes ganddi'r gyfradd uchaf ar gyfer y grŵp rhwng 16 ac 18 oed, wedi i'r gyfradd yn yr Alban fynd y tu hwnt i'r lefelau yng Nghymru yn 2012. Mae cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant a'r gweithlu a diweithdra yn broblem sylweddol ledled y DU, ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod y maes hwn yn her fawr ac flaenoriaeth allweddol (Rhaglen Lywodraethu, Adroddiad Blynyddol 2012, t.15) Mae Llywodraeth Cymru yn symud o gynllun gweithredu ymgysylltu a chyflogaeth ieuenctid i fframwaith a sefydlwyd ar chwe bloc adeiladu allweddol. Cyhoeddwyd hynny mewn datganiadau Cabinet ar 17 Ionawr a 23 Ebrill 2013. Mae disgwyl y bydd yn cyhoeddi manylion am ei chynllun i weithredu'r fframwaith ymgysylltu a dablygu ieuenctid ym mis Medi (2013).
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.