Fideo yn dangos barn pobl ifanc am entrepreneuriaeth

Cyhoeddwyd 27/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cafodd fideo yn dangos entrepreneuriaid ifanc yn lleisio barn am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yng Nghymru i sefydlu eu busnes eu hunain ei gyflwyno adeg Ymchwiliad Pwyllgor a'i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad. Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc yng Nghymru ac fe wyliodd y fideo yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin 2013.  Cafodd y fideo ei lunio a'i olygu o ffilm o tua 35 cyfweliad gyda phobl ifanc ledled Cymru sydd yn ymwneud â dechrau busnes. Fideo yn dangos barn pobl ifanc am entrepreneuriaeth Mae'r fideo tua 13 munud o hyd ac mae pum rhan iddo:
  • Menter mewn Addysg
  • Gwybodaeth a Mentora
  • Cyllid a Chefnogaeth
  • Cyd-destun Economaidd a Rhanbarthol
  • Yr Ysbryd Entrepreneuraidd

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.