Pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed
Mae'r ystadegau a ryddhawyd ar 24 Gorffennaf 2013 yn dangos bod y gyfran o'r bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi gostwng o 12.2% yn 2011 i 10.2% yn 2012. Mae'r gostyngiad yn fwy sylweddol ymysg dynion (2.6 pwynt canran) nag ymysg merched (1.5 pwynt canran). Er gwaethaf hynny, mae'r cyfraddau o ddynion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant sydd rhwng 16 a 18 oed yn parhau i fod yn uwch na'r cyfraddau o ferched yn y categori hwn, a dyna fu'r sefyllfa ers dechrau casglu'r data yn 2004.Pobl ifanc rhwng 19 a 24 oed
Mae'r gyfran o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant wedi cynyddu fymryn, o 22.2% yn 2011 i 23.0% yn 2012. Fodd bynnag, roedd gostyngiad ymysg merched o 0.8 pwynt canran, wrth i'r gyfradd ymysg dynion godi gan 2.2 pwynt canran. Yn wahanol i'r ystod oedran rhwng 16 a 18 oed, mae'r cyfraddau o ferched nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn draddodiadol wedi bod yn uwch, er bod y bwlch â'r dynion bellach wedi cau i 3 pwynt canran. Mae gan Gymru'r gyfradd uchaf o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn y DU er nad oes ganddi'r gyfradd uchaf ar gyfer y grŵp rhwng 16 ac 18 oed, wedi i'r gyfradd yn yr Alban fynd y tu hwnt i'r lefelau yng Nghymru yn 2012. Mae cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant a'r gweithlu a diweithdra yn broblem sylweddol ledled y DU, ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod y maes hwn yn her fawr ac flaenoriaeth allweddol (Rhaglen Lywodraethu, Adroddiad Blynyddol 2012, t.15) Mae Llywodraeth Cymru yn symud o gynllun gweithredu ymgysylltu a chyflogaeth ieuenctid i fframwaith a sefydlwyd ar chwe bloc adeiladu allweddol. Cyhoeddwyd hynny mewn datganiadau Cabinet ar 17 Ionawr a 23 Ebrill 2013. Mae disgwyl y bydd yn cyhoeddi manylion am ei chynllun i weithredu'r fframwaith ymgysylltu a dablygu ieuenctid ym mis Medi (2013).Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.