Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (30/09/2013)

Cyhoeddwyd 30/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2020   |   Amser darllen munudau

30 Medi 2013 Ymhellach i ddatganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ddydd Mercher diwethaf a chyn ei ddatganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn yfory (dydd Mawrth, 1 Hydref), hoffai’r Gwasanaeth Ymchwil dynnu eich sylw at y canlynol: Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil bapur ymchwil ar y lefelau o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Yr oedd yn cynnwys cyfeiriad at Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid, sy'n cael ei ddisodli gan fframwaith newydd ar gyfer ymgysylltu a datblygu ieuenctid. Pobl Ifanc Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant Mae'r papur ymchwil hwn yn rhoi trosolwg o'r ystadegau mwyaf diweddar ar nifer y bobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a gyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2013.   Mae hefyd yn gosod cyd-destunau polisi diweddar a chyfredol y strategaethau a'r rhaglenni sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r hyn sy'n broblem hirdymor ac ystyfnig yng Nghymru a thu hwnt.  Ymchwilir hefyd i rai o'r heriau a'r materion ehangach sy'n ymwneud â'r pwnc hwn. Erthygl gan Michael Dauncey.